Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Zoom
Cyswllt: Graeme Francis
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi. |
|
Trefn Busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Dydd Mawrth ·
Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei
gynnal fel yr eitem olaf o fusnes. ·
Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol
o fynd y tu hwnt i 6.55pm. Dydd
Mercher ·
Caiff y
Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer. ·
Nid yw'r
Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.20pm. Tynnodd y
Trefnydd sylw'r Pwyllgor Busnes at newid teitl eitem ddydd Mawrth: ·
Datganiad
gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Dywedodd y
Llywydd wrth y Pwyllgor Busnes ei bod yn bwriadu caniatáu amser ychwanegol i
Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus gyfrannu yn
ystod yr eitem, yng ngoleuni'r
ffaith bod y datganiad yn cynnwys cyfeiriad at adroddiad gan Bwyllgor Cyfrifon
Cyhoeddus y Bumed Senedd. |
|
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Tynnodd y
Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn: Dydd Mawrth
19 Hydref 2021 – ·
Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol
a Gweinidog y Cyfansoddiad: Y Comisiwn Cyfansoddiadol (45 munud) ·
Rheoliadau'r Fasnach mewn
Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â'r UE) (Rhif
3) 2021 (10 munud) Dydd
Mercher 20 Hydref 2021 – ·
Datganiad gan y Dirprwy Weinidog
Newid Hinsawdd: Diweddariad ar y Metro
(45 munud) |
|
Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen: Dydd
Mercher 3 Tachwedd 2021 –
|
|
Dadl Aelodau: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i amserlennu’r cynnig canlynol i’w drafod ar 13 Hydref: NDM7794
Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi pwysigrwydd
ynni adnewyddadwy wrth geisio lleihau ein hôl-troed carbon. 2. Yn cytuno bod angen
sicrhau fod pob datblygiad ynni yn dod a budd i’r cymunedau lle’u lleolir. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru, unai drwy reoliadau neu ddeddfwriaeth
newydd, i fynnu bod datblygwyr prosiectau ynni yn gorfod profi budd cymunedol
eu datblygiadau arfaethedig drwy orfod cynnal asesiad effaith cymunedol a
chyflwyno cynllun budd cymunedol fel rhan o’r broses gynllunio. Cefnogwyr: Janet
Finch-Saunders Altaf
Hussain Tom Giffard Heledd
Fychan Sioned
Williams Luke
Fletcher |
|
Deddfwriaeth |
|
Rheoliadau'r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â'r UE) (Rhif 3) 2021 Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor
Busnes y dylai'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyflwyno
adroddiad ar Reoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chyhyrchion Perthynol
(Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) (Rhif 3) 2021 erbyn dydd
Llun 18 Hydref. |
|
Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) - Amserlen Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i gyfeirio'r Bil at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, a
gohirio penderfyniad ar yr amserlen ar gyfer y Bil er mwyn ymgynghori â'r
Pwyllgor a dychwelyd at y mater mewn cyfarfod yn y dyfodol. O ystyried
perthnasedd y pwnc, cytunodd y Pwyllgor y byddai copi o’r ohebiaeth hefyd yn
cael ei anfon at Gadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig. |
|
Pwyllgorau |
|
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i amserlennu dadl ar ddeiseb ‘P-06-1208: Deddfau newydd i
amddiffyn gwiwerod coch prin rhag colli cynefinoedd sy'n achosi dirywiad yn eu
poblogaeth’. |
|
Llythyr gan Gadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig Cofnodion: Dros dro,
cytunodd y Pwyllgor Busnes ar y cais i'r Pwyllgor gwrdd ar 21 Hydref, yn amodol
ar gadarnhad o ran aelodaeth y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog. |
|
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol Cofnodion: Dros dro,
cytunodd y Pwyllgor Busnes ar y ceisiadau a ganlyn gan y pwyllgor am slotiau
cyfarfod ychwanegol: ·
Dydd Mercher 20 Hydref 2021; ·
Dydd Iau 18 Tachwedd 2021; a ·
Dydd Mercher 15 Rhagfyr 2021. Cytunodd y
Pwyllgor Busnes hefyd y dylai pwyllgorau anelu at wneud ceisiadau bob tymor am
slotiau cyfarfodydd ychwanegol, lle bo hynny'n bosibl. |
|
Sefydlu Pwyllgorau a’u cylchoedd gorchwyl |
|
Pwyllgorau'r Chweched Senedd - Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog Cofnodion: Mae’r
Pwyllgor Busnes wedi penderfynu yn flaenorol y dylai’r Pwyllgor gael chwe
aelod, a fyddai’n cynnwys cadeiryddion pwyllgorau, i’w henwebu gan y grwpiau -
3 Llafur, 2 o’r Ceidwadwyr, 1 Plaid Cymru. Cytunodd y
Pwyllgor Busnes y gallai dirprwyon fod yn unrhyw Aelod o grŵp, ac eithrio
Arweinwyr y Pleidiau. Roedd yn cytuno hefyd y dylai'r Pwyllgor Craffu ar Waith
y Prif Weinidog gwrdd unwaith y tymor, yn ddelfrydol mewn lleoliad y tu allan i
Gaerdydd. Cytunodd y
Pwyllgor Busnes y dylai’r cynigion i sefydlu'r Pwyllgor gael eu cymryd yfory, a
fyddai'n gofyn am atal Rheolau Sefydlog. |
|
Sefydlu Pwyllgor Diben Arbennig ar gyfer datblygu cynigion polisi ar Ddiwygio'r Senedd Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i gynnig y dylid sefydlu Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r
Senedd gyda'r cylch gwaith a ganlyn: ·
Ystyried y casgliadau a wnaed yn
flaenorol gan y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd yn y Bumed Senedd. ·
Erbyn 31 Mai 2022, gwneud argymhellion
o ran cyfarwyddiadau polisi ar gyfer Bil Llywodraeth Cymru i Ddiwygio'r Senedd. ·
I gael ei ddiddymu yn dilyn dadl yn
y Cyfarfod Llawn ar ei adroddiad terfynol. Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i gynnig yr aelodaeth a ganlyn: ·
Cadeirydd -
Huw Irranca-Davies AS (fel Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad) mewn rôl heb bleidlais; ·
Y Llywydd -
hefyd mewn rôl heb bleidlais; a ·
pedwar Aelod
arall, gydag un o bob un o bedair plaid wleidyddol y Senedd. Cynigir
pleidleisio wedi'i bwysoli, gyda phob un o'r pedwar Aelod yn cael pleidlais
sy'n cyfateb i nifer yr Aelodau yn eu grŵp, neu un bleidlais os nad oes
ganddynt grŵp. Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i gynnig bod yn rhaid i argymhellion y Pwyllgor i'r Senedd gael
eu hategu gan bleidlais wedi'i phwysoli o 40 o leiaf. Awgrymwyd hefyd y dylai
unrhyw ddadl ar adroddiad ac argymhellion y Pwyllgor fod yn destun uwchfwyafrif
yn y Cyfarfod Llawn. Cytunodd y
Pwyllgor Busnes y dylai’r cynigion perthnasol gael eu cymryd yfory, a fyddai'n
gofyn am atal Rheolau Sefydlog. |
|
Unrhyw faterion eraill Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir) Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i ymestyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiadau ar gyfer
Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig a'r Pwyllgor Deddfwriaeth,
Cyfiawnder a Chyfansoddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddrwriaethol ar y Bil
Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir) hyd at 11 Tachwedd 2021, yn dilyn
gwybodaeth newydd am amserlen y Bil yn San Steffan. |