Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Zoom
Cyswllt: Aled Elwyn Jones
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Dywedodd y Llywydd wrth y Pwyllgor Busnes mai hwn fyddai
cyfarfod olaf Clerc presennol y Pwyllgor Busnes cyn symud i'r Swyddfa Gyflwyno.
Diolchodd y Rheolwyr Busnes i'r Clerc am y gefnogaeth a'r cyngor a roddwyd i'r
pwyllgor dros y blynyddoedd. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi. |
|
Trefn Busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Busnes yr
wythnos hon Dydd Mawrth ·
Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei
gynnal fel yr eitem olaf o fusnes. ·
Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol
o fynd y tu hwnt i 7.05pm. Dydd Mercher ·
Caiff y Cyfnod
Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer. ·
Nid yw'r
Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.50pm. Cododd y
Rheolwyr Busnes bryderon eto am gyhoeddiadau polisi sylweddol gan Lywodraeth
Cymru sy'n cael eu gwneud i'r cyfryngau yn hytrach nag i'r Senedd. Ailadroddodd
y Llywydd mai ei barn hi ers tro oedd y dylai cyhoeddiadau polisi sylweddol
gael eu gwneud yn y Cyfarfod Llawn, ac y byddai'n parhau i ddefnyddio ei
disgresiwn i dderbyn Cwestiynau Amserol yn ymwneud â materion o'r fath. |
|
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i weithio ar y sail na fyddai unrhyw adalw dros doriad yr haf,
oni bai bod consensws gwleidyddol i wneud hynny. Byddai unrhyw Gyfarfod Llawn a
gaiff ei adalw yn gyfarfod rhithwir. |
|
Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor
Busnes i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen: Dydd
Mercher 29 Medi 2021 – ·
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog
11.21(iv): (60 munud) ·
Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr
Cymreig (60 munud) |
|
Deddfwriaeth |
|
Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Asiantaeth Ymchwil a Dyfeisio Blaengar, y Bil Sgiliau ac Addysg Ôl-16 a'r wybodaeth ddiweddaraf am Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol cyfredol Cofnodion: Memoranda Cydsyniad
Deddfwriaethol ar Fil yr Asiantaeth Ymchwil a Dyfeisio Blaengar, y Bil Sgiliau
ac Addysg Ôl-16 a'r wybodaeth ddiweddaraf am Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol
cyfredol Nododd y
Pwyllgor Busnes y sefyllfa ddiweddaraf o ran Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol,
a chytunodd i gyfeirio'r Memorandwm ar Fil yr Asiantaeth Ymchwil a Dyfeisio
Blaengar at Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, y Pwyllgor Plant,
Pobl Ifanc ac Addysg a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar 21 Hydref 2021. Cytunodd y pwyllgor hefyd i gyfeirio’r Memorandwm ar y Bil Sgiliau ac
Addysg Ôl-16 at Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, y Pwyllgor
Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar 21 Hydref 2021. |
|
Sefydlu Pwyllgorau a’u cylchoedd gorchwyl |
|
Amserlen y Pwyllgorau Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor Busnes ar yr amserlen, a chytunodd hefyd i ganiatáu i'r Pwyllgor
Deisebau gael cyfarfod ychwanegol fore Llun yn wythnos 1 i'w helpu i glirio unrhyw
ddeisebau a dderbyniwyd dros yr haf. |
|
Y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor Busnes mai’r Dirprwy Lywydd ddylai gadeirio'r pwyllgor, ac y byddai
tri aelod Llafur, dau aelod o’r Ceidwadwyr ac un aelod o Blaid Cymru ar y
pwyllgor. Cytunodd y
Rheolwyr Busnes i drafod cylch gwaith ac aelodaeth y pwyllgor ymhellach, a
dychwelyd at y mater yn eu cyfarfod nesaf. |
|
Cylch gwaith pwyllgorau: cyfrifoldeb dros gyfiawnder a phlismona Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor Busnes y papur a chytunodd y dylid neilltuo materion polisi cyfiawnder
lefel uchel, megis datganoli cyfiawnder a phlismona, ac unrhyw faterion sy'n
ymwneud â deddfu, i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad.
Dylai materion eraill sy'n ymwneud â chymhwyso polisi cyfiawnder yn ymarferol
fod yn agored i waith craffu gan bwyllgorau polisi a deddfwriaeth priodol. |
|
Papurau i'w nodi |
|
Dadl y Pwyllgor Cyllid yn y Cyfarfod Llawn ar flaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru Cofnodion: Nododd y Pwyllgor
Busnes y llythyr, a chytunodd y dylai'r ddadl flynyddol ar flaenoriaethau'r
gyllideb ddychwelyd i fod yn ddadl a arweinir gan y pwyllgor yn y dyfodol. |
|
Unrhyw faterion eraill Cytunodd y Rheolwyr
Busnes i drafod y tu allan i'r pwyllgor pa effaith y byddai unrhyw newidiadau i
reoliadau Coronafeirws, a gyhoeddir gan y Prif Weinidog y diwrnod canlynol, yn
ei chael ar fformat busnes y Senedd o fis Medi. |