Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Zoom

Cyswllt: Graeme Francis 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

·         Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.

·         Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.25pm.

Dydd Mercher 

 

·         Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.

·         Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.25pm. 

 

Tynnodd y Llywydd sylw'r Pwyllgor Busnes at ychwanegu'r eitem ganlynol ddydd Mercher, er mwyn caniatáu i Lafur newid eu haelod ar y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad:

 

·         Cynnig i ethol Aelod i bwyllgor (5 mun)

Dywedodd y Llywydd wrth y Pwyllgor Busnes y bydd y Prif Weinidog yn ateb Cwestiynau i'r Prif Weinidog yn rhithwir heddiw, ac y bydd y Trefnydd wrth gefn rhag ofn y bydd problemau technegol.

 

Nododd y Pwyllgor Busnes fod Paul Davies yn gweithredu fel Arweinydd dros dro Grŵp y Ceidwadwyr. Dywedodd Darren Millar y byddai cwestiwn 5 i'r Prif Weinidog heddiw yn cael ei dynnu'n ôl, yn unol â chytundeb blaenorol y Pwyllgor Busnes nad yw arweinwyr y pleidiau yn rhan o’r balot ar gyfer Cwestiynau i’r Prif Weinidog. Bydd Paul Davies hefyd yn tynnu ei hun allan dros dro o'r balot ar gyfer Cwestiynau i’r Prif Weinidog tra mae'n Arweinydd Dros Dro.

 

Cyfarfod Llawn yr wythnos diwethaf

 

Gofynnodd y Llywydd i Reolwyr Busnes atgoffa Aelodau o'r Canllaw i'r Cyfarfod Llawn Rhithwir a Hybrid, yn enwedig mewn perthynas â'r cyfnod pleidleisio. 

 

Gofynnodd y Llywydd i'r Trefnydd atgoffa'r Gweinidogion i fod yn bresennol ar amser ar gyfer eu heitemau, yn dilyn yr angen i atal dros dro cyn eitem o fusnes yr wythnos flaenorol.

 

 

3.2

Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn:

 

Dydd Mawrth 19 Hydref 2021 –

 

·         Datganiad gan Weinidog yr Economi: Symud Economi Cymru Ymlaen (45 munud)

·         Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cynllun Diogelu'r Gaeaf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2021-22 (45 munud)

 

 

3.3

Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:

 

Dydd Mercher 10 Tachwedd 2021 –

 

·         Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

 

 

3.4

Cynigion Deddfwriaethol yr Aelodau Dewis cynnig ar gyfer dadl

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i amserlennu’r cynnig canlynol i’w drafod ar 20 Hydref:

 

NDM7722 Huw Irranca-Davies

 

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil perchnogaeth gan weithwyr ar hyrwyddo pryniant a pherchnogaeth gan weithwyr.

2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:

a) deddfu ar gyfer cyfraith Marcora i Gymru i ddarparu'r fframwaith cyfreithiol, y cymorth ariannol a'r cyngor ar gyfer pryniant gan weithwyr;

b)  rhoi dyletswydd statudol ar waith i ddyblu maint yr economi gydweithredol erbyn 2026 ac i fynd ati i hyrwyddo perchnogaeth a phryniant gan weithwyr;

c) rhoi cymorth a chyngor ariannol i weithwyr brynu busnes cyfan neu ran o fusnes sy'n wynebu cael ei gau i lawr neu ei leihau mewn maint ac i sefydlu cwmni cydweithredol i weithwyr;

d) sicrhau bod pob cwmni yng Nghymru sy'n cael arian cyhoeddus neu sy'n rhan o'r bartneriaeth gymdeithasol a chadwyni caffael moesegol yn cytuno i egwyddorion pryniant a pherchnogaeth gan weithwyr.

 

Cefnogwyr:

Joyce Watson

Luke Fletcher

Sarah Murphy

Vikki Howells

 

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Amserlen y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru)

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar y canlynol:

 

·         mabwysiadu'r amserlen ar gyfer ystyried y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) a chytuno y caiff ei chyhoeddi;

·         cyfeirio'r Bil at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i ystyried yr egwyddorion cyffredinol; a’r

·         cais gan y Pwyllgor hwnnw am slotiau cyfarfodydd ychwanegol.

 

 

5.

Amserlen y Pwyllgorau

5.1

Amserlennu ar gyfer y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ddyrannu’r slot cyfarfod cyntaf i’r Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd ar brynhawn dydd Iau 21 Hydref. Cytunwyd y dylai'r Pwyllgor drafod ei ddull dewisol o ymdrin ag amlder ac amseriad cyfarfodydd a chytuno ar hynny, gan osgoi gwrthdaro aelodaeth â Busnes arall y Senedd.