Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Zoom
Cyswllt: Graeme Francis
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon. Cofnodion: Croesawodd y Llywydd yr aelodau i’r cyfarfod. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi. |
|
Trefn Busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Busnes yr
wythnos hon Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Nododd y
Pwyllgor Busnes drefniadau diogelwch ar gyfer protestiadau posibl y prynhawn
yma ynghylch y diwygiad diweddaraf i Reoliadau Coronafeirws, yn ymwneud â'r
estyniad arfaethedig o basys Covid-19 i gynnwys lleoliadau ychwanegol. |
|
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Tynnodd y
Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn: Dydd Mawrth
16 Tachwedd 2021 - ·
Datganiad
gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Diweddariad ar y Comisiwn
Cyfansoddiadol (30 munud) Dydd Mawrth
23 Tachwedd 2021 - ·
Cadarnhaodd
y Trefnydd fod y Rheoliadau y cynigir eu grwpio ar gyfer un ddadl ar 30
Tachwedd i gyd yn ymwneud â sefydlu Cyd-bwyllgorau Corfforaethol. |
|
Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Amserlen
busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen: Dydd
Mercher 1 Rhagfyr 2021
|
|
Rheolau Sefydlog |
|
Diwygio Rheolau Sefydlog: Aelodaeth y Pwyllgor Safonau Ymddygiad Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor Busnes ar yr adroddiad drafft, ac i gyflwyno cynnig i ddiwygio'r
Rheolau Sefydlog, i’w drafod yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 17 Tachwedd
2021. |
|
Unrhyw faterion eraill Cofnodion: Enwebiadau
ar gyfer Cyngres Awdurdodau Lleol a Rhanbarthol Cyngor Ewrop a Grŵp
Cyswllt Pwyllgor y Rhanbarthau - y DU. Rhoddodd y
Llywydd wybod i’r Rheolwyr Busnes ei bod wedi ysgrifennu at yr Aelodau a
gynigwyd i'w henwebu, i drafod eu dewisiadau. Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar Fil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r
Llysoedd Rhoddodd y
Trefnydd wybod i’r Pwyllgor Busnes fod y llywodraeth wedi gosod Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol atodol mewn perthynas â Bil yr Heddlu, Troseddu,
Dedfrydu a’r Llysoedd ar 5 Tachwedd, a bod y ddadl ar Femoranda Cydsyniad
Deddfwriaethol sy’n ymwneud â'r Bil hwn wedi'i threfnu ar gyfer 30
Tachwedd. Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i gyfeirio’r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol atodol at y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyda dyddiad terfyn ar gyfer
cyflwyno adroddiad, sef 25 Tachwedd. |