Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Via Zoom

Cyswllt: Graeme Francis 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r Pwyllgor. Anfonodd Jane Dodds a David Rees ymddiheuriadau.

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Pwyllgor Busnes at y newidiadau a ganlyn i fusnes dydd Mawrth:

 

  • Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Rhent Masnachol (Coronafeirws) Tynnwyd yn ôl
  • Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro (5 munud)
  • Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Rhent Masnachol (Coronafeirws) (15 munud)

 

Esboniodd y Trefnydd fod Llywodraeth Cymru wedi gosod Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Rhif 2) ar y Bil Rhent Masnachol (Coronafeirws) ar 3 Mawrth, ar ôl i'r cynnig gwreiddiol ar gyfer y ddadl gael ei gyflwyno. Felly, er mwyn sicrhau eglurder i'r Senedd, cafodd y cynnig ei dynnu yn ôl a'i ddisodli ar 7 Mawrth ac mae angen cynnig i atal y Rheolau Sefydlog er mwyn gallu trafod y cynnig newydd.

 

  • Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 8.00pm.    

 

Dydd Mercher 

 

  • Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.10pm. 

 

 

3.2

Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Pwyllgor Busnes at y newidiadau a ganlyn:

 

Dydd Mawrth 15 Mawrth 2022 -

·         Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Datblygu Cynllun Masnachu Allyriadau Net Sero Cyson y DU (45 munud)

 

Dydd Mawrth 22 Mawrth 2022 -

·         Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Y Gronfa Tai â Gofal (45 munud)

·         Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i drafod yr eitemau a ganlyn gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (15 munud)

  • Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2022
  • Gorchymyn Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998 (Awdurdod Ychwanegol) (Cymru) 2022

·         Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Anheddau Gwag Hirdymor ac Anheddau a Feddiennir yn Gyfnodol) (Cymru) 2022 (30 munud)

·         Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diogelwch Adeiladau (30 15 munud)

 

Yng ngoleuni’r ffaith y rhagwelir nifer o achosion pan fydd y Cyfarfod Llawn yn gorffen yn hwyr ar ddydd Mawrth, cynigiodd Darren Millar y gallai fod yn fuddiol dychwelyd at amserlennu datganiadau’r llywodraeth fel mater o drefn am 30 munud ac eithrio pan fydd diddordeb sylweddol gan Aelodau.  Trafododd y Pwyllgor Busnes oblygiadau hyn i nifer yr Aelodau y byddai modd eu galw a chytunwyd y dylai'r Llywodraeth ystyried hyn wrth iddi amserlennu busnes.

 

 

3.3

Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:

 

Dydd Mercher 30 Mawrth 2022 -

 

·         Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: 'Gwarchod y Dyfodol: Y rhwystr gofal plant sy’n wynebu rhieni sy’n gweithio’ (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

·         Dadl fer - Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr) (30 munud)

 

 

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor Busnes y wybodaeth ddiweddaraf am y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol cyfredol a chytunodd:

 

  • i beidio â chyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2) ar y Bil Rhent Masnachol (Coronafeirws) at bwyllgor i graffu arno yng ngoleuni'r ddadl a gynhelir heddiw.
  • nodi bod y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2) ar y Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir) wedi'i dynnu'n ôl a'i ddisodli; a chytunwyd i gadw'r dyddiad cau presennol ar gyfer adrodd, sef 31 Mawrth, hyd nes y bydd rhagor o wybodaeth am yr amserlen ar gyfer hynt y Bil yn San Steffan yn hysbys.

 

 

5.

Amserlen y Pwyllgorau

5.1

Adolygiad o amserlen y pwyllgorau a chylchoedd gwaith y pwyllgorau

Cofnodion:

Adolygiad o amserlen y Pwyllgor

 

Rhoddodd y Rheolwyr Busnes adborth o’u trafodaethau gyda grwpiau a chytunwyd ar y cynigion ar gyfer amserlen ddiwygiedig i’r pwyllgorau i’w gweithredu ar ôl toriad y Pasg, gan ymgorffori un newid i’r cynnig gwreiddiol (yn ymwneud ag amserlen slot cyfarfod ar gyfer y Pwyllgor Cyllid Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus) yn dilyn ymgynghoriad â Fforwm y Cadeiryddion.

 

Bydd yr amserlen ddiwygiedig yn rhoi slot cyfarfod bob pythefnos i'r mwyafrif o bwyllgorau ond gyda slotiau wrth gefn wedi'u clustnodi ar gyfer cyfarfodydd ychwanegol lle bo angen. Nid yw bellach yn cynnwys wythnosau gwarchodedig. 

 

Bydd y Pwyllgor Busnes yn llunio adroddiad yn manylu ar y broses adolygu a’r canlyniad.