Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Zoom

Cyswllt: Graeme Francis 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.

 

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

  • Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 8.15pm.

 

Gofynnodd Darren Millar i'r amser ar gyfer Cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb Cwricwlwm Cymru, gael ei ymestyn o ystyried nifer yr Aelodau a allai fod yn dymuno siarad arno. Dywedodd y Llywydd y bydd yn defnyddio ei disgresiwn i geisio sicrhau bod pob Aelod sy'n dymuno siarad yn gallu gwneud hynny.      

 

Dydd Mercher  

 

  • Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.45pm. 

 

Cyfarfod llawn rhithwir

 

Dywedodd y Llywydd ei bod, ar ôl ymgynghori ag arweinwyr grwpiau, wedi penderfynu y cynhelir y Cyfarfod Llawn mewn fformat rhithwir yr wythnos hon oherwydd y sefyllfa bresennol mewn perthynas â Coronafeirws, ond bod Aelodau a'u staff yn parhau i allu cael mynediad i Dŷ Hywel at ddibenion busnes, pan fydd angen hynny o ran llesiant neu os nad yw eu hamgylchiadau'n caniatáu iddynt weithio'n effeithiol gartref.

 

Gofynnodd y Llywydd i Reolwyr Busnes roi gwybod i'r Aelodau nad oes unrhyw seibiannau wedi'u trefnu felly yn ystod y trafodion ac y bydd ymyriadau yn y Cyfarfod Llawn rhithwir yr wythnos hon yn aros yr un fath ag y buont mewn trafodion hybrid diweddar – dylai Aelodau godi llaw yn gorfforol i nodi pryd y maent yn dymuno ymyrryd.

 

Adalw

 

Nododd y Llywydd y byddai unrhyw achos o adalw’r Senedd a fyddai’n ofynnol dros doriad y Nadolig yn digwydd yn rhithwir.

 

 

3.2

Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Pwyllgor Busnes at y newidiadau a ganlyn:

 

Dydd Mawrth 11 Ionawr 2022 -

 

·         Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cymru Iachach (45 munud) - tynnwyd yn ôl

·         Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 22) 2021 (30 munud)

 

 

3.3

Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:

 

Dydd Mercher 26 Ionawr 2022 -

 

·        Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): (60 munud)

  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

 

 

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 22) 2021

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylai'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyflwyno adroddiad ar Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 21) 2021erbyn dydd Llun10 Ionawr 2022.

 

 

4.2

Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Gwrthrychau Diwylliannol (Gwarchodaeth rhag Ymafael), Y Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir) a'r Bil Sgiliau ac Addysg Ôl-16

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar y canlynol:

 

·         cyfeirio'r Memorandwm ar y Bil Gwrthrychau Diwylliannol (Gwarchodaeth rhag Ymafael) at y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar 10 Mawrth 2022;

·         cyfeirio'r Memorandwm Atodol ar y Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir) at Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar 17 Chwefror 2022; a

·         chyfeirio’r Memorandwm Atodol ar y Bil Sgiliau ac Addysg Ôl-16 at Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar 11 Ionawr 2022.

Yn ogystal, cytunwyd y gellid cyfeirio'r Memorandwm ar gyfer y Bil Cenedligrwydd a Ffiniau, a ystyriwyd yn y cyfarfod blaenorol, hefyd at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.

 

 

5.

Pwyllgorau

5.1

Papur gan Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i roi caniatâd i Aelodau'r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol adael y Cyfarfod Llawn yn gynnar ddydd Mercher 9 Chwefror 2022.

 

 

6.

Amserlen y Pwyllgorau

6.1

Ceisiadau o ran Amserlen y Pwyllgorau

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ganiatáu i’r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol gynnal cyfarfod ychwanegol ar brynhawn 14 Chwefror 2022 er mwyn cymryd tystiolaeth fel rhan o'i ymchwiliad i dlodi tanwydd a'r rhaglen cartrefi cynhesach.

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd i ganiatáu i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus gynnal cyfarfod ychwanegol ar fore 17 Chwefror 2022 i ystyried Cyfrifon Blynyddol 2020-21 Llywodraeth Cymru, yn amodol ar osgoi gwrthdaro â chyfarfod Fforwm y Cadeiryddion ar yr un diwrnod.

 

 

6.2

Adolygiad o amserlen y pwyllgorau a chylchoedd gwaith y pwyllgorau:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar gylch gorchwyl ac amserlen ar gyfer yr adolygiad, yn amodol ar y safbwyntiau a fynegwyd gan Fforwm y Cadeiryddion yn ei gyfarfod ar 16 Rhagfyr 2021.

 

 

7.

Busnes y Senedd

7.1

Effaith y Cytundeb Cydweithio ar Fusnes y Senedd

Cofnodion:

Datganodd Sian Gwenllian fuddiant gan ei bod wedi'i phenodi'n Aelod Dynodedig.

 

Dychwelodd y Pwyllgor Busnes at y goblygiadau i Fusnes y Senedd sy'n deillio o'r Cytundeb Cydweithio.

 

Roedd y Ceidwadwyr a Jane Dodds o'r farn na ddylid dyrannu'r Gadeiryddiaeth i Blaid Cymru. Roedd Llafur a Phlaid Cymru o'r farn y dylai Cadeiryddiaeth y Pwyllgor Cyllid barhau i gael ei dyrannu i Blaid Cymru. Gan nad oedd mwyafrif ar y Pwyllgor Busnes o blaid, ni fyddai unrhyw newid yn cael ei gynnig. At ddibenion cofnodi, nododd y Llywydd ei barn na ddylai Plaid Cymru gadeirio'r Pwyllgor Cyllid.

 

Nododd y Pwyllgor Busnes y byddai enw, cyfrifoldebau a phortffolios yr Aelodau Dynodedig yn cael eu cyhoeddi.  Trafododd y Pwyllgor sut i ddarparu ar gyfer rôl Aelodau Dynodedig o fewn trefniadau busnes presennol y Senedd gan gynnwys: cwestiynau, datganiadau, dadleuon; dyrannu amser nad yw'n amser y llywodraeth; pwyllgorau'r Senedd; a'r cyfle i graffu ar Aelodau Dynodedig. Dywedodd y Llywydd ei bod yn bwriadu cyhoeddi datganiad pellach ddydd Mercher yn amlinellu ei phenderfyniadau ar faterion o fewn ei disgresiwn.

 

Byddai'r Pwyllgor Busnes yn ystyried opsiynau ar gyfer craffu ar waith Arweinydd Plaid Cymru ac Aelodau Dynodedig ar faterion yn ymwneud â'r Cytundeb Cydweithio mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i barhau i adolygu gweithrediad y Cytundeb ac unrhyw newidiadau a wneir wrth symud ymlaen ac i ddychwelyd atynt maes o law.