Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Zoom

Cyswllt: Graeme Francis 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r Pwyllgor

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

 

Dydd Mercher 

 

Tynnodd y Llywydd sylw'r Pwyllgor Busnes at y newid canlynol i fusnes dydd Mercher:

 

Dadl Fer – James Evans (Brycheiniog a Sir Faesyfed) (Tynnwyd yn ôl)

 

  • Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.50pm. 

 

Trafododd y Pwyllgor Busnes ailddechrau trafodion hybrid yn y Cyfarfod Llawn a'r trefniadau mewn perthynas ag egwyl ac ymyriadau. Gofynnodd y Llywydd i Reolwyr Busnes atgoffa eu Haelodau eu bod yn cael eu cynghori'n gryf i wisgo masgiau yn y Siambr ar wahân i pan maent yn siarad, ac i gymryd Profion Llif Unffordd cyn dod i ystâd y Senedd.

 

Gofynnodd y Llywydd hefyd i Reolwyr Busnes atgoffa eu Haelodau i gadw at derfynau amser o ran cyfraniadau yn y Cyfarfod Llawn.

 

 

 

3.2

Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Pwyllgor Busnes at y newidiadau a ganlyn:

 

Dydd Mawrth 8 Chwefror 2022 -

 

·         Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Arloesedd mewn Ynni Adnewyddadwy (45 munud) – caiff ei gyhoeddi fel datganiad ysgrifenedig

·         Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Ansawdd Dŵr (45 munud) – caiff ei gyhoeddi fel datganiad ysgrifenedig

·         Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Cap ar Brisiau Ynni (45 munud)

 

Dydd Mawrth 15 Chwefror 2022 -

 

·         Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y De-ddwyrain (Cymru) (Diwygio) 2022 (15 munud)

·         Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Swyddogaethau Trafnidiaeth) (Addasiadau Canlyniadol a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2022 (15 munud)

·         Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2022 (15 munud)

·         Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2022 (15 munud)

 

 

3.3

Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:

 

Dydd Mercher 16 Chwefror 2022 -

 

  • Dadl ar ddeiseb P-05-949 Arbed yr Ysgol Ganolradd i Ferched y Bont-faen (30 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (120 60 munud)

 

Dydd Mercher 2 Mawrth 2022 -

 

  • Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Alun Davies (Blaenau Gwent) – Effaith gorlifoedd stormydd (30 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

 

 

 

3.4

Dadleuon ar Gynigion Deddfwriaethol Aelodau - dethol cynnig i’w drafod

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i amserlennu’r cynigion canlynol i’w trafod:

 

Dydd Mercher 9 Chwefror 2022:

NNDM7831 Mabon ap Gwynfor

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil ar reolaethau rhent.

2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:

a) helpu i fynd i'r afael â rhai o effeithiau mwy difrifol

argyfwng tai Cymru, sy'n effeithio ar dros filiwn o bobl ledled y wlad;

b) lliniaru cynnydd sylweddol mewn rhent yn y dyfodol, fel y cynnydd a welwyd yn y sector rhentu dros y 12 mis diwethaf;

c) cyflwyno system sy'n cyfyngu ar renti a chynnydd mewn rhent i lefelau fforddiadwy a ffactorau lleol, gan gau'r bwlch rhwng twf cyflogau a chostau byw.

 

Dydd Mercher 2 Mawrth 2022:

NNDM7833 Alun Davies

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil i leihau effaith andwyol gorlifoedd stormydd.

2. Yn nodi mai diben y Bil fyddai:

a) gosod dyletswydd ar ymgymerwr carthffosiaeth y mae ei ardal yn gyfan gwbl neu'n bennaf yng Nghymru i sicrhau gostyngiad cynyddol yn effaith andwyol gollyngiadau o orlifoedd stormydd yr ymgymerwr;

b) lleihau effeithiau andwyol gollyngiadau carthion ar

yr amgylchedd ac ar iechyd y cyhoedd;

c) ei gwneud yn bosibl i'r ddyletswydd ar ymgymerwr carthffosiaeth gael ei gorfodi gan Weinidogion Cymru neu gan yr Awdurdod gyda chydsyniad awdurdodiad cyffredinol  a roddir gan Weinidogion Cymru, neu'n unol â hynny.

 

Dydd Mercher 16 Mawrth 2022:

NNDM7896 Janet Finch-Saunders

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil ar gynllunio morol yng Nghymru.

2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:

a) gwneud darpariaethau ar gyfer polisïau a fyddai'n helpu i lywio lleoliad datblygiadau i ffwrdd o'r  ardaloedd mwyaf sensitif o safbwynt ecolegol, lleihau'r effeithiau cronnol ar gynefinoedd a rhywogaethau sy'n agored i niwed, a rhoi mwy o sicrwydd i ddatblygwyr;

b) creu dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i hwyluso'r gwaith o greu cynllun datblygu morol cenedlaethol, a'i adolygu o leiaf unwaith ym mhob Senedd;

c) sefydlu meysydd adnoddau strategol ar gyfer ynni morol;

d) cyhoeddi strategaeth ar gyfer gwrthdroi dirywiad adar môr;

e) ei gwneud yn ofynnol i ffermydd gwynt ar y môr gynnwys adfer cynefinoedd gwely'r môr; strategaeth ar gyfer cynaeafu bwyd môr cynaliadwy o fewn

ardal y fferm wynt a mesurau gwella amgylcheddol.

 

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Iechyd a Gofal

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3) ar y Bil Iechyd a Gofal at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar fore 15 Chwefror 2022.

 

 

5.

Pwyllgorau

5.1

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i drefnu dadl ar ddeiseb P-05-949 Achub Ysgol Ganolradd i Ferched y Bont-faen dydd Mercher 16 Chwefror 2022.

 

 

6.

Amserlen y Pwyllgorau

6.1

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

7.

Busnes y Senedd

7.1

Craffu ar Aelodau Dynodedig

Cofnodion:

Datganodd Sian Gwenllian fuddiant fel Aelod Dynodedig.

 

Ystyriodd y Pwyllgor Busnes yr opsiynau posibl ar gyfer hwyluso craffu ar waith Arweinydd Plaid Cymru ac Aelodau Dynodedig ar y Cytundeb Cydweithio ymhellach, yn dilyn ymgynghoriad y Rheolwyr Busnes â’u grwpiau.

Roedd grwpiau’r Ceidwadwyr a Phlaid Cymru o blaid cyflwyno mecanweithiau ar gyfer craffu ar waith Aelodau Dynodedig ac Arweinydd Plaid Cymru yn y Cyfarfod Llawn. Nid oedd y grŵp Llafur a'r Democrat Rhyddfrydol o blaid.

Felly, nid oedd mwyafrif o blaid cynnig unrhyw newidiadau i'r Rheolau Sefydlog. Fodd bynnag, nododd y Pwyllgor Busnes y mecanweithiau presennol y gellir eu defnyddio ar gyfer craffu ar waith Aelodau Dynodedig ac Arweinydd Plaid Cymru gan bwyllgorau'r Senedd.