Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 5(v3)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 09/06/2021 - Y Cyfarfod Llawn
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar
ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy
gyswllt fideo. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Weinidog yr Economi Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Gofynnwyd
yr 8 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiwn 1 gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon,
a’r Prif Chwip. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r
Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. Yn unol â
Rheol Sefydlog 12.18, am 14.19 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y
Llywydd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.28 Gofynnwyd
yr 8 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiwn 1 gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol.
Atebwyd cwestiynau 4 a 5 gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant.
Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl
cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol [Gofyn i’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol] Laura
Anne Jones (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am honiadau gan
chwythwyr chwiban bod plant ag awtistiaeth wedi cael eu cam-drin yng nghartref
Tŷ Coryton yng Nghaerdydd? Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
15.21 I ofyn i’r Dirprwy
Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Laura Anne Jones
(Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am honiadau gan chwythwyr
chwiban bod plant ag awtistiaeth wedi cael eu cam-drin yng nghartref Tŷ
Coryton yng Nghaerdydd? |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 eiliad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
15.29 Gwnaeth Vikki Howells
ddatganiad ar: Taith olaf y trên “pacer”. Gwnaeth Rhianon Passmore
ddatganiad ar: Rhyddhau’r ffilm ‘Dream Horse’ |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.2 i roi cyfarwyddiadau i bwyllgor priodol mewn perthynas â pharth perygl nitradau Cymru gyfan NDM7703 Darren Millar (Gorllewin
Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi effaith andwyol
parth perygl nitradau Cymru gyfan ar amaethyddiaeth Cymru. 2. Yn unol â Rheol
Sefydlog 17.2, yn galw ar bwyllgor perthnasol y Senedd i adolygu Rheoliadau
Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 ar frys a
chyflwyno ei argymhellion i'r Senedd. Rheoliadau
Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 Cyd-gyflwynwyr Cyflwynwyd y gwelliant
a ganlyn: Gwelliant 1 Lesley
Griffiths (Wrecsam) Dileu pwynt 1 a rhoi
yn ei le: Yn nodi pwysigrwydd
hanfodol lleihau allyriadau amaethyddol er mwyn: a) cryfhau enw da
ffermio yng Nghymru; b) gwarchod pobl a
natur yng Nghymru rhag llygredd aer; c) diogelu afonydd a
moroedd Cymru ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol; d)
cyflawni uchelgais sero net Cymru. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.33 Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio: NDM7703 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi effaith andwyol parth perygl nitradau Cymru gyfan ar
amaethyddiaeth Cymru. 2. Yn unol â Rheol Sefydlog 17.2, yn galw ar bwyllgor perthnasol y Senedd
i adolygu Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru)
2021 ar frys a chyflwyno ei argymhellion i'r Senedd. Rheoliadau
Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 Cyd-gyflwynwyr
Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei
bleidlais fwrw i bleidleisio yn erbyn y cynnig, yn unol â Rheol Sefydlog
6.20(ii). Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam) Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le: Yn nodi pwysigrwydd hanfodol lleihau allyriadau
