Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Lleoliad Allanol. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Graeme Francis
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Croesawodd
y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Jane Dodds. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi. |
|
Trefn Busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Dydd Mawrth
Dydd
Mercher
Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr
Busnes ei bod yn bwriadu dod â’r egwyl cyn y cyfnod pleidleisio i ben, gan
ddechrau o'r Cyfarfod Llawn yr wythnos hon. Gofynnodd i Reolwyr Busnes atgoffa
Aelodau eu grwpiau mai eu cyfrifoldeb nhw fydd sicrhau eu bod yn bresennol ac
yn barod i bleidleisio cyn dechrau'r cyfnod pleidleisio, a nododd y gall hyn
fod yn gynharach na'r amseru dangosol ar yr agenda. |
|
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau
a ganlyn: Dydd Mawrth
18 Hydref –
Dydd Mawrth
25 Hydref – ·
Dadl: Adroddiad
Blynyddol 2021-22 Comisiynydd y Gymraeg (60 munud) wedi’i symud o 8 Tachwedd |
|
Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen: Dydd Mercher 9 Tachwedd 2022 –
Cafodd y
Pwyllgor Busnes gais gan y Pwyllgor Deisebau i gynnal dadl frys ar ddeiseb P-06-1294:
Peidiwch â gadael cleifion â chanser y fron metastatig yng Nghymru ar ôl, a
gafodd 14,106 o lofnodion, a chytunwyd i drefnu dadl 30 munud ddydd
Mercher 19 Hydref. |
|
Deddfwriaeth |
|
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol - Y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) Cofnodion: Nododd y
Pwyllgor Busnes yr ymateb a gafwyd gan y Pwyllgor a chytunodd na fyddai angen
addasu'r amserlen bresennol ar gyfer craffu ar y Bil. |
|
Y Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) - Cyfnod 2 Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor
Busnes mewn egwyddor i gyfeirio'r Bil at y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr
Amgylchedd a Seilwaith ar gyfer trafodion Cyfnod 2, pe bai'r Senedd yn cytuno
ar yr egwyddorion cyffredinol. |
|
Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2022 Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i gyfeirio'r Rheoliadau at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder
a'r Cyfansoddiad gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad dydd Llun 7
Tachwedd 2022, er mwyn galluogi'r rheoliadau hyn i gael eu hystyried gan y
Senedd ddydd Mawrth 8 Tachwedd. |
|
Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor Busnes ddiweddariad gan Lywodraeth Cymru a chytunodd i gyfeirio'r
Memorandwm Atodol ar y Bil Tai Cymdeithasol (Rheoleiddio) at y Pwyllgor
Llywodraeth Leol a Thai a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
ar gyfer craffu arno, gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar 1
Rhagfyr; |
|
Papur i'w nodi |
|
Llythyr gan Oxfam Cymru a WEN Cymru ynghylch Cerdyn Sgorio Ffeministaidd 2022 Cofnodion: Nododd y
Pwyllgor Busnes y llythyr. |