Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Zoom

Cyswllt: Graeme Francis 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.

 

3.

Trefn busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

·         Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.

·         Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.40pm.

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Pwyllgor Busnes at y newid canlynol i agenda dydd Mawrth:

 

·         Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Gwaith Ymchwil Manwl ar Ynni Adnewyddadwy (45 munud) datganiad ysgrifenedig i'w gyhoeddi yr wythnos hon gyda datganiad llafar o bosibl i'w ddilyn yn y flwyddyn newydd unwaith y bydd yr Aelodau wedi cael cyfle i ddarllen yr adroddiad llawn

 

Hysbysodd y Llywydd Rheolwyr Busnes y bydd artist yn braslunio Cyfarfod Llawn o'r oriel gyhoeddus fel rhan o brosiect am 'sut mae democratiaeth i’w weld’.  Nid yw hwn yn un o brosiectau’r Comisiwn.

 

Dydd Mercher  

 

·         Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.

·         Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.50pm. 

 

 

3.2

Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Pwyllgor Busnes at y newidiadau a ganlyn:

 

Dydd Mawrth 14 Rhagfyr 2021 –

 

·         Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Llunio Dyfodol Cymru – Gosod cerrig milltir cenedlaethol, dangosyddion cenedlaethol diwygiedig a chyhoeddi adroddiad Tueddiadau’r Dyfodol (45 munud)

·         Datganiad gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a'r Prif Chwip: Diweddariad ar y cynnydd yn dilyn cyhoeddi 'The Slave Trade and the British Empire: An audit of commemoration in Wales' (45 munud)gohirio

·         Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Diogelwch Adeiladu (45 munud)

·         Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 21) 2021 (30 munud)

 

Nododd y Pwyllgor Busnes fod disgwyl i'r adolygiad tair wythnos diweddaraf o’r Rheoliadau Coronafeirws gael ei gynnal yn ddiweddarach yr wythnos hon, a bod posibilrwydd o newidiadau i’r Rheoliadau Coronafeirws o ganlyniad. Cododd Rheolwyr Busnes gyda'r Trefnydd y byddent yn dymuno cael pleidlais ddangosol yn y Cyfarfod Llawn cyn toriad y Nadolig pe bai newidiadau sylweddol yn cael eu gwneud.

 

 

3.3

Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:

 

Dydd Mercher 19 Ionawr 2022 –

 

  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (120 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

 

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 21) 2021

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylai'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad gyflwyno adroddiad ar Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 21) 2021 erbyn dydd Llun 13 Rhagfyr.

 

4.2

Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Rhent Masnachol (Coronafeirws), y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir), y Bil Cymwysterau Proffesiynol, Bil Cenedligrwydd a Ffiniau’r DU a diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol presennol

Cofnodion:

At hynny, fe wnaeth y Pwyllgor Busnes gytuno i wneud y canlynol:

 

·         cyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Rhent Masnachol (Coronafeirws) at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a Phwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig gyda dyddiad cau ar gyfer adrodd o 10 Chwefror 2022;

·         cyfeirio’r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Rhif 3) ar y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir) at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a’r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai gyda dyddiad cau diwygiedig ar fore 14 Rhagfyr 2021 ar gyfer cyflwyno adroddiad arno;

·         cyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Rhif 2) ar y Bil Cymwysterau Proffesiynol at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a Phwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar 10 Chwefror 2022;

·         cyfeirio'r Memorandwm ar y Fil Cenedligrwydd a Ffiniau’r DU at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar 10 Chwefror 2022;

·         nodi'r sefyllfa ddiweddaraf o ran Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol.

 

 

5.

Y Rheolau Sefydlog

5.1

Cynnig i ddiwygio Rheola Sefydlog 23.4 sy'n ymwneud â'r trothwy llofnodion ar gyfer deisebau

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar Adroddiad drafft y Pwyllgor Busnes ar y newid y gofynnwyd amdano gan y Pwyllgor Deisebau, ac i gyflwyno cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog i'w drafod yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 15 Rhagfyr 2021.

 

 

 

5.2

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor Busnes y llythyr gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad a chytunodd i wahodd y Pwyllgor hwnnw i ystyried y pwyntiau a godwyd mewn perthynas â Rheolau Sefydlog 2.6 a 2.7 (Datganiadau o Fuddiant y gellir eu Cofrestru) fel rhan o'i adolygiad arfaethedig o gofrestru buddiannau.

 

 

6.

Busnes y Senedd

6.1

Y Cytundeb Cydweithio: Goblygiadau i Fusnes y Senedd?

Cofnodion:

Datganodd Sian Gwenllian fuddiant gan ei bod wedi'i phenodi'n Aelod Dynodedig.

 

Nododd y Pwyllgor Busnes y farn gyfreithiol allanol a ddarparwyd gan yr Arglwydd Pannick CF ar y Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, ac y byddai'r farn gyfreithiol yn cael ei rhannu gyda'r holl Aelodau. Roedd y cyngor yn cefnogi barn ragarweiniol y Llywydd nad oedd Plaid Cymru yn grŵp ag iddo rôl weithredol. Nododd y Pwyllgor Busnes fod barn y Llywydd ar y mater yn ddigyfnewid a'i bod yn derfynol.

Cynhaliodd y Pwyllgor Busnes drafodaeth gychwynnol ar y goblygiadau posibl ar gyfer gweithredu Busnes y Senedd o ganlyniad i’r Cytundeb. Cytunodd Rheolwyr Busnes y byddent yn ceisio barn eu grwpiau cyn dychwelyd at y mater yn y cyfarfod nesaf.