Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Lleoliad Allanol. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Graeme Francis
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi. |
|
Trefn Busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Tynnodd y Trefnydd
sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn i fusnes dydd Mawrth:
Dywedodd y Trefnydd y bydd y
Diweddariad ar Ddiogelwch Adeiladau yn debygol o gael ei gyhoeddi fel Datganiad
Ysgrifenedig yn ddiweddarach y mis hwn.
Dydd Mercher
|
|
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Ni wnaed
unrhyw newidiadau i amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos
nesaf. |
|
Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen: Dydd
Mercher 22 Mehefin 2022 -
Dydd
Mercher 6 Gorffennaf 2022 - ·
Dadl ar Gynnig
Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud) ·
Datganiad
gan Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad: Y weithdrefn ar gyfer delio â
chwynion yn erbyn Aelodau'r Senedd (30 munud) ·
Amser a
neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud) |
|
Dadl Aelodau: Dewis Cynigion ar gyfer Dadl Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor Busnes y cynigion a gyflwynwyd a chytunodd i amserlennu’r cynnig
canlynol i’w drafod ar 22 Mehefin: NNDM8018 Mabon ap
Gwynfor Luke
Fletcher Buffy
Williams Cynnig bod
y Senedd: 1. Yn nodi
bod Cymru'n gartref i filoedd o grwpiau cymunedol lleol, gyda channoedd yn
rhedeg asedau sylweddol sy'n gwneud eu cymunedau'n lleoedd gwell i fyw ynddynt. 2. Yn cydnabod y cyfraniad enfawr y mae grwpiau
cymunedol wedi'i wneud o ran cefnogi pobl leol drwy heriau'r pandemig. 3. Yn nodi bod Llywodraeth flaenorol Cymru wedi
cytuno ag argymhelliad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau y
dylai "ddatblygu rhaglen o rymuso cymunedau ledled Cymru gyda’r sector
gwirfoddol, gan weithredu fel gwladwriaeth alluogi ar gyfer gweithredu
cymunedol". 4. Yn nodi'r rôl bwysig y mae awdurdodau lleol
yn aml yn ei chwarae o ran sicrhau perchnogaeth gymunedol ar asedau, a gweithio
mewn partneriaeth â grwpiau cymunedol a sefydliadau eraill i sicrhau menter
gymunedol lwyddiannus. 5. Yn nodi
adroddiad diweddar y Sefydliad Materion Cymreig, Ein Tir: Cymunedau a Defnydd
Tir, a ganfu mai cymunedau Cymru yw'r rhai lleiaf grymus ym Mhrydain ac sy'n
galw am ad-drefnu sylweddol ym maes polisi cymunedol yng Nghymru. 6. Yn nodi
ymhellach adroddiad diweddar Canolfan Cydweithredol Cymru, Tir ac asedau sy’n
eiddo i’r gymuned: galluogi cyflawni tai fforddiadwy a arweinir gan y gymuned
yng Nghymru. 7. Yn nodi
nad oes gan Gymru, yn wahanol i'r Alban a Lloegr, unrhyw ddeddfwriaeth sy'n
rhoi'r hawl i gymunedau brynu asedau lleol o werth cymunedol. 8. Yn credu
bod galluogi grwpiau cymunedol i gadw adeiladau a thir lleol fel cyfleusterau
cymunedol a'u cefnogi i ddatblygu cymunedau gweithgar ac ymgysylltiedig yn
allweddol i adeiladu Cymru fwy ffyniannus, cyfartal a gwyrddach. 9. Yn galw
ar Lywodraeth Cymru i: a)
cydweithio i greu strategaeth cymunedau i ddatblygu cyflwr sy'n galluogi
gweithredu cymunedol; b) edrych i
mewn i'r opsiynau cyfreithiol ar gyfer sefydlu hawl gymunedol i brynu yng
Nghymru. Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol
a Chymunedau: Effaith COVID-19 ar y sector gwirfoddol Ein Tir: Cymunedau a Defnyddio Tir A’r cynnig
dilynol ar 13 Gorffennaf: NNDM8028 Jane Dodds Carolyn
Thomas Jack
Sargeant Luke
