Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Tŷ Hywel

Cyswllt: Graeme Francis 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Pwyllgor Busnes at y newid a ganlyn:

                                  

Dydd Mawrth

 

  • Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar COVID-19 - Tynnwyd Yn Ôl
  • Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (30 munud)

 

  • Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.00pm

 

Dydd Mercher 

 

Nododd y Pwyllgor Busnes fod grŵp y Ceidwadwyr yn bwriadu newid ei aelod ar y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad o Peter Fox i James Evans. Felly, tynnodd y Llywydd sylw'r Pwyllgor Busnes at yr ychwanegiad canlynol at yr agenda ar gyfer y cyfarfod yfory: 

 

  • Cynnig i ethol Aelod i bwyllgor (5 mun) 

 

  • Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.40pm. 

 

Cafodd y Pwyllgor Busnes ei atgoffa gan y Llywydd o’i bwriad ynghylch amser siarad a ddyrennir i Aelodau yn ystod y ddadl 120 munud yfory ar adroddiad y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd.

 

Gorchuddion wyneb

 

Cafodd y Pwyllgor Busnes ddiweddariad ar y sefyllfa o ran gwisgo gorchuddion wyneb ar yr ystâd. Gan nad yw gwisgo gorchuddion wyneb bellach yn ofynnol wrth symud o gwmpas yr adeilad, er bod defnyddwyr adeiladau'n cael eu hannog i barhau i wneud hynny mewn sefyllfaoedd risg uwch, cytunodd y Pwyllgor y byddai defnyddio gorchuddion wyneb yn y Siambr bellach yn fater o ddewis unigol i'r Aelodau. Cytunwyd y byddai diweddariad cyffredinol ar ddefnyddio gorchuddion wyneb ar yr Ystâd yn cael ei ddosbarthu i'r Aelodau.

 

 

3.2

Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

3.3

Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:

                     

Dydd Mercher 29 Mehefin 2022 -

 

·         Datganiad Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus: Cyfrifon Cyfunol Llywodraeth Cymru 2020/21 (30 munud)

·         Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Aros yn iach? Effaith yr ôl-groniad o ran amseroedd aros ar bobl yng Nghymru (60 munud)

·         Dadl ar Ddeiseb P-06-1277: Achub yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys. Rhaid i Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg gadw gofal brys 24 awr, 7 diwrnod yr wythnos, dan arweiniad meddyg ymgynghorol

·         Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

 

 

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor Busnes y wybodaeth ddiweddaraf am y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol cyfredol a chytunodd ar y canlynol:

 

  • cyfeirio'r Memorandwm ar y Bil Masnach (Awstralia a Seland Newydd) at Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar 29 Medi 2022.  Byddai Pwyllgor yr Economi a’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn cael eu hannog i drafod rhyngddynt pa Bwyllgor fyddai'n arwain ar y gwaith craffu hwn o safbwynt polisi;
  • cyfeirio'r Memorandwm ar Fil Banc Seilwaith y DU at y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith, Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, y Pwyllgor Cyllid a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar 29 Medi 2022. Byddai’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Pwyllgor yr Economi a’r Pwyllgor Cyllid yn cael eu hannog i drafod rhyngddynt pa Bwyllgor fyddai'n arwain ar y gwaith craffu hwn o safbwynt polisi;
  • nodi'r sefyllfa a'r llythyrau a dderbyniwyd mewn perthynas â'r Bil Ffyniant Bro ac Adfywio a'r Bil Caffael, ac aros am ddiweddariad pellach mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

 

 

4.2

Llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd - Y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

 

4.3

Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol - Y Bil Caffael

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

 

5.

Pwyllgorau

5.1

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau - cais am ddadl yn y Cyfarfod Llawn

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gais y Pwyllgor Deisebau am ddadl ar ddeiseb P-06-1277 Achub yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys. Rhaid i Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg gadw gofal brys 24 awr, 7 diwrnod yr wythnos, dan arweiniad meddyg ymgynghorol, i'w hamserlennu ar 29 Mehefin.

 

 

 

6.

Unrhyw faterion eraill

Cofnodion:

Gofynnodd y Llywydd i'r Rheolwyr Busnes atgoffa eu Haelodau bod ganddynt tan ddiwedd y dydd ddydd Iau 9 Mehefin i ymateb i'r arolwg sy'n rhan o adolygiad y Pwyllgor Busnes o Reol Sefydlog 34 a chyfranogiad o bell yn nhrafodion y Senedd.

 

Gofynnodd Darren Millar pryd y bydd balot nesaf y Bil Aelod yn cael ei gynnal. Dywedodd y Llywydd y byddai'n ystyried cyngor cyn bo hir ac mai ei bwriad yw cynnal balot arall cyn gynted â phosibl.