Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Zoom

Cyswllt: Graeme Francis 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

·         Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.

·         Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.25pm.

Dydd Mercher  

 

·         Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.

·         Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.20pm. 

 

Yn dilyn cadarnhad bod y llywodraeth wedi gosod Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 17) 2021 ac wedi trefnu dadl a phleidlais ar 5 Hydref, dywedodd Darren Millar wrth y Pwyllgor Busnes na fydd grŵp y Ceidwadwyr yn gwneud eu cynnig ar basys COVID a gyflwynwyd i'w drafod ar 29 Medi. Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ymestyn dadl y Ceidwadwyr ar Drafnidiaeth y diwrnod hwnnw i awr.

 

 

3.2

Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn:

 

Dydd Mercher 5 Hydref 2021 –

 

·         Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 17) 2021 (45 munud)

Dydd Mercher 12 Hydref 2021 –

 

·         Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cefnogi llesiant meddwl mewn addysg (45 munud)

·         Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19 (45 munud)

·         Dadl:  Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2020-21 (60 munud)

 

Cytunodd y llywodraeth i ymestyn faint o amser a amserlennwyd ar gyfer dadl ar Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 17) 2021 o 30 i 45 munud.

 

 

3.3

Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:

 

Dydd Mercher 20 Hydref 2021 –

 

·         Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud)

·         Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

 

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 17) 2021

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes lythyr a bwriad Llywodraeth Cymru i'r Senedd drafod y rheoliadau hyn ddydd Mawrth5 Hydref ac y byddai hyn, o dan y weithdrefn gadarnhaol ddrafft, yn golygu y byddai angen i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyflwyno adroddiad ar ddyddiad cau cynharach o ganlyniad. 

 

 

4.2

Y wybodaeth ddiweddaraf am y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol cyfredol

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylai swyddogion y Senedd a'r llywodraeth drafod materion sy'n ymwneud â therfynau amser Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ac edrych yn fanylach ar ba bwyllgorau sy'n wynebu heriau wrth gyflwyno adroddiad erbyn dyddiad cau cyfredol yn ogystal â sut y cynigir dyddiad cau yn fwy cyffredinol.  Byddai ystyriaeth bellach hefyd yn cael ei rhoi i'r posibilrwydd o ddarparu rhagor o slotiau cyfarfod ychwanegol y tymor hwn ar gyfer pwyllgorau sy'n ymwneud â chraffu ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol.

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar y canlynol hefyd:

 

·         cyfeirio'r Memorandwm ar y Bil Ardrethu (Coronafeirws) ac Anghymhwyso Cyfarwyddwyr (Cwmnïau a Ddiddymwyd) at Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyda dyddiad cau dros dro ar gyfer cyflwyno adroddiad ar 18 Tachwedd 2021;

·         cyfeirio'r Memorandwm Atodol (Rhif2) ar y Bil Diogelwch Adeiladau at y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyda dyddiad cau dros dro ar gyfer cyflwyno adroddiad ar 18 Tachwedd  2021;

·         adolygu'r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar y Memorandwm ar y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir) i 18 Tachwedd 2021 i ddechrau; a

·         nodi'r sefyllfa ddiweddaraf o ran Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol.

 

 

4.3

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar Femorandwm y Bil Iechyd a Gofal

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar ddyddiad cau newydd i’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ar gyfer cyflwyno adroddiad ar y Memorandwm ar y Bil Iechyd a Gofal ar 11 Tachwedd 2021.

 

 

4.4

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor Busnes gasgliadau'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith yn ei adroddiad ar ei waith craffu ar Femorandwm Bil yr Amgylchedd a gofynnodd i swyddogion ddarparu cyngor pellach.

 

 

5.

Sefydlu Pwyllgorau a’u cylchoedd gorchwyl

5.1

Pwyllgorau'r Chweched Senedd - Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes drefniadau ar gyfer dirprwyon ar y Pwyllgor Crafu arfaethedig ar Waith y Prif Weinidog, a chytunodd i ddychwelyd at y mater mewn cyfarfod yn y dyfodol. 

 

 

6.

Fframweithiau Cyffredin

6.1

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr.