Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Lleoliad Allanol. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Graeme Francis 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Pwyllgor Busnes at y newid a ganlyn:

 

  • Dadl: Cyfnod 3 Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) (120 90 munud)

 

  • Ni fydd Cyfnod Pleidleisio ar wahân i drafodion Cyfnod 3 Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu).
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.30pm.      

 

Dydd Mercher 

 

  • Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.10pm. 

 

 

3.2

Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Ni wnaed unrhyw newidiadau i amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf. 

 

 

3.3

Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:

 

Dydd Mercher 21 Medi 2022 –

 

  • Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig: Adolygiad o Reoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 (60 munud)
  • Cynnig i gymeradwyo’r Cynllun Ieithoedd Swyddogol ar gyfer y Chweched Senedd a nodi’r adroddiad blynyddol ar y Cynllun Ieithoedd Swyddogol ar gyfer 2021-22 (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

 

 

4.

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24

4.1

Llythyr gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd ynghylch yr amserlen ar gyfer cyhoeddi’r gyllideb ddrafft a’r gyllideb derfynol ar gyfer 2023-24

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes ohebiaeth yn ymwneud â’r amserlen ar gyfer cyhoeddi’r gyllideb ddrafft a’r gyllideb derfynol ar gyfer 2023-24. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Pwyllgor Cyllid i ymgynghori ynghylch yr amserlen arfaethedig a dychwelyd at y mater yn ei gyfarfod cyntaf ym mis Medi. 

 

 

4.2

Atodiad A: Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid

4.3

Ymateb gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid at y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

5.

Adolygiad o Reol Sefydlog 34 a chyfranogiad o bell

5.1

Trafod yr adroddiad drafft ar ddiwygio Rheolau Sefydlog: Rheol Sefydlog 34 a chyfranogiad o bell yn nhrafodion y Senedd

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes yr adroddiad ar yr adolygiad o Reol Sefydlog 34 a chyfranogiad o bell yn nhrafodion y Senedd, a chytuno arno, yn amodol ar welliant mewn perthynas â phresenoldeb mewn cyfarfodydd pwyllgor y cytunir arnynt y tu allan i’r cyfarfod. Byddai’r Pwyllgor yn trafod canllawiau drafft cychwynnol ar gyfranogiad mewn trafodion rhithwir a hybrid yn ei gyfarfod nesaf.

 

 

6.

Y Rheolau Sefydlog

6.1

Trafod yr adroddiad drafft ar ddiwygio Rheolau Sefydlog: Rheolau Sefydlog Dros Dro 12.41 A-H ar Bleidleisio Drwy Ddirprwy

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes yr adroddiad a chytunodd arno.

 

 

7.

Rhaglen waith weithdrefnol

7.1

Rhaglen waith weithdrefnol y Pwyllgor Busnes ar gyfer y Chweched Senedd

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes y rhaglen waith weithdrefnol ar gyfer tymor yr hydref a thu hwnt, gan gynnwys trafod nifer o argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd ac adolygiad o drefniadau pleidleisio drwy ddirprwy. Nododd y Pwyllgor Busnes fod y ffenestr lle gall y Pwyllgor ddylanwadu ar gyfarwyddiadau polisi Bil ar Ddiwygio’r Senedd yn debygol o fod rhwng mis Medi a mis Rhagfyr 2022, a chytunodd i drafod papur manwl sy’n nodi materion yn ymwneud ag argymhellion y Pwyllgor mewn cyfarfod dilynol.

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes mewn egwyddor i gyfarfod yn gyhoeddus wrth ystyried materion gweithdrefnol, gan gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar faterion perthnasol sy’n ymwneud â Diwygio’r Senedd, lle y bo’n briodol. 

 

 

7.2

Y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd: Trafod argymhellion yr adroddiad

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes y rhaglen waith weithdrefnol ar gyfer tymor yr hydref a thu hwnt, gan gynnwys trafod nifer o argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd ac adolygiad o drefniadau pleidleisio drwy ddirprwy. Nododd y Pwyllgor Busnes fod y ffenestr lle gall y Pwyllgor ddylanwadu ar gyfarwyddiadau polisi Bil ar Ddiwygio’r Senedd yn debygol o fod rhwng mis Medi a mis Rhagfyr 2022, a chytunodd i drafod papur manwl sy’n nodi materion yn ymwneud ag argymhellion y Pwyllgor Diben Arbennig mewn cyfarfod dilynol.

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes mewn egwyddor i gyfarfod yn gyhoeddus wrth ystyried materion gweithdrefnol, gan gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar faterion perthnasol sy’n ymwneud â Diwygio’r Senedd, lle y bo’n briodol. 

 

 

8.

Papur i'w nodi

8.1

Llythyr gan Gadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr gan Gadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ynghylch y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer Bil Banc Seilwaith y DU a’r Bil Masnach (Awstralia a Seland Newydd).