Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Zoom

Cyswllt: Aled Elwyn Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at ychwanegu’r datganiadau canlynol:

 

Dydd Mawrth 22 Mehefin 2021

 

·         Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar Coronafeirws (45 munud)

·         Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid  Hinsawdd: Adolygiad o Ffyrdd (45 munud)

 

Dydd Mawrth

 

·         Ni fydd Cyfnod Pleidleisio.

·         Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.05pm.

 

Dydd Mercher 

 

·         Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer gyntaf.  

·         Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.00pm. 

 

Dywedodd y Llywydd wrth y Pwyllgor Busnes y bydd yn rhannu'r Siambr yn 4 'bloc': Gweinidogion, Aelodau meinciau cefn Llafur, y Ceidwadwyr a Plaid/Jane Dodds. Os bydd un Aelod mewn unrhyw floc yn newid yn ystod egwyl, yna bydd y Llywydd yn gofyn i'r bloc cyfan adael, ac yna ni ddylai unrhyw Aelodau fynd i mewn i'r Siambr nes bod y gloch wedi'i chanu.

 

 

3.2

Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn:

 

Dydd Mawrth 29 Mehefin 2021

 

·         Datganiad gan y Prif Weinidog: Diwygio ein Hundeb (45 munud)

·         Datganiad gan Weinidog yr Economi: Gwarant Person Ifanc (45 munud)

·         Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 13) 2021 (30 munud)

 

Dydd Mawrth 6 Gorffannaf 2021

 

·         Datganiad gan y Prif Weinidog: Y Rhaglen Lywodraethu (60 munud)

 

 

3.3

Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:

 

Dydd Mercher 14 Gorffennaf 2021 –

 

·         Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud)

·         Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

 

 

3.4

Cynigion Deddfwriaethol Aelodau - Dethol cynnig i’w drafod

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i amserlennu’r cynnig canlynol i’w drafod ar 30 Mehefin:

NNDM7713 Gareth Davies

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil a fyddai'n ymgorffori dull sy'n seiliedig ar hawliau wrth ddatblygu, cynllunio a darparu gwasanaethau cyhoeddus sy'n effeithio ar bobl hŷn yng Nghymru.

2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:

a) gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i roi sylw dyledus i Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn wrth wneud penderfyniadau a allai effeithio ar bobl hŷn yng Nghymru;

b) ymestyn y ddyletswydd sylw dyledus i awdurdodau lleol, byrddau iechyd lleol ac awdurdodau cyhoeddus eraill yng Nghymru;

c) gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i hyrwyddo ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn ymhlith pobl hŷn ac awdurdodau cyhoeddus Cymru;

d) ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r Comisiynydd Pobl Hŷn, pobl hŷn a rhanddeiliaid perthnasol eraill cyn gwneud neu ddiwygio'r cynllun hawliau pobl hŷn; ac

e) gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gyhoeddi canllawiau i awdurdodau cyhoeddus Cymru.

Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn 

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd i amserlennu’r cynnig canlynol i’w drafod ar 14 Gorffennaf:

NNDM7723 Jane Dodds

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil ar reoleiddio, monitro a chomisiynu gofal preswyl i blant, gan gynnwys plant y mae angen gofal iechyd meddwl cleifion mewnol arnynt, a gwasanaethau i bobl ag anableddau dysgu neu niwroamrywiaeth arall yng Nghymru.

2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:

a) gwella'r broses o gomisiynu a darparu lleoliadau gofal preswyl i blant yng Nghymru, gan gynnwys cydgysylltu a darparu ar draws awdurdodau lleol i sicrhau bod lleoliadau addas yn fwy digonol;

b) gwella'r broses o reoleiddio a monitro gofal preswyl a lleoliadau maethu, gan gynnwys alinio â gwasanaethau eraill fel addysg, tai a digartrefedd, ac iechyd;

c) dileu'r ddarpariaeth ar gyfer darparwyr sy'n gwneud elw yn y sector gofal preswyl ar gyfer plant sy'n derbyn gofal, yn ogystal â gwasanaethau i bobl ag anableddau dysgu a niwroamrywiaeth.

