Agenda a Chofnodion

Cyswllt: Graeme Francis 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

Nid oes dim newidiadau i fusnes y llywodraeth yr wythnos hon. Dywedodd y Trefnydd wrth y pwyllgor mai hi fydd yn ateb cwestiynau heddiw ar ran y Prif Weinidog.

 

  • Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel eitem 5.
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 5.40pm.

 

Dydd Mercher 

 

  • Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.55pm. 

 

 

3.2

Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn:

 

Dydd Mawrth 29 Tachwedd

 

·       Cynnig i amrywio’r drefn o ystyried gwelliannau Cyfnod 3 i Fil Diogelu'r Amgylchedd (Plastigau Untro) (Cymru) (5 munud)

 

Dydd Mawrth 6 Rhagfyr

 

·       Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Newid Hinsawdd – Datganiad Terfynol ar gyfer Cyllideb Garbon 1 (30 munud)

 

 

3.3

Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i'r ychwanegiadau canlynol i'r amserlen:

 

Dydd Mercher 14 Rhagfyr 2022

  • Datganiad gan Peter Fox: Cyflwyno Bil Arfaethedig Aelod - Bil Bwyd (Cymru) (60 munud)
  • Dadl ar adroddiad Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: Trais ar sail rhywedd: Anghenion menywod mudol (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

 

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol

Cofnodion:

 

Trafododd y Pwyllgor Busnes y wybodaeth ddiweddaraf gan y Trefnydd a chytunodd i:

 

  • gyfeirio'r Memorandwm atodol (Memorandwm Rhif 3) ar y Bil Tai Cymdeithasol (Rheoleiddio) a osodwyd ar 17 Tachwedd at y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar 13 Ionawr 2023; ac
  • ymestyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar Femorandwm ar y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio i 16 Chwefror 2023, gan ragweld y bydd Memorandwm diwygiedig yn cael ei osod.

 

 

4.2

Papur i’w nodi - llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid at y Prif Weinidog ynghylch gwaith craffu ar oblygiadau ariannol Biliau

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr.

 

 

5.

Diwygio'r Senedd

5.1

Ystyried Argymhellion y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd - diweddariad ar benderfyniadau

Cofnodion:

Dychwelodd y Pwyllgor Busnes at ystyried dau argymhelliad a wnaed gan y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd:

 

1.     Maint Llywodraeth Cymru mewn Senedd fwy

 

Cytunodd y Pwyllgor i ohirio trafodaeth bellach ar y mater hwn tan y cyfarfod dilynol.

 

2. Nifer y Dirprwy Lywyddion mewn Senedd fwy

 

Ymhellach i'r casgliad a gytunwyd yn y cyfarfod blaenorol - y dylai deddfwriaeth ar Ddiwygio'r Senedd ddiwygio'r darpariaethau statudol presennol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 i ddarparu ar gyfer terfyn diwygiedig o ddau Ddirprwy Lywydd - cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylai'r ddeddfwriaeth ei gwneud yn ofynnol y dylai Aelodau a etholir i rolau'r Llywydd a'r Dirprwy Lywydd gynrychioli o leiaf ddau grŵp plaid. Daeth y Pwyllgor hefyd i'r casgliad y dylai'r ddeddfwriaeth ddatgan, pan fydd y Senedd yn ethol dau Ddirprwy Lywydd y dylai'r deiliad swydd hyn gynrychioli tair plaid wahanol, lle y bo'n bosibl.

 

Cytunodd mwyafrif y Pwyllgor Busnes y dylai ddod i'r casgliad y dylai'r ddeddfwriaeth ddiwygio'r teitlau 'Presiding Officer' a 'Deputy Presiding Officer' i 'Speaker' a 'Llywydd', a 'Deputy Speaker' a 'Dirprwy Lywydd', yn amodol ar Lywodraeth Cymru yn  ystyried a oes gan y Senedd gymhwysedd deddfwriaethol i wneud hyn. Nododd Siân Gwenllian a Jane Dodds eu bod yn ffafrio defnyddio 'Llywydd' a 'Ddirprwy Lywydd' yn unig yn y ddeddfwriaeth.

 

 

5.2

Datblygiad tybiaethau cyffredin

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor Busnes bapur ymgynghori ynghylch nifer o ragdybiaethau a fydd yn sail i'r wybodaeth sydd i'w darparu gan Gomisiwn y Senedd i lywio'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol ar gyfer Bil Diwygio'r Senedd. Cytunodd y Pwyllgor y dylid rhoi ystyriaeth bellach i ragdybiaethau ynghylch nifer bosibl y pwyllgorau mewn Senedd fwy.  Cytunwyd hefyd y dylai'r rhagdybiaethau a'r wybodaeth a gaiff eu cyflwyno ynghylch gweithgareddau Seneddol amlinellu'r ystod o weithgareddau a wneir gan y Senedd. Gofynnwyd am lunio papur arall i'w drafod mewn cyfarfod yn y dyfodol.