amaethyddol er mwyn: a) cryfhau enw da ffermio yng Nghymru; b) gwarchod pobl a natur yng Nghymru rhag
llygredd aer; c) diogelu afonydd a moroedd Cymru ar gyfer
cenedlaethau'r dyfodol; d) cyflawni uchelgais sero net Cymru. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM7703 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi pwysigrwydd
hanfodol lleihau allyriadau amaethyddol er mwyn: a) cryfhau enw da ffermio yng Nghymru; b) gwarchod pobl a natur yng Nghymru rhag
llygredd aer; c) diogelu afonydd a moroedd Cymru ar gyfer
cenedlaethau'r dyfodol; d) cyflawni uchelgais sero net Cymru. 2. Yn unol â Rheol Sefydlog 17.2, yn galw ar bwyllgor perthnasol y Senedd
i adolygu Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru)
2021 ar frys a chyflwyno ei argymhellion i'r Senedd. Rheoliadau
Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 Cyd-gyflwynwyr
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. Yn unol â Rheol Sefydlog
12.18, am 16.28 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y Dirprwy Lywydd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru - Pwerau'r Senedd NDM7701 Sian Gwenllian (Arfon) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn cytuno bod gan y
chweched Senedd hon fandad i ddatganoli pwerau sylweddol pellach o San Steffan
i Gymru. 2. Yn credu bod yn
rhaid i'r Senedd gael yr ysgogiadau i wella bywydau ein dinasyddion ac
ailadeiladu Cymru wyrddach, decach a mwy llewyrchus ar ôl y pandemig COVID-19. 3. Yn cydnabod y
bygythiad i bwerau'r Senedd sy'n deillio o agwedd Llywodraeth y DU at
ddatganoli, yn enwedig ers Brexit. 4. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gychwyn y broses a amlinellir yn Neddf Llywodraeth Cymru
2006 i geisio pwerau i'r Senedd dros faterion a gedwir yn San Steffan ar hyn o
bryd, gan gynnwys plismona a chyfiawnder, rheilffyrdd, lles, darlledu,
prosiectau ynni, Ystâd y Goron, Deddf Cydnabod Rhywedd 2004 a'r pŵer i'r
Senedd alw refferendwm rhwymol ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru. Deddf
Llywodraeth Cymru 2006 (Saesneg yn unig) Deddf Cydnabod
Rhywedd 2004 (Saesneg yn unig) Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Darren Millar
(Gorllewin Clwyd) Dileu popeth a rhoi yn
ei le: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn credu bod
canlyniad etholiad diweddar y Senedd yn dangos nad oes mandad ar gyfer newid
cyfansoddiadol sylweddol na refferendwm pellach ar bwerau datganoledig. 2. Yn nodi'r
cydweithrediad rhwng Llywodraeth Ei Mawrhydi a Llywodraeth Cymru ar
fframweithiau cyffredin yn dilyn ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd. 3. Yn croesawu'r
cydweithredu rhwng Llywodraeth Ei Mawrhydi a Llywodraeth Cymru yn ystod y
pandemig coronafeirws, sy'n cynnwys: a) darparu cyllid i
ddiogelu busnesau, incwm, swyddi, gwasanaethau cyhoeddus, y trydydd sector, y
celfyddydau a mwy; b) defnyddio'r fyddin; c) caffael a darparu
brechlynnau. 4. Yn credu mai'r
ffordd orau o wasanaethu dyfodol Cymru yw fel rhan o Deyrnas Unedig gref. [Os derbynnir
gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol] Gwelliant 2 Lesley
Griffiths (Wrecsam) Dileu popeth a rhoi yn
ei le: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn cefnogi
Llywodraeth Cymru yn ei gwaith parhaus i sicrhau bod plismona a chyfiawnder yn
cael eu datganoli yn unol ag argymhelliad y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru. 2. Yn croesawu
ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sefydlu comisiwn a sgwrs gyda phobl Cymru i
ystyried ein dyfodol cyfansoddiadol. 3. Yn nodi cynlluniau
Llywodraeth Cymru i gyhoeddi fersiwn ddiwygiedig o ‘Diwygio ein Hundeb’, a
gyhoeddwyd am y tro cyntaf yn 2019. Diwygio
ein Hundeb: Cydlywodraethu yn y DU Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.41 Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio: NDM7701 Sian
