Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Zoom
Cyswllt: Aled Elwyn Jones
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfodydd blaenorol i’w
cyhoeddi. |
|
Trefn Busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Tynnodd y Llywydd
sylw'r Rheolwyr Busnes at ychwanegu'r enwebiadau ar gyfer cadeiryddion
pwyllgorau at agenda dydd Mawrth. Dydd Mawrth ·
Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei
gynnal fel yr eitem olaf o fusnes. ·
Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol
o fynd y tu hwnt i 7.05pm. Dydd Mercher ·
Caiff y
Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer gyntaf. ·
Nid yw'r
Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.30pm. Cefndiroedd
ar Zoom Gofynnodd y
Llywydd i'r Rheolwyr Busnes atgoffa'r Aelodau y dylai cefndiroedd fod yn blaen
fel bod Aelodau sy'n cyfrannu o'r Siambr a thrwy Zoom yn cael eu trin yn deg.
Mae'r canllawiau a roddir i Aelodau hefyd yn gofyn i Aelodau sicrhau bod
ganddynt gefndir plaen, heb unrhyw beth i dynnu sylw, am resymau technegol. Dehongliad
BSL Dywedodd y
Llywydd wrth y Pwyllgor Busnes y bydd dehongliad Iaith Arwyddion Prydain ar
gael ar Senedd.tv ar gyfer cwestiynau i'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
ddydd Mercher, i’w dreialu i ddechrau. Bydd y dehongliad yn cael ei ychwanegu
at y recordiad 'fel i fod yn fyw' i'w gyhoeddi ar Senedd.tv y diwrnod canlynol,
fel sy'n digwydd ar hyn o bryd gyda Chwestiynau'r Prif Weinidog. Oriel
gyhoeddus - egwyliau Cafodd y
Rheolwyr Busnes eu hatgoffa gan y Llywydd y bydd yr oriel gyhoeddus ar agor am
y tro cyntaf yr wythnos hon, a gofynnodd iddynt hysbysu'r Aelodau y bydd angen
iddynt fod yn ymwybodol o'r ffaith y gellir eu gweld a'u clywed yn ystod
egwyliau. |
|
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Tynnodd y
Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn: Dydd Mawrth
6 Gorffannaf 2021 ·
Datganiad
gan Weinidog yr Economi: Dyfodol y Diwydiant Dur (45 munud) ·
Datganiad gan
y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Papur Gwyn ar Ailgydbwyso Gofal
a Chymorth - y camau nesaf (45 munud) Dydd Mawrth
13 Gorffannaf 2021 ·
Dadl: Blaenoriaethau ar gyfer Paratoadau Cyllideb
2022-23 (60 munud) |
|
Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen: Dydd
Mercher 15 Medi 2021 – ·
Amser a
neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) ·
Amser a
neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud) |
|
Dadl Aelodau: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i amserlennu’r cynnig canlynol i’w drafod ar 7 Gorffennaf: NNDM7744 Hefin David John
Griffiths Delyth
Jewell Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi'r rôl
sylweddol y mae busnesau bach yn ei chwarae o ran cynnal economïau lleol drwy
gydol pandemig y coronafeirws drwy addasu i amgylchiadau na welwyd eu tebyg o'r
blaen. 2. Yn nodi pwysigrwydd
busnesau bach lleol, yn enwedig rhai yn y sector twristiaeth a'r sectorau
cysylltiedig, wrth i ni adfer o'r pandemig a dechrau ail-adeiladu ein cymunedau
a'n heconomïau lleol. 3. Yn nodi ymhellach yr
anogaeth gref gan Lywodraeth Cymru i bobl fynd ar wyliau yng Nghymru eleni a
mwynhau ei hatyniadau a'i safleoedd o harddwch naturiol eithriadol niferus. 4. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i weithio gyda chynrychiolwyr y gymuned busnesau bach a
thwristiaeth i hyrwyddo Cymru fel cyrchfan twristiaeth gynaliadwy drwy gydol y
flwyddyn. 5. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r un rhanddeiliaid er mwyn integreiddio'r ddau
sector i'w strategaeth economaidd a chynlluniau adfer COVID-19 yn nhymor y
