Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Amseriad disgwyliedig: 13(v2) 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 07/07/2021 - Y Cyfarfod Llawn

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

(45 munud)

1.

Cwestiynau i Weinidog yr Economi

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog a Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon ar ôl cwestiwn 2.

(45 munud)

2.

Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.27

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiynau 1 a 3 eu ateb gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol. Atebwyd cwestiwn 6 gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 15.22 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y Llywydd.

(20 munud)

3.

Cwestiynau Amserol

Gofyn i’r Gweinidog Newid Hinsawdd

Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad yn ymateb i’r galwadau gan arweinwyr y 22 o awdurdodau lleol Cymru i Lywodraeth Cymru adolygu pwerau a chylch gwaith Cyfoeth Naturiol Cymru?

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.31

I’r Gweinidog Newid Hinsawdd:

Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad yn ymateb i’r galwadau gan arweinwyr y 22 o awdurdodau lleol Cymru i Lywodraeth Cymru adolygu pwerau a chylch gwaith Cyfoeth Naturiol Cymru?

(5 munud)

4.

Datganiadau 90 eiliad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.44

Gwnaeth Huw Irranca-Davies ddatganiad am Daith Gerdded Fawr Prostate Cymru.

Gwnaeth Altaf Hussain ddatganiad i nodi 26 mlynedd ers Hil-laddiad Srebrenica.

Cynigion i ethol Aelodau i Bwyllgorau

Dechreuodd yr eitem am 15.48

Yn unol â Rheolau Sefydlog 12.24 a 12.40, cafodd y cynigion i ethol aelodau i bwyllgorau eu grwpio ar gyfer dadl a phleidleisio.

NDM7753 - Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:

Sarah Murphy (Llafur Cymru), Ken Skates (Llafur Cymru), Altaf Hussain (Ceidwadwyr Cymreig), Sioned Williams (Plaid Cymru) a Jane Dodds (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru) yn aelodau o’r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol.

NDM7754 - Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:

Ken Skates (Llafur Cymru), Buffy Williams (Llafur Cymru), Laura Anne Jones (Ceidwadwyr Cymreig), James Evans (Ceidwadwyr Cymreig) a Siân Gwenllian (Plaid Cymru) yn aelodau o’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.

NDM7755 - Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:

Alun Davies (Llafur Cymru), Carolyn Thomas (Llafur Cymru), Joel James (Ceidwadwyr Cymreig), Sam Rowlands (Ceidwadwyr Cymreig) a Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) yn aelodau o’r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai.

NDM7756 - Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:

Hefin David (Llafur Cymru), Vikki Howells (Llafur Cymru), Sarah Murphy (Llafur Cymru), Samuel Kurtz (Ceidwadwyr Cymreig), a Luke Fletcher (Plaid Cymru) yn aelodau o Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig.

NDM7757 - Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:

Mike Hedges (Llafur Cymru), Jack Sargeant (Llafur Cymru), Joyce Watson (Llafur Cymru), Gareth Davies (Ceidwadwyr Cymreig), a Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru) yn aelodau o’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

NDM7758 - Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:

Huw Irranca-Davies (Llafur Cymru), Jenny Rathbone (Llafur Cymru), Joyce Watson (Llafur Cymru), Janet Finch-Saunders (Ceidwadwyr Cymreig), a Delyth Jewell (Plaid Cymru) yn aelodau o’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith.

NDM7759 - Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:

Hefin David (Llafur Cymru), Alun Davies (Llafur Cymru), Carolyn Thomas (Llafur Cymru), Tom Giffard (Ceidwadwyr Cymreig), a Heledd Fychan (Plaid Cymru) yn aelodau o’r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol.

NDM7760 - Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:

Mike Hedges (Llafur Cymru), Rhianon Passmore (Llafur Cymru), Natasha Asghar (Ceidwadwyr Cymreig) a Cefin Campbell (Plaid Cymru) yn aelodau o’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus.

NDM7761 - Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:

Buffy Williams (Llafur Cymru), Joel James (Ceidwadwyr Cymreig) a Luke Fletcher (Plaid Cymru) yn aelodau o’r Pwyllgor Deisebau.

NDM7762 - Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:

1. John Griffiths (Llafur Cymru), Andrew RT Davies (Ceidwadwyr Cymreig) a Heledd Fychan (Plaid Cymru) yn aelodau o'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad.

2. Rhianon Passmore (Llafur Cymru) ar ran Vikki Howells (Llafur Cymru), Jack Sargeant (Llafur Cymru) ar ran John Griffiths (Llafur Cymru), Natasha Asghar (Ceidwadwyr Cymreig) ar ran Andrew RT Davies (Ceidwadwyr Cymreig) a Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru) ar ran Heledd Fychan (Plaid Cymru), yn aelodau amgen o’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad.

NDM7763 - Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Mike Hedges (Llafur Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Cyllid yn lle Alun Davies (Llafur Cymru).

NDM7764 - Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Jayne Bryant (Llafur Cymru) yn lle Jack Sargeant (Llafur Cymru), a Peter Fox (Ceidwadwyr Cymreig) yn lle Mark Isherwood (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelodau o’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad.