Gwenllian (Arfon) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn cytuno bod gan y Chweched Senedd hon fandad i ddatganoli pwerau
sylweddol pellach o San Steffan i Gymru. 2. Yn credu bod yn rhaid i'r Senedd gael yr ysgogiadau i wella bywydau
ein dinasyddion ac ailadeiladu Cymru wyrddach, decach a mwy llewyrchus ar ôl
pandemig COVID-19. 3. Yn cydnabod y bygythiad i bwerau'r Senedd sy'n deillio
o agwedd Llywodraeth y DU at ddatganoli, yn enwedig ers Brexit. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gychwyn y broses a amlinellir yn Neddf
Llywodraeth Cymru 2006 i geisio pwerau i'r Senedd dros faterion a gedwir yn San
Steffan ar hyn o bryd, gan gynnwys plismona a chyfiawnder, rheilffyrdd, lles,
darlledu, prosiectau ynni, Ystâd y Goron, Deddf Cydnabod Rhywedd 2004 a'r pŵer
i'r Senedd alw refferendwm rhwymol ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru. Deddf
Llywodraeth Cymru 2006 (Saesneg yn unig) Deddf
Cydnabod Rhywedd 2004 (Saesneg yn unig)
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Dileu popeth a rhoi yn ei le: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn credu bod canlyniad etholiad diweddar y
Senedd yn dangos nad oes mandad ar gyfer newid cyfansoddiadol sylweddol na
refferendwm pellach ar bwerau datganoledig. 2. Yn nodi'r cydweithrediad rhwng Llywodraeth Ei
Mawrhydi a Llywodraeth Cymru ar fframweithiau cyffredin yn dilyn ymadawiad y DU
â'r Undeb Ewropeaidd. 3. Yn croesawu'r cydweithredu rhwng Llywodraeth
Ei Mawrhydi a Llywodraeth Cymru yn ystod y pandemig coronafeirws, sy'n cynnwys: a) darparu cyllid i ddiogelu busnesau, incwm,
swyddi, gwasanaethau cyhoeddus, y trydydd sector, y celfyddydau a mwy; b) defnyddio'r fyddin; c) caffael a darparu brechlynnau. 4. Yn credu mai'r ffordd orau o wasanaethu dyfodol Cymru yw fel rhan o
Deyrnas Unedig gref. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Gan fod gwelliant 1 wedi
ei dderbyn, cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Gwelliant 2 Lesley Griffiths (Wrecsam) Dileu popeth a rhoi yn ei le: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn cefnogi Llywodraeth Cymru yn ei gwaith
parhaus i sicrhau bod plismona a chyfiawnder yn cael eu datganoli yn unol ag
argymhelliad y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru. 2. Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i
sefydlu comisiwn a sgwrs gyda phobl Cymru i ystyried ein dyfodol
cyfansoddiadol. 3. Yn nodi cynlluniau Llywodraeth Cymru i
gyhoeddi fersiwn ddiwygiedig o ‘Diwygio ein Hundeb’, a gyhoeddwyd am y tro
cyntaf yn 2019. Diwygio ein Hundeb: Cydlywodraethu yn y DU Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 2:
Derbyniwyd gwelliant 2. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM7701 Sian Gwenllian (Arfon) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn cefnogi Llywodraeth Cymru yn ei gwaith
parhaus i sicrhau bod plismona a chyfiawnder yn cael eu datganoli yn unol ag
argymhelliad y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru. 2. Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i
sefydlu comisiwn a sgwrs gyda phobl Cymru i ystyried ein dyfodol
cyfansoddiadol. 3. Yn nodi cynlluniau Llywodraeth Cymru i
gyhoeddi fersiwn ddiwygiedig o ‘Diwygio ein Hundeb’, a gyhoeddwyd am y tro
cyntaf yn 2019. Diwygio ein Hundeb: Cydlywodraethu yn y DU
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 17.45 cafodd y
trafodion eu hatal dros dro i ganiatáu egwyl technegol cyn y Cyfnod
Pleidleisio. Dechreuodd yr eitem am 17.53 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM7700 Delyth Jewell (Dwyrain De
Cymru) Effaith y newid yn yr
hinsawdd ar iechyd meddwl. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.02 NDM7700 Delyth Jewell (Dwyrain De Cymru) Effaith y newid yn yr hinsawdd ar iechyd meddwl. |