Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Via Zoom

Cyswllt: Graeme Francis 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

 

  •   Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Cynllun Gweithredu newydd ar Anabledd Dysgu (45 munud)– Tynnwyd yn ôl
  • Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro
  • Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar yr eitemau a ganlyn gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (15 munud)
    • Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd - cynnig 1
    • Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd - cynnig 2

 

Yn dilyn gohebiaeth a dderbyniwyd gan y Trefnydd, nododd y Llywydd ei bod wedi rhoi ei chytundeb, yn unol â Rheol Sefydlog 33.8, y gallai'r Senedd ystyried y Cynnig i Atal Rheolau Sefydlog heddiw yng ngoleuni'r amserlenni ynghylch ystyried Bil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a Llysoedd yn Senedd y DU.

 

Cadarnhaodd y Llywydd ei bod wedi derbyn Cwestiwn Brys i'w ofyn ar ddechrau'r Cyfarfod Llawn ar Wcrain.

 

Dywedodd y Llywydd hefyd y byddai ffotograffydd yn bresennol yn y Siambr am gyfnod byr ar ddechrau’r Cwestiynau i'r Prif Weinidog.

 

Dydd Mercher 

 

  • Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.40pm. 

 

Fformat y Cyfarfod Llawn

 

 

Cadarnhaodd y Llywydd y bydd cynllun eistedd sefydlog ar waith ar gyfer y Cyfarfod Llawn o heddiw ymlaen, ar ôl dileu'r cyfyngiadau ar nifer yr Aelodau sy'n gallu bod yn y Siambr ar unrhyw adeg.

 

 

3.2

Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Pwyllgor Busnes at y newidiadau a ganlyn:

 

Dydd Mawrth 8 Mawrth 2022 -

  • Datganiad gan Weinidog yr Economi: Cymru Gryfach, Decach, Wyrddach: Cynllun ar gyfer Cyflogadwyedd a Sgiliau (45 munud)
  • Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Rhent Masnachol (Coronafeirws) (15 munud)

 

Dydd Mawrth 15 Mawrth 2022 -

·         Dadl:  Ail Gyllideb Atodol 2021-22 (30 munud)

·         Dadl:  Diwygiad i Setliad Llywodraeth Leol 2021-2022 (15 munud)

 

Gofynnodd Darren Millar a yw'n fwriad gan Lywodraeth Cymru i wneud datganiad llafar ar y trefniadau ar gyfer erthyliad meddygol cynnar gartref, yn dilyn y datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd ar 24 Chwefror. Cytunodd y Trefnydd i ddarparu rhagor o wybodaeth ar ffurf nodyn i Aelodau'r Pwyllgor Busnes.

 

 

3.3

Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:

 

Dydd Mercher 23 Mawrth 2022 -

 

  • Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): (60 munud)
  • Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig: Cyfeiriad newydd ar gyfer gyrwyr cerbydau nwyddau trwm – Mynd i'r afael â diffyg gyrwyr cerbydau nwyddau trwm a phroblemau cysylltiedig â’r gadwyn gyflenwi (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) 
  • Dadl Fer – Heledd Fychan (Canol De Cymru) (30 munud)

 

 

3.4

Dadl Aelodau: Dewis Cynigion ar gyfer Dadl

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i amserlennu’r cynnig canlynol i’w drafod ar 9 Mawrth 2022:

 

NNDM7925 Mike Hedges

Cynnig bod y Senedd:

Yn cefnogi datganoli plismona.

Cyd-gyflwynwyr

Alun Davies

Jane Dodds

Delyth Jewell

Rhys ab Owen

Cefnogwyr

Sarah Murphy

 

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2022

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes y bydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn adrodd ar y rheoliadau hyn cyn y ddadl heddiw yn y Cyfarfod Llawn.

 

 

4.2

Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor Busnes y wybodaeth ddiweddaraf am y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol cyfredol a chytunodd:

 

  • i gyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 4) ar y Bil Diogelwch Adeiladau at y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar 22 Mawrth.
  • i beidio â chyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 5) ar y Bil Plismona, Troseddu, Dedfrydu a Llysoedd at bwyllgor i graffu arno yng ngoleuni'r ddadl y bwriedir ei chynnal yn y  Cyfarfod Llawn y prynhawn yma.
  • i ymestyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar gyfer y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaetho Atodol (Memorandwm Rhif 2) ar y Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir) tan 31 Mawrth 2022.
  • i beidio â chyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2) ar y Bil Rhent Masnachol (Coronafeirws), sydd i'w osod yr wythnos hon, at bwyllgor i graffu arno yng ngoleuni'r ddadl yn y Cyfarfod Llawn y bwriedir ei chynnal ar 8 Mawrth 2022.

 

 

5.

Amserlen y Pwyllgorau

5.1

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar y cais i'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol gynnal cyfarfod ychwanegol ar fore 28 Mawrth 2022.

 

 

6.

Unrhyw faterion eraill

Cofnodion:

Cafodd y Rheolwyr Busnes eu hatgoffa gan y Llywydd i ymgynghori â'u grwpiau ar y diwygiadau arfaethedig i amserlen y pwyllgorau gyda'r bwriad y bydd y Pwyllgor Busnes yn gwneud penderfyniadau yn y cyfarfod yr wythnos nesaf.