Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Tŷ Hywel

Cyswllt: Graeme Francis 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod

 

2.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

  • Datganiad gan Weinidog yr Economi: Mesurau Rheoli Ffin (30 munud)

 

  • Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 5.30pm.

Dydd Mercher 

 

  • Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd (30 15 munud)
  • Dadl fer:  Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru) (30 munud)

 

  • Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.10pm. 

 

3.2

Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Pwyllgor Busnes at y newidiadau a ganlyn:

 

Dydd Mawrth 10 Mai -

 

  • Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Safon Ansawdd Tai Cymru 2
  • Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Fframwaith Canlyniadau Iechyd a Gofal Cymdeithasol

 

Dydd Mawrth 17 Mai -

 

 

Nododd y Pwyllgor Busnes fod trefn y cwestiynau i weinidogion ar 11 Mai wedi'i haddasu, gyda chwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn dod cyn cwestiynau i Weinidog yr Economi.

 

3.3

Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:

 

Dydd Mercher 25 Mai 2022 –

 

·         Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

 

3.4

Dadl Aelodau: Dewis Cynigion ar gyfer Dadl

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i amserlennu’r cynigion a gyflwynwyd a chytunodd i amserlennu’r cynnig canlynol i’w drafod ar 11 Mai 2022:

 

NNDM7994

Alun Davies

Cyd-gyflwynwyr

Rhun ap Iorwerth

Samuel Kurtz

Jane Dodds

 

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod 90 mlynedd eleni ers yr Holodomor: y newyn a laddodd tua 4-6 miliwn o bobl yn Wcráin dros 1932/33.

2.  Yn nodi ymhellach bod y newyn hwn wedi digwydd o ganlyniad i weithredoedd a pholisïau bwriadol yr Undeb Sofietaidd.

3. Yn mynegi ei chydymdeimlad ac yn estyn ei chydgefnogaeth i bobl Wcráin ar ran pobl Cymru.

4.  Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gychwyn rhaglen goffáu i gofio dioddefwyr yr Holodomor ac i godi ymwybyddiaeth o ddioddefaint pobl Wcráin.

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd i amserlennu’r cynnig canlynol i’w drafod ar 25 Mai:

 

NNDM7964

Jack Sargeant

 

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi:

a) mai Llywodraeth Cymru oedd y gyntaf yn y byd i ddatgan argyfwng hinsawdd, gan gydnabod y bygythiad difrifol y mae newid yn yr hinsawdd yn ei achosi;

b) bod cynlluniau pensiwn y sector cyhoeddus yn parhau i fuddsoddi mewn tanwydd ffosil ac, ers blynyddoedd lawer, mae ymgyrchwyr wedi annog cynlluniau i ddadfuddsoddi;

c) bod partneriaeth bensiwn Cymru wedi symud yn gyflym i dynnu buddsoddiad o ddaliadau Rwsia yn ôl a'i fod wedi symud oddi wrth lo o'r blaen, gan ddangos felly ei bod yn bosibl i gronfeydd pensiwn wneud y penderfyniadau hyn;

d) bod Aelodau'r Senedd wedi cymryd y cam cyntaf i symud eu cronfeydd pensiwn eu hunain oddi wrth danwydd ffosil;

e) pe bai cynlluniau pensiwn y sector cyhoeddus yng Nghymru yn dadfuddsoddi, Cymru fyddai'r wlad gyntaf yn y byd i gyflawni hyn, gan ddangos i ddarparwyr cronfeydd yr angen i greu cynhyrchion buddsoddi di-danwydd ffosil.

2.  Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r sector cyhoeddus i gytuno ar strategaeth i ddatgarboneiddio pensiynau erbyn 2030, gan sicrhau eu bod yn cyd-fynd â thargedau sero net presennol y sector cyhoeddus.

 

4.

Rheolau Sefydlog

4.1

Adolygiad o Reol Sefydlog 34 a chyfrannu at drafodion y Senedd o bell: dull arfaethedig

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar y cylch gorchwyl a'r dull arfaethedig o gasglu tystiolaeth ar gyfer yr adolygiad, gan gynnwys y dylai ystyried statws y darpariaethau sydd wedi'u cynnwys ar hyn o bryd yn Rheol Sefydlog 34 (Gweithdrefnau Brys) a pharhau i gymryd rhan o bell yn nhrafodion y Senedd yn y tymor canolig cyn toriad yr haf. Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd y dylai'r sefyllfa yn y tymor hwy o ran cyfranogiad a phleidleisio o bell, gan gynnwys ar gyfer tymhorau Seneddau’r dyfodol, gael ei hystyried ymhellach ac y dylid ymgynghori arni yn ddiweddarach yn ystod tymor y Senedd hon.