Fletcher Cynnig bod
y Senedd: 1. Yn nodi: a) bod
nifer sylweddol o weithwyr o Gymru yn cael eu cyflogi mewn diwydiannau a fydd
yn cael eu newid yn sylweddol fel rhan o'r broses o drosglwyddo Cymru i economi
ddi-garbon; b)
pwysigrwydd sicrhau newid teg i economi ddi-garbon; c) cynllun
peilot incwm sylfaenol parhaus Llywodraeth Cymru ar gyfer y rhai sy'n gadael
gofal. 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried sut y
gellid ymestyn y cynllun peilot incwm sylfaenol i weithwyr yn y diwydiannau hyn
er mwyn llywio'r broses o drosglwyddo Cymru i economi ddi-garbon. |
|
Deddfwriaeth |
|
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol - Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor Busnes ar yr amserlen arfaethedig ar gyfer craffu ar y Bil
Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) |
|
Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) - Amserlen Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor
Busnes friff ar y broses ar gyfer craffu ar fil cydgrynhoi a chyfeiriodd Fil yr
Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) at y Pwyllgor Deddfwriaeth,
Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ar gyfer craffu. Cytunodd y Pwyllgor Busnes
i ohirio penderfyniad ar yr amserlen ar gyfer y Bil er mwyn ymgynghori â'r
Pwyllgor, a dychwelyd at y mater mewn cyfarfod yn y dyfodol. |
|
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Caffael Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i gyfeirio'r Memorandwm ar y Bil Caffael at y Pwyllgor Cyfrifon
Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar 6 Hydref 2022. |
|
Adolygu Rheol Sefydlog 34 a chyfranogiad o bell |
|
Papur ar ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor Busnes nifer
o’r darpariaethau presennol a gynhwysir yn Rheol Sefydlog 34 (Gweithdrefnau Brys)
a chytunodd i gynnig caniatáu i’r Rheolau Sefydlog a ganlyn fynd yn ddi-rym ar
1 Awst 2022:
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i
ddychwelyd at drafodaeth bellach ar y Rheolau Sefydlog mewn perthynas â Llywydd
Dros Dro Dynodedig (Rheol Sefydlog 34.2-4) a Chadeirydd Dros Dro yn y
Cyfarfodydd Llawn (Rheol Sefydlog 34.5-8) yn y cyfarfod canlynol. Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd y byddai
pleidleisio electronig o bell yn cael ei gadw yn y Rheolau Sefydlog i'w
ddefnyddio mewn sefyllfaoedd brys yn y dyfodol, ni waeth beth fo'r
penderfyniadau a wneir mewn cyfarfodydd dilynol ynghylch ei ddefnydd rheolaidd
parhaus. |
|
Unrhyw fater arall Cofnodion: Pleidleisiau o ran Bil Aelod Dywedodd y Llywydd wrth y Pwyllgor
Busnes y bydd yn cyhoeddi yn y Cyfarfod Llawn y prynhawn yma y cynhelir y balot
nesaf ar gyfer Biliau Aelodau ar 13 Gorffennaf. Bydd gwybodaeth am y broses yn
cael ei dosbarthu i'r Aelodau cyn diwedd y dydd. Cynhadledd Seneddol Flynyddol y
Gymanwlad (CPC) Gwahoddodd y Llywydd y Rheolwyr
Busnes i dynnu sylw eu grwpiau at y mater o bresenoldeb yng Nghynhadledd
Seneddol Flynyddol y Gymanwlad a gynhelir yng Nghanada rhwng 20 a 26 Awst. Mae
rheolau cangen y CPA yn nodi y dylai’r cynrychiolydd fod yn aelod benywaidd ar
yr adegau hynny pan fydd y Gynhadledd yn cael ei chynnal yr un pryd â
chynhadledd ac etholiad Seneddwragedd y Gymanwlad, a gaiff eu cynnal bob tair
blynedd. Fodd bynnag, nid yw'r gangen wedi cael cais gan Aelod benywaidd. Caiff
y Rheolwyr Busnes eu gwahodd i roi gwybod i’w grwpiau ac i fynd ar drywydd
unrhyw geisiadau gan Aelodau benywaidd. |