Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Lleoliad Allanol. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Graeme Francis 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newid a ganlyn:

 

Dydd Mawrth

 

  • Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2022 - tynnwyd yn ôl

 

  • Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.50pm.

 

Dydd Mercher 

 

Nododd y Pwyllgor Busnes fod grŵp Llafur yn bwriadu newid yr aelod sydd ganddo ar y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, o Mike Hedges i Sarah Murphy. Felly, tynnodd y Llywydd sylw'r Pwyllgor Busnes at yr ychwanegiad canlynol at yr agenda ar gyfer y cyfarfod yfory:

 

  • Cynnig i ethol Aelod i bwyllgor (5 mun)

 

  • Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.55pm. 

 

 

3.2

Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at yr ychwanegiadau a ganlyn:

 

Dydd Mawrth 13 Medi 2022 –

 

·         Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) (60 munud)

·         Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Ymgynghoriad ar Ardoll Ymwelwyr (45 munud)

 

 

3.3

Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:

 

Dydd Mercher 28 Gorffennaf 2022 –

 

  • Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
  • Dadl ar Ddeiseb P-06-1276: Ymestyn adran 25B o Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 (30 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

 

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) - amserlen

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes yr amserlen arfaethedig gan y Trefnydd a’r ohebiaeth a gafwyd gan Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, a chytunwyd y dylai penderfyniad gael ei wneud ynghylch a ddylai Bil gael ei gyfeirio at bwyllgor cyfrifol i ystyried ei egwyddorion cyffredinol ar ôl iddo gael ei gyflwyno. Felly, cytunodd y Pwyllgor Busnes y byddai’n dychwelyd i ystyried amserlen y Bil ymhellach ar ddechrau tymor yr hydref, gan ystyried a fu modd gwneud unrhyw waith ymgynghori cyhoeddus dros yr haf. 

 

 

4.2

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr yn ei thrafodaethau ar yr amserlen ar gyfer Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru).

 

4.3

Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor Busnes y wybodaeth ddiweddaraf am y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol cyfredol a chytunodd ar y canlynol:       

 

  • cyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ysgolion at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad i graffu arno, gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar 17 Tachwedd.
  • cyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar Fil Banc Seilwaith y DU at y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, y Pwyllgor Cyllid a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad i graffu arno, gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar 17 Tachwedd.
  • cyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Caffael at y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad i graffu arno, gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar 10 Tachwedd.

 

Darparodd y Trefnydd ddiweddariad ar lafar ar y rhaglen Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ehangach.

 

 

5.

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24

5.1

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes yr ymateb gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid yn ymwneud ag amserlen y llywodraeth ar gyfer cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2023-24. Oherwydd yr ansicrwydd ynghylch digwyddiad cyllidol a ragwelir gan Lywodraeth y DU yn yr hydref, cytunodd y Pwyllgor Busnes ar amserlen arfaethedig Llywodraeth Cymru, gan gynnwys dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad y pwyllgor, sef dydd Llun 6 Chwefror 2023. Wrth wneud hynny, nododd y Pwyllgor Busnes y dynodiadau a roddwyd gan y Llywodraeth ei bod yn bosibl y bydd modd addasu’r amserlen unwaith y bydd bwriadau Llywodraeth y DU yn fwy clir. 

 

6.

Pwyllgorau

6.1

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau - cais am ddadl yn y Cyfarfod Llawn

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar gais y Pwyllgor Deisebau am ddadl ynghylch deiseb P-06-1276: Ymestyn adran 25B o Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 ac i drefnu hyn ar gyfer dydd Mercher 28 Medi. 

 

 

7.

Adolygiad o Reol Sefydlog 34 a chyfranogiad o bell

7.1

Canllawiau drafft cyntaf ar drafodion rhithwir a hybrid

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes ganllawiau drafft a luniwyd yn dilyn ei Adolygiad o Reol Sefydlog 34 a chyfranogiad o bell yn nhrafodion y Senedd, a chytunwyd ar sawl newid yn ymwneud â’r lleoliadau y gall Aelodau bleidleisio ohonynt ac yn ymwneud â’r trefniadau ar gyfer cyfranogiad Aelodau a Gweinidogion mewn cyfarfodydd pwyllgor.

 

Nododd y Pwyllgor Busnes y bydd y canllawiau hefyd yn destun ymgynghori gyda Fforwm y Cadeiryddion cyn eu cyhoeddi gan y Llywydd yn ystod yr hydref. Bydd rhagor o wybodaeth am faterion technegol yn ymwneud â chyfranogiad a phleidleisio yn y Cyfarfod Llawn yn cael ei darparu ar ddechrau tymor yr hydref.