Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Lleoliad Allanol. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Graeme Francis 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

  • Ni fydd Cyfnod Pleidleisio ar wahân i drafodion Cyfnod 3 y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru).
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 9.30pm.

Dydd Mercher 

 

  • Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.  
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.40pm. 

 

 

3.2

Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn: 

 

Dydd Mawrth 28 Mehefin -

 

·         Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Cynllun Peilot Incwm Sylfaenol ar gyfer Pobl sy’n Gadael Gofal (30 munud) - aildrefnwyd

·         Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Diogelwch Adeiladu (30 munud)

·         Datganiad gan Weinidog yr Economi: Mesurau Rheoli Ffiniau (30 munud)

 

Dydd Mawrth 5 Gorffennaf -

 

·         Datganiad gan y Prif Weinidog: Y Rhaglen Lywodraethu (60 munud)

·         Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) (45 munud)

 

 

3.3

Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:

 

Dydd Mercher 6 Gorffennaf 2022 –

  • Cynnig i Ddirymu Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Diwygio'r Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2022 (30 munud)

 

Dydd Mercher 13 Gorffennaf 2022 –

 

·         Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Jane Dodds - Incwm Sylfaenol a'r newid i economi ddi-garbon (60 munud)

·         Dadl y Pwyllgor Cyllid ar flaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24 (60 munud)

·         Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig: Adnewyddu Rhaglen Ddileu TB Buchol Cymru (30 munud)

·         Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

 

 

4.

Adolygu Rheol Sefydlog 34 a chyfranogiad o bell

4.1

Darpariaethau Rheol Sefydlog 34

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnig y caniateir i Reolau Sefydlog 34.2-4 (Llywydd Dros Dro Dynodedig) fynd yn ddi-rym ar 1 Awst 2022 a bod Rheolau Sefydlog RhS 34.5-8 (Cadeirydd Dros Dro y Cyfarfodydd Llawn) yn cael eu hymgorffori yn Rheol Sefydlog 6.

 

 

4.2

Cyfranogi a phleidleisio o bell mewn Cyfarfodydd Llawn a phwyllgorau

Cofnodion:

Fel rhan o'i adolygiad o Reol Sefydlog 34 (gweithdrefnau brys), ystyriodd y Pwyllgor Busnes a ddylai cyfranogiad a phleidleisio o bell mewn Cyfarfodydd Llawn a chyfarfodydd pwyllgorau barhau y tu hwnt i bandemig Covid-19. Wrth wneud hynny, ystyriodd y Pwyllgor yr ymatebion a gafwyd gan Aelodau unigol, grwpiau pleidiau, Fforwm y Cadeiryddion a Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru. Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar y canlynol:

 

  • dylid parhau â chyfranogi o bell mewn Cyfarfodydd Llawn, gyda chanllawiau pellach i'w cyhoeddi yn cwmpasu ystod o faterion yn ymwneud â phresenoldeb ac ymddygiad, gan gynnwys pwysleisio mai cyfrifoldeb yr Aelodau sy'n cyfranogi o bell yw sicrhau cysylltiad dibynadwy â’r trafodion;
  • dylai pwyllgorau barhau i gael dewis fformat eu cyfarfodydd fesul cyfarfod ac mai cadeiryddion pwyllgorau ddylai wneud y penderfyniadau hynny, gan gynnwys penderfyniadau mewn cysylltiad â thystion, ar ôl ymgynghori â'u pwyllgorau;
  • Dylai Rheolau Sefydlog 34.14A-D sy'n caniatáu pleidleisio electronig o bell yn y Cyfarfod Llawn gael eu hymgorffori yn Rheol Sefydlog 12, i gynnwys mai cyfrifoldeb yr Aelodau eu hunain yw sicrhau eu bod yn gallu cael mynediad i'r system bleidleisio cyn unrhyw bleidleisiau. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylid cyhoeddi canllawiau pellach mewn perthynas â chynnal pleidlais;
  • Dylid caniatáu i Reolau Sefydlog 34.14E-F sy'n caniatáu pleidleisio electronig o bell mewn cyfarfodydd pwyllgorau fynd yn ddi-rym a chynnig y dylid diwygio Rheol Sefydlog 17 i alluogi pleidleisio drwy alw'r gofrestr yn nhrafodion pwyllgorau;
  • Y dylid caniatau i Reolau Sefydlog 34.15-17 (Hygyrchedd Cyfarfodydd Llawn) a 34.19-21 (Hygyrchedd Cyfarfodydd Pwyllgor) fynd yn ddi-rym.
  • Bod Rheolau Sefydlog 12.1 a 17.40 yn cael eu diwygio i’w gwneud yn glir bod cyfarfodydd rhithwir a hybrid yn gymwys fel cyfarfodydd cyhoeddus pan fo darllediad byw ar gael.

 

Gofynnodd y Pwyllgor Busnes hefyd am roi ystyriaeth bellach i'r angen parhaus am seibiannau technegol cyn y cyfnod pleidleisio a'r defnydd o PIN ar gyfer pleidleisio, a hefyd a ellid rhoi mwy o wybodaeth i grwpiau pleidiau o ran pa Aelodau sy'n bresennol i bleidleisio.