Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Zoom

Cyswllt: Graeme Francis 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Anfonodd Darren Millar a Jane Dodds eu hymddiheuriadau. Roedd Russell George yn bresennol ar ran Darren Millar.

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

·         Ni fydd Cyfnod Pleidleisio.

·         Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 5.10pm.

Dydd Mercher  

 

·         Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.

·         Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.30pm. 

 

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn i agenda dydd Mawrth:

 

·         Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Affganistan (45 munud)

·         Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19 (45 munud)

·         Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol: Y wybodaeth ddiweddaraf am y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) (45 munud)

·         Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Amgylchedd (45 munud) - gohiriwyd tan 28 Medi

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes y byddai egwyl ar ôl y datganiad ar Affganistan ddydd Mawrth, ac ar ôl y Datganiadau 90 Eiliad dydd Mercher.

 

Nododd y Rheolwyr Busnes fod uchafswm o 30 o Aelodau bellach yn gallu bod yn bresennol yn gorfforol yn y Siambr yn ystod y trafodion, a bod Aelodau'n cael eu hannog i wisgo gorchuddion wyneb wrth fynd i mewn i'r Siambr a'i gadael a chânt eu hannog yn gryf i gymryd Prawf Llif Unffordd cyn bod yn bresennol. Trafododd y Rheolwyr Busnes hefyd agweddau ymarferol ynghylch cyflwyno ymyriadau mewn sesiynau hybrid a lleihau’r cyfnodau o egwyl i un ym mhob sesiwn. Cytunodd y Llywydd y dylai'r wythnos hon fod yn gyfle i brofi’r gweithdrefnau hyn, ac y dylai'r Pwyllgor ddychwelyd at y materion hyn yr wythnos nesaf.

 

 

3.2

Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn:

 

Dydd Mawrth 21 Medi 2021 -

 

·         Datganiad gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Polisi Ffermio'r Dyfodol a'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy (45 munud)

·         Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Ymagwedd at wasanaethau optometreg yn y dyfodol (45 munud)

·         Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Codau cyfraith Cymru: rhaglen i wella hygyrchedd cyfraith Cymru (45 munud)

·         Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i drafod yr eitemau a ganlyn gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (30 munud)

o   Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 14) 2021

o   Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 15) 2021

o   Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 16) 2021

·         Rheoliadau'r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â'r UE) (Rhif 2) 2021 (15 munud)

 

Dydd Mawrth 28 Medi 2021 -

 

·         Datganiad gan y Prif Weinidog: Cysylltiadau Rhynglywodraethol (45 munud)

·         Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Y Comisiwn Cyfansoddiadol (45 munud)

·         Datganiad gan Weinidog yr Economi: Cronfa Codi’r Gwastad a Chronfa Ffyniant Gyffredin y DU (45 munud)

·         Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Amgylchedd (45 munud

·         Dadl:  Defnyddio’r Adolygiad o Wariant Llywodraeth y DU i fynd i'r afael â diogelwch tipiau glo yng Nghymru (60 munud)

 

 

3.3

Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:

 

Dydd Mercher 6 Hydref 2021 –

 

·         Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

 

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 14) 2021

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylai'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyflwyno adroddiad ar Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 14) 2021erbyn dydd Llun20 Medi.

 

 

4.2

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 15) 2021

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylai'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyflwyno adroddiad ar Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 15) 2021erbyn dydd Llun20 Medi.

 

 

4.3

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 16) 2021

Cofnodion:

4.4

Rheoliadau'r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â'r UE) (Rhif 2) 2021

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylai'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyflwyno adroddiad ar Reoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) (Rhif 2) 2021erbyn dydd Llun20 Medi.

 

 

4.5

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Amgylchedd:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar ddyddiad cau newydd ar gyfer y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a Chyfansoddiad i gyflwyno adroddiad ar 23 Medi 2021.

 

 

4.6

Y wybodaeth ddiweddaraf am y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol cyfredol

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar y canlynol:

·         cyfeirio'r Memorandwm ar y Bil Rheoli Cymorthdaliadau at Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar 4 Tachwedd 2021;

·         cyfeirio'r Memorandwm ar y Bil Diogelwch Adeiladau at y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar 4 Tachwedd  2021;

·         cyfeirio'r Memorandwm ar Fil Pensiynau’r Gwasanaeth Cyhoeddus a Swyddi Barnwrol at y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar 4 Tachwedd 2021;

·         cyfeirio'r Memorandwm ar y Bil Iechyd a Gofal at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar 4 Tachwedd 2021;

·         cyfeirio'r Memorandwm atodol (Rhif 2) ar y Bil Amgylchedd at y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar 23 Medi 2021;

·         cyfeirio'r Memorandwm ar y Bil Etholiadau at y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar 4 Tachwedd 2021; a

·         nodi'r sefyllfa ddiweddaraf o ran Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol.

 

 

4.7

Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyfeirio'r llythyr a'r papur at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a Chyfansoddiad i’w adolygu ac adrodd arno.

 

 

5.

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2022-23

5.1

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr gan y Pwyllgor Cyllid a chytunodd i ddiwygio'r dyddiad cau arfaethedig ar gyfer cyflwyno adroddiad i 4 Chwefror 2022. Cytunodd y Pwyllgor hefyd ar amserlen y gyllideb fel y'i cynigiwyd gan y llywodraeth.

 

 

6.

Pwyllgorau

6.1

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr a chytunodd i barhau â'r trefniadau blaenorol mewn perthynas â deisebau a drafodir yn y Cyfarfod Llawn.

 

 

7.

Sefydlu Pwyllgorau a’u cylchoedd gorchwyl

7.1

Pwyllgorau'r Chweched Senedd - Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnig y cylch gorchwyl canlynol ar gyfer y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog:

Craffu ar y Prif Weinidog o safbwynt unrhyw fater sy’n berthnasol i’r gwaith o arfer swyddogaethau Llywodraeth Cymru.

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i drafod cylch gwaith ac aelodaeth y pwyllgor ymhellach gyda’u grwpiau, a dychwelyd at y mater yn y cyfarfod yr wythnos nesaf.

 

 

8.

Busnes y Senedd

8.1

Canllawiau Diwygiedig ar Gynnal Busnes y Senedd yn Briodol

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes y newidiadau i'r canllawiau ar gyfer dethol Cynigion Deddfwriaethol yr Aelodau a chytuno arnynt. 

 

 

Unrhyw faterion eraill

Trefniadau a rhestr westeion yr agoriad swyddogol

 

Trafododd y Pwyllgor Busnes y trefniadau ar gyfer yr agoriad swyddogol a chytuno i roi adborth ar ôl ymgynghori â'u grwpiau.