Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Zoom

Cyswllt: Aled Elwyn Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at ychwanegu’r datganiadau canlynol:

 

·         Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar Coronafeirws (45 munud)

·         Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Statws Preswylydd Sefydlog yr UE (45 munud)

·         Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Cronfa i roi seibiant neu egwyl fer i ofalwyr di-dâl (45 munud)

 

Cytunodd y Trefnydd i adfer hyd y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes i 30 munud o'r wythnos hon ymlaen.

 

Dydd Mawrth

 

·         Ni fydd Cyfnod Pleidleisio.

·         Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 5.10pm.

Dydd Mercher

 

·         Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.  

Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.30pm. 

 

3.2

Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn:

 

Dydd Mawrth 15 Mehefin 2021

 

·         Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Gwasanaethau sy’n helpu pobl i wella o COVID-19 (45 munud)

·        Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 11) 2021 (30 munud)

·         Dadl:  Cronfa Codi’r Gwastad a Chronfa Ffyniant Gyffredin y DU (60 munud)

 

Dydd Mawrth 22 Mehefin 2021

 

·         Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Cael gwared â hiliaeth a chreu Cymru wrth-hiliol (45 munud)

 

Dydd Mawrth 29 Mehefin 2021

 

·         Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Hybu Cydraddoldeb LGBTQ+ yng Nghymru (45 munud)

 

 

3.3

Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:

 

Dydd Mercher 30 Mehefin 2021 -

 

·         Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

 

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Y wybodaeth ddiweddaraf am y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol cyfredol

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes y gellid gwahodd pwyllgorau i gyflwyno adroddiad ar y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir), Bil y Lluoedd Arfog a Bil yr Heddlu, Troseddau, Dedfrydu a Llysoedd ar ôl toriad yr haf, ac y byddent yn gwneud penderfyniad ffurfiol ar derfynau amser atgyfeirio ac adrodd ar ôl i bwyllgorau gael eu sefydlu.

 

 

5.

Sefydlu Pwyllgorau a’u Cylchoedd Gorchwyl

5.1

Pwyllgorau'r Chweched Senedd

Cofnodion:

Cylchoedd gorchwyl y Pwyllgorau

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyfarfod yn anffurfiol am 5.00pm heddiw, i drafod ymhellach ar ôl cyfarfodydd y grwpiau y bore yma.

 

 

6.

Comisiwn y Senedd

6.1

Comisiwn y Senedd

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd i drafod y mater hwn yn ei gyfarfod anffurfiol yn ddiweddarach heddiw.

 

 

Unrhyw faterion eraill

Pleidleisio drwy ddirprwy

 

Dywedodd y Llywydd wrth y Pwyllgor fod Adam Price wedi gofyn am gael pleidlais drwy ddirprwy yn ystod absenoldeb rhiant i gael ei fwrw ar ei ran am gyfnod o bythefnos yn dechrau heddiw. Siân Gwenllian yw'r dirprwy enwebedig. Mae'r Llywydd yn fodlon ei fod yn bodloni'r gofynion ar gyfer pleidlais drwy ddirprwy o dan y Rheolau Sefydlog a'r canllawiau, a bydd yn gosod y dystysgrif ofynnol heddiw.

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes hefyd i ddiwygio'r canllawiau dros dro i ganiatáu disgresiwn pellach i'r Llywydd dros y cyfnod hwyaf y gellir bwrw pleidlais drwy ddirprwy.

 

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 11) 2021

 

Dywedodd y Trefnydd wrth y Rheolwyr Busnes fod y rheoliadau hyn wedi'u hamserlennu i'w trafod ar 15 Mehefin. Cytunodd y Pwyllgor Busnes i bennu dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar 14 Mehefin ar gyfer y Pwyllgor Is-ddeddfwriaeth Dros Dro.