Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Tŷ Hywel
Cyswllt: Graeme Francis
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi. |
|
Trefn Busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Tynnodd y Trefnydd
sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn: Dydd Mawrth
Nododd y Llywydd, gan mai un
cwestiwn yn unig a gyflwynwyd, fod y dyraniad amser ar gyfer Cwestiynau i'r
Comisiwn wedi ei leihau i 10 munud. Bydd seibiant cyn y Cyfnod
Pleidleisio ddydd Mercher er mwyn galluogi Aelodau i ymgyfarwyddo ymhellach â’r
gweithdrefnau pleidleisio newydd. |
|
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau
a ganlyn: Dydd Mawrth
11 Hydref – ·
·
Datganiad
gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Tai mewn Cymunedau Cymraeg (30 munud) Dydd
Mercher 12 Hydref – ·
·
Cwestiynau
i Weinidog y Gymraeg ac Addysg (45 munud) – symudwyd o 19 Hydref Dydd Mawrth
18 Hydref – ·
Rheoliadau
Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol)
(Cymru) (Diwygio) a (Coronafeirws) (Dirymu) 2022 (15 munud) Dydd
Mercher 19 Hydref – ·
|
|
Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor
Busnes i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen: Dydd Mercher 26 Hydref 2022 –
|
|
Deddfwriaeth |
|
Llythyr gan Gadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig - Bil Amaethyddiaeth (Cymru) Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor Busnes yr ymateb gan y Pwyllgor a chytunodd ar yr amserlen arfaethedig
ar gyfer craffu ar y Bil Amaethyddiaeth (Cymru). |
|
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Amserlen Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor Busnes ohebiaeth gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad a chytunodd ar estyniadau byr i’r terfynau amser ar gyfer cyflwyno
adroddiadau ar gyfer cyfnod Ystyriaeth Gychwynnol y Bil hyd at 23 Rhagfyr 2022,
a’r cyfnod Ystyriaeth Fanwl gan Bwyllgor hyd at 10 Mawrth 2023. |
|
Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor Busnes y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru a chytunodd i
wneud yr hyn a ganlyn:
|
|
Diwygio’r Senedd |
|
Dull o ystyried argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor Busnes ei ddull o ystyried sawl argymhelliad a wnaed gan y Pwyllgor
Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd, gyda’r nod o ddarparu casgliadau i lywio datblygiad cyfarwyddiadau polisi ar gyfer Bil
Llywodraeth Cymru ar Ddiwygio’r Senedd. Cytunodd y Pwyllgor Busnes i wneud yr hyn a ganlyn:
Cytunodd y
Pwyllgor Busnes hefyd i gynnal gweithdy technegol gyda swyddogion y Senedd a
Llywodraeth Cymru cyn toriad hanner tymor yr hydref. Cytunodd i drafod y
materion hyn a’r dystiolaeth a ddaeth i law yn ystod y slotiau cyfarfod sydd
wedi’u trefnu ym mis Tachwedd. Cynhelir cyfarfodydd yn gyhoeddus lle bo hynny’n
briodol. |
|
Unrhyw faterion eraill Cofnodion: Bil Diogelu'r
Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) – amserlen Nododd y
Pwyllgor Busnes ohebiaeth a ddaeth i law gan y Pwyllgor Deddfwriaeth,
Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a chytunodd i ddarparu’r wybodaeth y gofynnodd y
Pwyllgor hwnnw amdani. Amserlen y
pwyllgorau – gwrthdaro amserlenni Aelodau Fe wnaeth y
Pwyllgor Busnes ddychwelyd at drafodaeth ar y mater yn ymwneud â chydamseru'r
Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a'r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y
Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol a godwyd gan Siân Gwenllian yn
y cyfarfod blaenorol. Fe wnaeth y swyddogion roi gwybod am yr ymdrechion gan
dimau clercio i gydlynu busnes y ddau bwyllgor hwnnw er mwyn cyfyngu ar yr
effaith ar yr Aelodau dan sylw, yn enwedig mewn perthynas â'r ymchwiliad
presennol ar Gynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg. Diolchodd Siân Gwenllian
i swyddogion y ddau bwyllgor am eu hymdrechion. Nododd y
Pwyllgor Busnes nad yw'n debygol y bydd cydlynu mor agos rhwng pwyllgorau yn
gynaliadwy, ac nad yw'n ateb tymor hir i'r sefyllfa. |