Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Lleoliad Allanol. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Graeme Francis
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Croesawodd y Llywydd yr aelodau i’r cyfarfod. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi. |
|
Trefn Busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes y byddai'n talu
teyrnged fer i’r cyn-Aelod Mick Bates, a fu farw’n ddiweddar, ar ddechrau'r
cyfarfod heddiw. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y byddai
busnes a ohiriwyd o 13 a 14 Medi oherwydd y cyfnod o Alaru Cenedlaethol ar
gyfer Ei Mawrhydi y Frenhines yn cael ei aildrefnu ar gyfer 20 a 21 Medi, gan
gynnwys y Cwestiynau Llafar a chynigion sydd eisoes wedi'u cyflwyno ar gyfer
dadl. Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at yr ychwanegiadau a ganlyn i
fusnes dydd Mawrth:
Dydd
Mercher Esboniodd y
Llywydd, gan nad oes ffenestr lawn ar gyfer cyflwyno gwelliannau i gynigion y
ddadl ddydd Mercher wedi bod yn bosibl cyn hyn, y bydd y Swyddfa Gyflwyno yn
derbyn gwelliannau a gyflwynwyd heddiw. Yn unol â hynny, bydd Cynnig i atal
y Rheolau Sefydlog dros dro yn cael ei ychwanegu i agenda dydd Mercher i
ganiatáu i unrhyw welliannau a gyflwynwyd gael eu trafod.
Hysbysodd y
Llywydd y Rheolwyr Busnes o sawl newid i weithdrefnau pleidleisio yn y Cyfarfod
Llawn o ddechrau tymor yr hydref, yn dilyn trafodaethau blaenorol yn y Pwyllgor
Busnes a diwygiadau a wnaed i Reolau Sefydlog ar ddiwedd tymor yr haf. Nododd
hefyd y bwriad i roi'r gorau i'r arfer o gael egwyl cyn y cyfnod pleidleisio,
unwaith y mae Aelodau wedi cael cyfle i ymgyfarwyddo â'r trefniadau newydd. Bydd
canllawiau wedi'u diweddaru ar drafodion hybrid a rhithwir yn cael eu trafod
ymhellach gan y Pwyllgor Busnes a Fforwm y Cadeiryddion yn fuan, cyn cael eu
darparu i Aelodau. |
|
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Tynnodd y
Trefnydd sylw'r Pwyllgor Busnes at y newidiadau a ganlyn: Dydd Mawrth
27 Medi 2022 -
Dydd Mawrth
4 Hydref 2022 –
Dydd Mawrth
11 Hydref 2022 –
o
Dadl ar
Egwyddorion Cyffredinol y Bil Diogelu’r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro)
(Cymru) o
Cynnig i
gytuno ar y penderfyniad ariannol mewn perthynas â’r Bil Diogelu’r Amgylchedd
(Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) Mae’r dyddiadau ar gyfer sesiynau
Cwestiynau Llafar yn y dyfodol hefyd wedi'u haddasu yn dilyn y cyfnod o Alaru
Cenedlaethol a byddant yn cael eu hailgyhoeddi. |
|
Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen, a’u hail-drefnu,
yn dilyn y cyfnod o Alaru Cenedlaethol. Dydd
Mercher 28 Medi 2022 –
Dydd
Mercher 5 Hydref 2022 –
Dydd
Mercher 12 Hydref 2022 –
Hysbysodd y
Llywydd y Pwyllgor Busnes mai'r dyddiad cau newydd i Aelodau ar gyfer cyflwyno
cynigion i’w dethol ar gyfer y Ddadl Aelodau a drefnwyd ar gyfer 5 Hydref fydd
5pm ddydd Iau 22 Medi. Oherwydd Gŵyl y Banc, bydd y balot ar gyfer
sesiynau Cwestiynau Llafar yr wythnos nesaf yn cael eu cynnal ddydd Mawrth 20
Medi. |
|
Deddfwriaeth |
|
Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) - amserlen ddiwygiedig Cofnodion: Cyflwynodd y Trefnydd amserlen ddiwygiedig ar gyfer
craffu ar y Bil, oherwydd y bu oedi o ran ei chyflwyno tan ar ôl y cyfnod o
Alaru Cenedlaethol. Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ymgynghori â’r Pwyllgor Newid
Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith ar yr amserlen ddiwygiedig arfaethedig,
ac i ddychwelyd at y mater yn y cyfarfod nesaf. |
|
Bil Amaethyddiaeth (Cymru) - amserlen Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i gyfeirio'r Bil at Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion
Gwledig, ac i ohirio penderfyniad ar yr amserlen ar gyfer y Bil er mwyn
ymgynghori â'r Pwyllgor a dychwelyd at y mater mewn cyfarfod yn y
dyfodol. |
|
Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Cofnodion: Darparodd y
Trefnydd ddiweddariad ar Femoranda a biliau Llywodraeth y DU. Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i wneud yr hyn a ganlyn:
|
|
Amserlen y Senedd |
|
Dyddiadau toriadau Cofnodion: Cadarnhaodd
y Pwyllgor Busnes y dyddiadau ar gyfer toriad hanner tymor y Gwanwyn a Phasg
2023, a chytunwyd ar ddyddiadau toriad dros dro ar gyfer hanner tymor y Sulgwyn
a Haf 2023. |
|
Unrhyw faterion eraill Cofnodion: Biliau eraill y cynhelir gwaith
craffu arnynt ar hyn o bryd Rhoddodd
y Trefnydd ddiweddariad llafar ar y ddau fil y mae’r Senedd yn craffu arnynt ar
hyn o bryd: y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) a Bil
yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru). Cynigiodd y Trefnydd na ddylai’r amserlenni
ar gyfer y Biliau hyn newid, ond nododd y byddai’r Llywodraeth yn agored i’r
syniad o drafod estyniad byr i’r terfyn amser ar gyfer cyfnod Ystyriaeth
Gychwynnol Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) pe bai’r Pwyllgor Deddfwriaeth,
Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn ystyried bod hynny’n ddefnyddiol. Nododd y Pwyllgor Busnes y
diweddariad, a chytunodd i ymgynghori â’r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder
Cymdeithasol a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad o ran y
dulliau arfaethedig o bennu dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar gyfer
y ddau fil. |