Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Tŷ Hywel
Cyswllt: Graeme Francis
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi |
|
Trefn Busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Dydd Mawrth Nid oes dim
newidiadau i fusnes yr wythnos hon. · Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei
gynnal fel yr eitem olaf o fusnes. · Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol
o fynd y tu hwnt i 5.50pm. Dydd
Mercher
Dywedodd y Trefnydd wrth y Pwyllgor
Busnes y bydd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg a’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl
a Llesiant, gyda chaniatâd y Llywydd, yn ymateb i’r ddadl ar adroddiad y
Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar Gymorth Iechyd Meddwl mewn Addysg
Uwch ddydd Mercher 14 Mehefin, yn dilyn cais gan y Pwyllgor. |
|
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Tynnodd y
Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newid a ganlyn: Dydd Mawrth
27 Mehefin 2023 · |
|
Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Cytunwyd ar
yr ychwanegiadau canlynol i amserlen Busnes y Senedd am y tair wythnos
nesaf: Dydd Mercher 21 Mehefin 2023 – · Eitem ar y cyd â Senedd Ieuenctid
Cymru (45 munud) Dydd Mercher 5 Gorffennaf 2023 -
|
|
Cynigion deddfwriaethol yr Aelodau: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor Busnes y cynigion arfaethedig a chytunwyd i amserlennu’r cynnig
canlynol ar gyfer dadl i’w drafod ar 21 Mehefin: Adam
Price NNDM8293 Cynnig
bod y Senedd: 1. Yn
nodi cynnig ar gyfer Bil ar gyflwyno dyletswydd ddinesig i bleidleisio. 2. Yn
nodi mai diben y Bil hwn fyddai: a)
ceisio efelychu llwyddiant democratiaethau eraill sydd wedi cyflwyno dyletswydd
ddinesig i bleidleisio o ran cynyddu'r nifer sy'n pleidleisio mewn etholiadau a
thrwy hynny wella lefel yr ymgysylltiad a'r cynrychioldeb ar draws pob oedran,
dosbarth a chymuned; b)
cyflwyno dyletswydd ddinesig ar bawb sy'n gymwys i bleidleisio i gymryd rhan yn
etholiadau'r Senedd ac etholiadau cyngor sir; c)
caniatáu i'r rhai sy'n dymuno nodi eu hanfodlonrwydd gydag ymgeisydd, plaid neu
wleidyddiaeth yn ehangach i wneud hynny drwy opsiwn o ymatal yn gadarnhaol ar y
papur pleidleisio; d)
caniatáu cyflwyno cosb briodol am beidio â chydymffurfio â'r rhwymedigaeth
ddinesig i bleidleisio neu ymatal yn gadarnhaol, gydag eithriadau cyfreithlon;
ac e)
darparu ar gyfer cyflwyno cyfnod peilot ar gyfer cyflwyno'r ddyletswydd ar sail
oedran benodol. |
|
Nodyn ar y trefniadau ar gyfer y sesiwn ar y cyd â Senedd Ieuenctid Cymru Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor Busnes y trefniadau arfaethedig ar gyfer sesiwn ar y cyd â Senedd
Ieuenctid Cymru i’w chynnal ar 21 Mehefin 2023, a chytuno arnynt. Fel rhan o
hyn, gwnaeth y Pwyllgor Busnes yr hyn a ganlyn:
|
|
Ymgysylltu ag Ewrop |
|
Gohebiaeth am Gyngres Cyngor Ewrop Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor Busnes ymhellach enwebiadau'r Senedd ar gyfer cynrychiolwyr ar Gyngres
Cyngor Ewrop a chytunodd i enwebu:
|
|
Unrhyw faterion eraill Cofnodion: Cododd y Llywydd fater y Cwestiynau
Amserol, yn dilyn cynnydd diweddar yn nifer y cwestiynau a gyflwynir, a
rhoddodd wybod i’r Pwyllgor Busnes ei bod yn bwriadu rhoi ystyriaeth bellach
ynghylch a ddylid gwneud unrhyw newidiadau i’r canllawiau er mwyn egluro'r
meini prawf ymhellach. Trafododd y Pwyllgor Busnes hefyd a ellid cyhoeddi
Cwestiynau Amserol a gyflwynir yn yr un modd â Chwestiynau Brys a chytunodd
hefyd i ystyried y ddau fater ymhellach, gyda'r bwriad o weithredu unrhyw
newidiadau o ddechrau tymor yr hydref. |