Derbyniwyd y cynigion yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(60 munud)

5.

Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Busnesau bach a thwristiaeth

NDM7744 Hefin David (Caerffili)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi'r rôl sylweddol y mae busnesau bach yn ei chwarae o ran cynnal economïau lleol drwy gydol pandemig y coronafeirws drwy addasu i amgylchiadau na welwyd eu tebyg o'r blaen.

2. Yn nodi pwysigrwydd busnesau bach lleol, yn enwedig rhai yn y sector twristiaeth a'r sectorau cysylltiedig, wrth i ni adfer o'r pandemig a dechrau ail-adeiladu ein cymunedau a'n heconomïau lleol.

3. Yn nodi ymhellach yr anogaeth gref gan Lywodraeth Cymru i bobl fynd ar wyliau yng Nghymru eleni a mwynhau ei hatyniadau a'i safleoedd o harddwch naturiol eithriadol niferus.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda chynrychiolwyr y gymuned busnesau bach a thwristiaeth i hyrwyddo Cymru fel cyrchfan twristiaeth gynaliadwy drwy gydol y flwyddyn. 

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r un rhanddeiliaid er mwyn integreiddio'r ddau sector i'w strategaeth economaidd a chynlluniau adfer COVID-19 yn nhymor y chweched Senedd er mwyn sicrhau bod y ddau yn cael eu cefnogi'n ddigonol a bod ganddynt y gwydnwch angenrheidiol i gynnal unrhyw ergydion yn y dyfodol. 

Cyd-gyflwynwyr

John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)

Delyth Jewell (Dwyrain De Cymru)

Cefnogwyr

Carolyn Thomas (Gogledd Cymru)

Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Peredur Owen Griffiths (Dwyrain De Cymru)

Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Sarah Murphy (Pen-y-Bont ar Ogwr)

Vikki Howells (Cwm Cynon)

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 16.36 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y Dirprwy Lywydd.

(60 munud)

6.

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Y rhwydwaith ffyrdd

NDM7748 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn gresynu at:

a) methiant llywodraethau olynol Cymru i fynd i'r afael â phroblemau gyda thagfeydd a llygredd aer ar y rhwydwaith ffyrdd yng Nghymru;

b) dosbarthiad annheg buddsoddiad cyfalaf yn y rhwydwaith ffyrdd ledled Cymru;

c) y rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus gwael a thoriadau mewn gwasanaethau bysiau, yn enwedig yng nghefn gwlad Cymru.

2. Yn nodi â phryder penderfyniad Llywodraeth Cymru i oedi pob cynllun gwella ffyrdd newydd.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) adeiladu ffordd liniaru'r M4, uwchraddio'r A55 a'r A470, a deuoli'r A40 i Abergwaun;

b) cael gwared ar gynigion i alluogi cyflwyno prisio ffyrdd yng Nghymru;

c) gwella mynediad i seilwaith gwefru cerbydau trydan yn sylweddol;

d) gweithio gyda gweithredwyr bysiau a rhanddeiliaid eraill i sicrhau bod trafnidiaeth gyhoeddus yn opsiwn ymarferol i bobl ym mhob rhan o'r wlad.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.48

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM7748 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn gresynu at:

a) methiant llywodraethau olynol Cymru i fynd i'r afael â phroblemau gyda thagfeydd a llygredd aer ar y rhwydwaith ffyrdd yng Nghymru;

b) dosbarthiad annheg buddsoddiad cyfalaf yn y rhwydwaith ffyrdd ledled Cymru;

c) y rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus gwael a thoriadau mewn gwasanaethau bysiau, yn enwedig yng nghefn gwlad Cymru.

2. Yn nodi â phryder penderfyniad Llywodraeth Cymru i oedi pob cynllun gwella ffyrdd newydd.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) adeiladu ffordd liniaru'r M4, uwchraddio'r A55 a'r A470, a deuoli'r A40 i Abergwaun;

b) cael gwared ar gynigion i alluogi cyflwyno prisio ffyrdd yng Nghymru;

c) gwella mynediad i seilwaith gwefru cerbydau trydan yn sylweddol;

d) gweithio gyda gweithredwyr bysiau a rhanddeiliaid eraill i sicrhau bod trafnidiaeth gyhoeddus yn opsiwn ymarferol i bobl ym mhob rhan o'r wlad.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

15

0

40

55

Gwrthodwyd y cynnig.

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 17.31 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro i gael egwyl dechnegol cyn y cyfnod pleidleisio.

7.

Cyfnod pleidleisio

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.37

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol:

(30 munud)

8.

Dadl Fer

NDM7747 Peredur Owen Griffiths (Dwyrain De Cymru)

Mwy na dim ond gwên: A yw preswylwyr cartrefi gofal yn cael triniaeth ddeintyddol sy'n briodol?

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.38

NDM7747 Peredur Owen Griffiths (Dwyrain De Cymru)

Mwy na dim ond gwên: A yw preswylwyr cartrefi gofal yn cael triniaeth ddeintyddol sy'n briodol?