Gofynnodd y Pwyllgor Busnes am i ganllawiau pellach gael eu drafftio ynghylch sut i ddethol Cynigion Deddfwriaethol Aelodau.

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 13) 2021

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylai'r Pwyllgor Is-ddeddfwriaeth Dros Dro gyflwyno adroddiad ar Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 13) 2021erbyn dydd Llun28 Mehefin. 

 

 

4.2

Y wybodaeth ddiweddaraf am y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol cyfredol

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes y bydd Bil yr Amgylchedd a'r Bil Cymwysterau Proffesiynol yn cael eu cyfeirio at bwyllgorau ar ôl iddynt gael eu sefydlu.  Cytunodd y Trefnydd i gadarnhau'r amseru ar gyfer Bil yr Amgylchedd.

 

 

5.

Sefydlu Pwyllgorau a’u cylchoedd gorchwyl

5.1

Pwyllgorau'r Chweched Senedd - cylchoedd gorchwyl

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes gylchoedd gorchwyl arfaethedig y pwyllgorau. Dywedodd Siân Gwenllian fod Plaid Cymru yn ffafrio rhoi’r cyfansoddiad a deddfwriaeth mewn dau bwyllgor gwahanol, o ystyried y llwyth gwaith tebygol. Nododd Darren Millar wrthwynebiad y grŵp Ceidwadol i fodel deuddeg pwyllgor, gan nad yw'n caniatáu i ddyraniad cadeiryddion rhwng y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru adlewyrchu maint cymharol y grwpiau, a dywedodd pe bai deuddeg pwyllgor yn cael eu sefydlu, y byddai'r grŵp yn disgwyl cadeirio tri o'r pwyllgorau mwy.

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i barhau i drafod cylchoedd gorchwyl posibl o fewn model deuddeg pwyllgor, ac ailymgynnull yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw.

 

 

5.2

Amserlen Arfaethedig ar gyfer Sefydlu Pwyllgorau

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylai'r balotau ar gyfer Cadeiryddion gael eu cynnal yn gorfforol, gydag unrhyw Aelodau a fyddai'n methu â bod yn bresennol oherwydd cyfyngiadau neu am resymau meddygol yn gallu gwneud cais i bleidleisio drwy ddulliau electronig o bell pe bai angen.

 

 

6.

Comisiwn y Senedd

6.1

Comisiwn y Senedd

Cofnodion:

Penderfynodd y Pwyllgor Busnes drwy bleidlais fwyafrifol i ofyn i'r grŵp Llafur gynnig enw pedwerydd Comisiynydd i'r Pwyllgor ei ystyried, a dychwelyd at y mater yn y cyfarfod yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw.

 

 

Unrhyw faterion eraill

Y Gyllideb Atodol Gyntaf

 

Dywedodd y Trefnydd wrth y Pwyllgor Busnes y bydd y gyllideb atodol gyntaf yn cael ei gosod heddiw a bwriedir cynnal dadl ar 13 Gorffennaf.

 

Dyrannu seddi yn y Siambr

 

Cododd Darren Millar y ffaith bod un sedd yn y Siambr yn cael ei rhannu rhwng Plaid Cymru a Jane Dodds ar hyn o bryd, a gofynnodd iddi gael ei rhannu rhwng y Ceidwadwyr, Plaid Cymru a Jane Dodds. Cafodd y Rheolwyr Busnes eu hatgoffa gan y Llywydd fod yr holl Aelodau'n gyfartal, p'un a ydynt yn cymryd rhan o bell neu yn y Siambr.

 

Oriel gyhoeddus

 

Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes y bwriedir agor yr oriel gyhoeddus i nifer cyfyngedig o 28 Mehefin.

 

Adam Price

 

Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes ei bod, yn dilyn diwygio'r canllawiau y cytunwyd arnynt bythefnos yn ôl, wedi penderfynu bod amgylchiadau eithriadol yn berthnasol i gais Adam Price am bleidlais drwy ddirprwy ac wedi cytuno y gallai gael trefniant pleidleisio drwy ddirprwy tan ddiwedd y tymor hwn. Bydd y dystysgrif yn cael ei gosod heddiw.