Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Tŷ Hywel

Cyswllt: Graeme Francis 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Rhoddodd y Trefnydd wybod i'r Rheolwyr Busnes y byddai hi'n ateb Cwestiynau'r Prif Weinidog gan fod y Prif Weinidog yn anhwylus.

 

Hefyd, tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn:

 

Dydd Mawrth

 

  • Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Ymateb i Gynllun Ariannol a Rhagolygon Economaidd Llywodraeth y DU (30 munud) Wedi'i ohirio tan 22 Tachwedd
  • Datganiad gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Ffliw Adar (30 munud)
  • Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Protocol Gogledd Iwerddon (45 munud) Wedi’i ohirio tan 22 Tachwedd

 

  • Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.00pm.

 

Dydd Mercher 

 

  • Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.40pm. 

 

 

3.2

Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn:

 

Dydd Mawrth 15 Tachwedd -

·       Datganiad gan Weinidog yr Economi: Cynllun trwyddedu statudol i bob llety ymwelwyr yng Nghymru (30 munud)

Dydd Mawrth 22 Tachwedd -

·       Rheoliadau Daliadau Amaethyddol (Ffi) 2022 (5 munud)

·       Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Protocol Gogledd Iwerddon (45 munud) - Wedi’i ohirio o 8 Tachwedd

·       Cyfnod Pleidleisio (5 munud)

·       Datganiad gan Weinidog yr Economi: Datblygu Clystyrau Technolegol yng Nghymru - cynhyrchu isotopau radio meddygol ac arbenigedd meddygaeth niwclear (30 munud)wedi'i ohirio tan 13 Rhagfyr

·       Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Ymateb i Ddatganiad yr Hydref a Rhagolygon Ariannol ac Economaidd Llywodraeth y DU (30 munud) – wedi'i ohirio o 8 Tachwedd

 

 

3.3

Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:

 

Dydd Mercher 30 Tachwedd 2022 –

  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid: Trefniadau ariannu ar ôl gadael yr UE (60 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol: Sicrhau chwarae teg: Adroddiad ar gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol mewn ardaloedd difreintiedig (60 munud)
  • Dadl ar ddeiseb P-06-1302 - Rhaid gwarchod mynyddoedd unigryw Cambria yng Nghanolbarth Cymru drwy eu dynodi yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (30 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

 

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynghylch Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes ohebiaeth a anfonwyd gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad at y Gweinidog Newid Hinsawdd, sy’n cynnig y dylai Llywodraeth Cymru osod Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol diwygiedig ar y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio yn sgil yr hyn y mae’r Pwyllgor yn ei ystyried fel diffygion yn y Memorandwm presennol.

 

Cadarnhaodd y Trefnydd fod y Gweinidog Newid Hinsawdd wrthi’n trafod yr ohebiaeth ac y bydd yn ymateb i’r Pwyllgor yn fuan. Bydd y Trefnydd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor Busnes cyn gynted ag y bydd rhagor o wybodaeth ar gael, gan gynnwys a oes modd newid y dyddiad cau presennol ar gyfer cyflwyno adroddiad ar gyfer pwyllgorau.

 

 

4.2

Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes y wybodaeth ddiweddaraf ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol a chytunodd i wneud yr hyn a ganlyn:

 

  • cyfeirio'r Memorandwm ar Fil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) ar gyfer craffu at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar 9 Chwefror 2023;
  • ymestyn ymhellach y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar gyfer y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Protocol Gogledd Iwerddon tan 21 Tachwedd 2022.

 

 

5.

Pwyllgorau

5.1

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau - cais am ddadl yn y Cyfarfod Llawn

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes gais gan y Pwyllgor Deisebau am ddadl ar ddeiseb P-06-1302 - Rhaid gwarchod mynyddoedd unigryw Cambria yng Nghanolbarth Cymru drwy eu dynodi yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol a gafodd 20,889 o lofnodion, a chytunodd i drefnu dadl 30 munud o hyd ddydd Mercher 30 Tachwedd. 

 

 

6.

Amserlen y pwyllgorau

6.1

Llythyr gan Fforwm y Cadeiryddion - cais i newid dyddiadau cyfarfodydd

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gais gan Fforwm y Cadeiryddion i newid y slot cyfarfod a ddyrannwyd iddo, o ddydd Iau olaf pob hanner tymor i'r bore Llun olaf sydd ar gael ym mhob hanner tymor (pan nad oes gwrthdaro gyda slot naill ai'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol neu Gomisiwn y Senedd).

 

 

7.

Adolygiad o Bleidleisio drwy Ddirprwy

7.1

Papur ar yr adolygiad o bleidleisio drwy ddirprwy

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes bapur a chytunodd ar y dull arfaethedig a’r amserlen ar gyfer ei adolygiad o ddarpariaethau pleidleisio drwy ddirprwy, gan gynnwys y dylai’r ymarfer hwn ystyried: y trefniadau prawf dros dro presennol ar gyfer absenoldeb rhiant; a’r posibilrwydd o ymestyn y trefniadau pleidleisio drwy ddirprwy i salwch tymor hir a chyfrifoldebau gofalu eraill. Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ymgynghori â’r Aelodau ac i ofyn am farn Aelodau presennol a chyn-Aelodau sydd wedi defnyddio pleidleisio drwy ddirprwy yn ystod y cyfnod prawf.

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ystyried papur arall sy'n ymdrin â diffiniadau posib o salwch hirdymor a chyfrifoldebau gofalu cyn dechrau'r cyfnod ymgynghori. Nododd Darren Millar ei wrthwynebiad i ddefnyddio pleidleisio drwy ddirprwy.

 

 

7.

Unrhyw faterion eraill

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes, ar ôl ymgynghori â Fforwm y Cadeiryddion, fod y canllawiau y cytunwyd arnynt gan y Pwyllgor Busnes ar 27 Medi bellach wedi eu cyhoeddi'n llawn i’r Aelodau o dan Reol Sefydlog 6.17.

 

Cyfarfod ar 15 Tachwedd

 

Fe wnaeth y Llywydd atgoffa’r Rheolwyr Busnes am y trefniadau ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Busnes yr wythnos nesaf, a fydd yn cynnwys sesiwn gyhoeddus i drafod gwaith presennol y Pwyllgor ynghylch Diwygio’r Senedd.