chweched Senedd er mwyn sicrhau bod y ddau yn cael eu cefnogi'n ddigonol a bod
ganddynt y gwydnwch angenrheidiol i gynnal unrhyw ergydion yn y dyfodol. |
|
Deddfwriaeth |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Cofnodion: Nododd y
Pwyllgor Busnes y sefyllfa ddiweddaraf o ran Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol
a chytunodd i: ·
cyfeirio'r
Memorandwm ar y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliadau (Rhent Tir) at y Pwyllgor
Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai
gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar 14 Hydref 2021; ·
cyfeirio'r
Memorandwm ar Fil y Lluoedd Arfog at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad a’r pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol gyda dyddiad
cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar 14 Hydref 2021; ·
cyfeirio'r
Memorandwm ar y Bil Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a Llysoedd at y Pwyllgor
Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno
adroddiad ar 14 Hydref 2021; ·
cyfeirio'r Memorandwm
ar Fil yr Amgylchedd at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
a'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith gyda dyddiad cau ar
gyfer cyflwyno adroddiad ar 13 Medi 2021 ac i nodi dyddiad trafod y cynnig
cydsyniad deddfwriaethol arfaethedig ar 14 Medi; ·
cyfeirio'r
Memorandwm ar y Bil Cymwysterau Proffesiynol at y Pwyllgor Deddfwriaeth,
Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a Phwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig
gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar 30 Medi 2021; a ·
cyfeirio'r
Memorandwm ar y Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir) at y Pwyllgor
Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a Phwyllgor yr Economi, Masnach a
Materion Gwledig gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar 14 Hydref
2021. |
|
Sefydlu Pwyllgorau a’u cylchoedd gorchwyl |
|
Sefydlu pwyllgorau: Aelodaeth sy'n weddill ac amserlen Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i gyflwyno cynnig ar aelodaeth y Pwyllgor Cyllid ar gyfer y
Cyfarfod Llawn ddydd Mercher. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ddarparu slotiau
cyfarfod ar gyfer y pwyllgor ddydd Gwener 2 Gorffennaf a dydd Iau 8 Gorffennaf. Trafododd y
Rheolwyr Busnes y trefniadau ar gyfer gweddill aelodaeth y pwyllgorau a'r
opsiynau amserlennu, a chytunwyd i drafod y rhain gyda'u grwpiau a dychwelyd at
y mater yn eu cyfarfod nesaf.
Cytunodd y
Pwyllgor Busnes y dylid adolygu strwythur ac amserlen y pwyllgorau y Pasg
nesaf. |
|
Papurau i'w nodi |
|
Canllawiau ar ethol cadeiryddion Cofnodion: Nododd y
Pwyllgor Busnes y canllawiau. |
|
Unrhyw faterion eraill Rhannu
swydd Dywedodd y
Llywydd wrth y Pwyllgor Busnes ei bod wedi cael cais gan Alun Davies AS a Mike
Hedges AS i egluro a fyddai'n bosibl iddynt sefyll fel ymgeiswyr ar y cyd ar
gyfer un o swyddi cadeirydd y pwyllgorau a rhannu'r swydd os cânt eu hethol. Dywedodd y
Llywydd wrth y Pwyllgor Busnes y byddai’r cynnig yn golygu newid y Rheolau
Sefydlog, a phenderfynodd y Pwyllgor fod y cais yn rhy hwyr i'w ystyried ar gyfer
y gyfres hon o etholiadau Cadeiryddion, ond cytunwyd fod rhannu swyddi yn fater
y dylid ei ystyried ymhellach yn ystod y Senedd hon. Llythyr gan
Arweinydd Plaid Geidwadol Cymru Dywedodd y
Llywydd wrth y Pwyllgor Busnes ei bod wedi cael gohebiaeth gan Andrew RT Davies
ynglŷn â'r ffordd y mae'r llywodraeth yn lledaenu'r wybodaeth ddiweddaraf
am iechyd y cyhoedd. Cytunodd y Pwyllgor Busnes i drafod hyn yn fanylach yn ei
gyfarfod nesaf. |