Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 10(v3)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 29/06/2021 - Y Cyfarfod Llawn
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai
Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. |
||||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Enwebiadau ar gyfer cadeiryddion pwyllgorau Bydd y Llywydd yn gwahodd enwebiadau ar gyfer
cadeiryddion y pwyllgorau canlynol yn unol â Rheol Sefydlog 17.2F: 1. Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol
(Llafur) 2. Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth
Gyhoeddus (Ceidwadwyr Cymreig) 3. Y Pwyllgor Cyllid (Plaid Cymru) 4. Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
(Llafur) 5. Y Pwyllgor Deisebau (Llafur) 6. Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon
a Chysylltiadau Rhyngwladol (Plaid Cymru) 7. Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig
(Ceidwadwyr Cymreig) 8. Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ceidwadwyr
Cymreig) 9. Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai (Llafur) 10. Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith
(Plaid Cymru) 11. Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg (Llafur) 12. Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad (Llafur) Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
13.30 Gwahoddodd y Llywydd
enwebiadau ar gyfer cadeiryddion y pwyllgorau yn unol â Rheol Sefydlog 17.2F.
Galwyd am enwebiadau yn y drefn a ganlyn: Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol (Llafur) Enwebwyd Jenny Rathbone gan Jayne Bryant. Gan nad oedd ond un enwebiad, ac na chafwyd gwrthwynebiad
i’r enwebiad, datganodd y Llywydd fod Jenny Rathbone wedi ei hethol yn
Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol. Y
Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus (Ceidwadwyr
Cymreig) Enwebwyd Mark Isherwood gan Laura Anne Jones. Gan nad oedd ond un enwebiad, ac na chafwyd gwrthwynebiad
i’r enwebiad, datganodd y Llywydd fod Mark Isherwood wedi ei ethol yn Gadeirydd
y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus. Y
Pwyllgor Cyllid (Plaid Cymru) Enwebwyd Peredur Owen Griffiths gan Delyth Jewell. Enwebwyd Rhys ab Owen gan Sioned Williams. Gan fod dau enwebiad, cyfeiriodd y Llywydd yr enwebiadau
ar gyfer pleidlais gyfrinachol yn unol â Rheol Sefydlog 17.21. Y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Llafur) Enwebwyd Huw Irranca-Davies gan Sarah Murphy. Gan nad oedd ond un enwebiad, ac na chafwyd gwrthwynebiad
i’r enwebiad, datganodd y Llywydd fod Huw Irranca-Davies wedi ei ethol yn
Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad. Y
Pwyllgor Deisebau (Llafur) Enwebwyd Jack Sargeant gan Jayne Bryant. Gan nad oedd ond un enwebiad, ac na chafwyd gwrthwynebiad
i’r enwebiad, datganodd y Llywydd fod Jack Sargeant wedi ei ethol yn Gadeirydd
y Pwyllgor Deisebau. Y Pwyllgor
Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol (Plaid
Cymru) Enwebwyd Delyth Jewell gan Llyr Gruffydd. Enwebwyd Heledd Fychan gan Rhys ab Owen. Gan fod dau enwebiad, cyfeiriodd y Llywydd yr enwebiadau
ar gyfer pleidlais gyfrinachol yn unol â Rheol Sefydlog 17.21. Pwyllgor
yr Economi, Masnach a Materion Gwledig (Ceidwadwyr
Cymreig) Enwebwyd Paul Davies gan Laura Anne Jones. Gan nad oedd ond un enwebiad, ac na chafwyd gwrthwynebiad
i’r enwebiad, datganodd y Llywydd fod Paul Davies wedi ei ethol yn Gadeirydd
Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig. Y
Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ceidwadwyr Cymreig) Enwebwyd Russell George gan Laura Anne Jones. Gan nad oedd ond un enwebiad, ac na chafwyd gwrthwynebiad
i’r enwebiad, datganodd y Llywydd fod Russell George wedi ei ethol yn Gadeirydd
y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Y
Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai (Llafur) Enwebwyd John Griffiths gan Jayne Bryant. Enwebwyd Mike Hedges gan Rhianon Passmore. Gan fod dau enwebiad, cyfeiriodd y Llywydd yr enwebiadau
ar gyfer pleidlais gyfrinachol yn unol â Rheol Sefydlog 17.21. Y Pwyllgor
Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith (Plaid
Cymru) Enwebwyd Llyr Gruffydd gan Mabon ap Gwynfor. Gan nad oedd ond un enwebiad, ac na chafwyd gwrthwynebiad
i’r enwebiad, datganodd y Llywydd fod Llyr Gruffydd wedi ei ethol yn Gadeirydd
y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith. Y
Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg (Llafur) Enwebwyd Jayne Bryant gan Ken Skates. Gan nad oedd ond un enwebiad, ac na chafwyd gwrthwynebiad
i’r enwebiad, datganodd y Llywydd fod Jayne Bryant wedi ei hethol yn Gadeirydd
y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad (Llafur) Enwebwyd Vikki Howells gan Huw Irranca-Davies. Gan nad oedd ond un enwebiad, ac na chafwyd gwrthwynebiad
i’r enwebiad, datganodd y Llywydd fod Vikki Howells wedi ei hethol yn Gadeirydd
y Pwyllgor Safonau Ymddygiad. |
|||||||||||||||||||||||||
Pwynt o drefn Cododd Alun Davies bwynt o
drefn i fynegi ei siom nad oedd y Pwyllgor Busnes wedi cytuno â’i gais i sefyll
ar y cyd â Mike Hedges i fod yn Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, a
rhannu’r swydd pe bai’n cael ei ethol. Dywedodd y Llywydd iddi dderbyn y cais
brynhawn ddoe, ac nad oedd y syniad o rannu swydd wedi cael ei godi ar unrhyw
bryd dros yr wythnosau diwethaf yn ystod trafodaethau’r Pwyllgor Busnes
ynghylch strwythur y pwyllgorau. Dywedodd y Llywydd nad yw rhannu swydd
Cadeirydd pwyllgor yn rhywbeth sy’n bosibl ar hyn o bryd o dan y Rheolau
Sefydlog, ac mai barn unfrydol y Pwyllgor Busnes oedd na fyddai’n bosibl gwneud
newid o’r fath gyda chyn lleied o rybudd ond y dylai fod yn destun ystyriaeth
bwyllog. Roedd y Pwyllgor Busnes wedi cytuno i edrych ar y posibilrwydd o
gyflwyno rhannu swydd mewn ffordd systemig yn y dyfodol agos. |
||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Prif Weinidog Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
13.48 Gofynnwyd y 6 cwestiwn
cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif
Weinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
14.47 Yn unol â Rheol Sefydlog
12.18, am 15.05 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y Llywydd. |
|||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Datganiad gan y Prif Weinidog: Diwygio ein Hundeb Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
15.16 |
|||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Datganiad gan Weinidog yr Economi: Gwarant i Bobl Ifanc Cofnodion: Dechreuodd yr eitem
16.01 Yn unol â Rheol Sefydlog
12.18, am 16.28 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y Dirprwy Llywydd. |
|||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol: Hybu Cydraddoldeb LGBTQ+ yng Nghymru Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
16.38 |
|||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Gwaith Teg a’r Cyflog Byw Gwirioneddol mewn Gofal Cymdeithasol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
17.06 |
|||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 13) 2021 NDM7724 Lesley Griffiths
(Wrecsam) Cynnig
bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1.
Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5)
(Cymru) (Diwygio) (Rhif 13) 2021 a osodwyd yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 18 Mehefin 2021. Dogfennau Ategol Memorandwm
Esboniadol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.30 NDM7724 Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig bod y Senedd, yn
unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1. Yn cymeradwyo
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio)
(Rhif 13) 2021 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Mehefin 2021. Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Ni chafwyd cyfnod
pleidleisio |
||||||||||||||||||||||||||
Etholiad Cadeiryddion y Pwyllgorau: Canlyniad Dechreuodd yr eitem am 18.00 Cyhoeddodd
y Llywydd ganlyniadau etholiad y bleidlais gyfrinachol ar gyfer ethol
cadeiryddion y pwyllgorau yn y drefn a ganlyn: Y Pwyllgor Cyllid
Cyhoeddodd y Llywydd fod Peredur Owen Griffiths wedi ei ethol yn Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid. Y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a
Chysylltiadau Rhyngwladol
Cyhoeddodd y Llywydd fod Delyth Jewell wedi ei hethol yn Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y
Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol. Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai
Cyhoeddodd y Llywydd fod John Griffiths wedi ei ethol yn Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai. Bwriodd Sian Gwenllian (Arfon) bleidlais trwy ddirprwy ar ran Adam Price
(Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr) yn y tri etholiad. |