Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Zoom

Cyswllt: Aled Elwyn Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfodydd blaenorol i’w cyhoeddi.

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Tynnodd y Llywydd sylw'r Rheolwyr Busnes at ychwanegu'r enwebiadau ar gyfer cadeiryddion pwyllgorau at agenda dydd Mawrth.

 

Dydd Mawrth

 

·         Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.

·         Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.05pm.

Dydd Mercher

 

·         Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer gyntaf.  

·         Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.30pm. 

 

Cefndiroedd ar Zoom

 

Gofynnodd y Llywydd i'r Rheolwyr Busnes atgoffa'r Aelodau y dylai cefndiroedd fod yn blaen fel bod Aelodau sy'n cyfrannu o'r Siambr a thrwy Zoom yn cael eu trin yn deg. Mae'r canllawiau a roddir i Aelodau hefyd yn gofyn i Aelodau sicrhau bod ganddynt gefndir plaen, heb unrhyw beth i dynnu sylw, am resymau technegol.

 

Dehongliad BSL

 

Dywedodd y Llywydd wrth y Pwyllgor Busnes y bydd dehongliad Iaith Arwyddion Prydain ar gael ar Senedd.tv ar gyfer cwestiynau i'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ddydd Mercher, i’w dreialu i ddechrau. Bydd y dehongliad yn cael ei ychwanegu at y recordiad 'fel i fod yn fyw' i'w gyhoeddi ar Senedd.tv y diwrnod canlynol, fel sy'n digwydd ar hyn o bryd gyda Chwestiynau'r Prif Weinidog.

 

Oriel gyhoeddus - egwyliau

 

Cafodd y Rheolwyr Busnes eu hatgoffa gan y Llywydd y bydd yr oriel gyhoeddus ar agor am y tro cyntaf yr wythnos hon, a gofynnodd iddynt hysbysu'r Aelodau y bydd angen iddynt fod yn ymwybodol o'r ffaith y gellir eu gweld a'u clywed yn ystod egwyliau. 

 

 

3.2

Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn:

 

Dydd Mawrth 6 Gorffannaf 2021

 

·         Datganiad gan Weinidog yr Economi: Dyfodol y Diwydiant Dur (45 munud)

·         Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Papur Gwyn ar Ailgydbwyso Gofal a Chymorth - y camau nesaf (45 munud)

 

Dydd Mawrth 13 Gorffannaf 2021

 

·         Dadl:  Blaenoriaethau ar gyfer Paratoadau Cyllideb 2022-23 (60 munud)

 

 

3.3

Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:

 

Dydd Mercher 15 Medi 2021 –

 

·         Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

 

 

 

3.4

Dadl Aelodau: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i amserlennu’r cynnig canlynol i’w drafod ar 7 Gorffennaf:

 

NNDM7744

Hefin David

John Griffiths

Delyth Jewell

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi'r rôl sylweddol y mae busnesau bach yn ei chwarae o ran cynnal economïau lleol drwy gydol pandemig y coronafeirws drwy addasu i amgylchiadau na welwyd eu tebyg o'r blaen.

2. Yn nodi pwysigrwydd busnesau bach lleol, yn enwedig rhai yn y sector twristiaeth a'r sectorau cysylltiedig, wrth i ni adfer o'r pandemig a dechrau ail-adeiladu ein cymunedau a'n heconomïau lleol.

3. Yn nodi ymhellach yr anogaeth gref gan Lywodraeth Cymru i bobl fynd ar wyliau yng Nghymru eleni a mwynhau ei hatyniadau a'i safleoedd o harddwch naturiol eithriadol niferus.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda chynrychiolwyr y gymuned busnesau bach a thwristiaeth i hyrwyddo Cymru fel cyrchfan twristiaeth gynaliadwy drwy gydol y flwyddyn. 

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r un rhanddeiliaid er mwyn integreiddio'r ddau sector i'w strategaeth economaidd a chynlluniau adfer COVID-19 yn nhymor y chweched Senedd er mwyn sicrhau bod y ddau yn cael eu cefnogi'n ddigonol a bod ganddynt y gwydnwch angenrheidiol i gynnal unrhyw ergydion yn y dyfodol.

 

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Y wybodaeth ddiweddaraf am y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes y sefyllfa ddiweddaraf o ran Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol a chytunodd i:

 

·         cyfeirio'r Memorandwm ar y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliadau (Rhent Tir) at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar 14 Hydref 2021;

·         cyfeirio'r Memorandwm ar Fil y Lluoedd Arfog at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a’r pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar 14 Hydref 2021;

·         cyfeirio'r Memorandwm ar y Bil Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a Llysoedd at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar 14 Hydref 2021;

·         cyfeirio'r Memorandwm ar Fil yr Amgylchedd at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar 13 Medi 2021 ac i nodi dyddiad trafod y cynnig cydsyniad deddfwriaethol arfaethedig ar 14 Medi;

·         cyfeirio'r Memorandwm ar y Bil Cymwysterau Proffesiynol at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a Phwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar 30 Medi 2021; a

·         cyfeirio'r Memorandwm ar y Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir) at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a Phwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar 14 Hydref 2021.

 

 

5.

Sefydlu Pwyllgorau a’u cylchoedd gorchwyl

6.2

Sefydlu pwyllgorau: Aelodaeth sy'n weddill ac amserlen

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyflwyno cynnig ar aelodaeth y Pwyllgor Cyllid ar gyfer y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ddarparu slotiau cyfarfod ar gyfer y pwyllgor ddydd Gwener 2 Gorffennaf a dydd Iau 8 Gorffennaf.

 

Trafododd y Rheolwyr Busnes y trefniadau ar gyfer gweddill aelodaeth y pwyllgorau a'r opsiynau amserlennu, a chytunwyd i drafod y rhain gyda'u grwpiau a dychwelyd at y mater yn eu cyfarfod nesaf.

           

Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylid adolygu strwythur ac amserlen y pwyllgorau y Pasg nesaf.

 

 

6.

Papurau i'w nodi

6.1

Canllawiau ar ethol cadeiryddion

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes y canllawiau.

 

 

Unrhyw faterion eraill

Rhannu swydd

 

Dywedodd y Llywydd wrth y Pwyllgor Busnes ei bod wedi cael cais gan Alun Davies AS a Mike Hedges AS i egluro a fyddai'n bosibl iddynt sefyll fel ymgeiswyr ar y cyd ar gyfer un o swyddi cadeirydd y pwyllgorau a rhannu'r swydd os cânt eu hethol.

 

Dywedodd y Llywydd wrth y Pwyllgor Busnes y byddai’r cynnig yn golygu newid y Rheolau Sefydlog, a phenderfynodd y Pwyllgor fod y cais yn rhy hwyr i'w ystyried ar gyfer y gyfres hon o etholiadau Cadeiryddion, ond cytunwyd fod rhannu swyddi yn fater y dylid ei ystyried ymhellach yn ystod y Senedd hon.

 

Llythyr gan Arweinydd Plaid Geidwadol Cymru

 

Dywedodd y Llywydd wrth y Pwyllgor Busnes ei bod wedi cael gohebiaeth gan Andrew RT Davies ynglŷn â'r ffordd y mae'r llywodraeth yn lledaenu'r wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd. Cytunodd y Pwyllgor Busnes i drafod hyn yn fanylach yn ei gyfarfod nesaf.