Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Zoom

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar y Cofnodion i'w cyhoeddi.

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at ychwanegu’r datganiad canlynol:

 

·         Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Adnewyddu a diwygio: cefnogi lles a chynnydd dysgwyr (45 Munud)

 

Cytunodd y Trefnydd i ymestyn yr eitem rheoliadau coronafeirws i 30 munud.

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i'r un cyfle arfaethedig i newid drosodd. Gofynnodd y Llywydd i'r Rheolwyr Busnes atgoffa'r Aelodau i adael y Siambr yn gyflym, ac i'r rhai sy'n dod i mewn i beidio â gwneud hynny nes bod y gloch wedi'i chanu.

 

Dywedodd y Llywydd wrth y Pwyllgor Busnes y bydd Aelodau'n parhau i gael 1 funud fesul cwestiwn atodol, a bydd gan arweinwyr y pleidiau 3 x 1 funud ar gyfer eu cwestiynau, fel o'r blaen.

 

Dydd Mercher

 

·         Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.

·         Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 4.30pm. 

 

 

3.2

Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Gofynnodd y Rheolwyr Busnes pryd y byddai eitemau pellach yn cael eu hychwanegu at yr amserlen 3 wythnos. Eglurodd y Trefnydd y bydd datganiadau'n cael eu hychwanegu at yr agenda ar gyfer 8 Mehefin yn ddiweddarach yr wythnos nesaf.

 

 

3.3

Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:

 

Dydd Mercher 9 Mehefin 2021 -

 

·                     Cwestiynau Amserol (20 mun)

·                     Datganiadau 90 Eiliad (5 mun)

·                     Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

·                     Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

·                     Dadl Fer (30 munud)

 

Dydd Mercher 16 Mehefin 2021 -

 

·                     Cwestiynau Amserol (20 mun)

·                     Datganiadau 90 Eiliad (5 mun)

·                     Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): (60 munud)

·                     Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

·                     Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

·                     Dadl Fer (30 munud)

 

Dydd Mercher 23 Mehefin 2021 -

 

·                     Cwestiynau Amserol (20 mun)

·                     Datganiadau 90 Eiliad (5 mun)

·                     Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): (60 munud)

·                     Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud) - gohiriwyd tan 30 Mehefin 2021

·                     Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (30 munud) – gohiriwyd tan 30 Mehefin 2021

·                     Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

·                     Dadl Fer (30 munud)

 

 

4.

Trefniadau cyflwyno

4.1

Trefniadau cyflwyno dros gyfnod y Sulgwyn 2021

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes y newidiadau canlynol i derfynau amser cyflwyno, oherwydd Diwrnod Gŵyl Banc y Sulgwyn a Diwrnod Braint ar 31 Mai a 1 Mehefin:

·         Cynigion i'w trafod ddydd Mawrth 8 Mehefin i'w cyflwyno erbyn 4.00pm ddydd Gwener 28 Mai; a

·         Cynhelir balotau ar gyfer cwestiynau llafar sydd i'w hateb ar 8 a 9 Mehefin am 9:30am ddydd Gwener 28 Mai.

 

 

5.

Comisiwn y Senedd

5.1

Comisiwn y Senedd

Cofnodion:

Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ohirio penderfyniadau ar benodi'r Comisiwn tan ar ôl yr hanner tymor.

 

 

6.

Sefydlu Pwyllgorau a’u Cylchoedd Gorchwyl

6.1

Sefydlu pwyllgor dros dro at ddibenion Rheol Sefydlog 21

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyflwyno'r cynigion arfaethedig i sefydlu'r Pwyllgor Is-ddeddfwriaeth Dros Dro (gan gynnwys ei deitl, ei gylch gwaith, ei aelodaeth a'i gadeirydd) i'w ystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 26 Mai, yn ogystal â chynnig i atal y Rheolau Sefydlog er mwyn caniatáu i'r cynnig i sefydlu'r pwyllgor gael ei ystyried. Nododd y Pwyllgor hefyd hyd y Pwyllgor Dros Dro.

 

 

6.2

Sefydlu pwyllgorau: Ystyriaeth gychwynnol

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ymgynghori â'u grwpiau, gyda'r bwriad i'r Pwyllgor Busnes wneud penderfyniadau ar ei ddewis ddull o weithredu yn y cyfarfod nesaf. Byddai swyddogion yn darparu modelu pellach i lywio ymgynghoriad â grwpiau.

 

 

Unrhyw faterion eraill

Y Swyddfa Gyflwyno

 

Gofynnodd y Trefnydd i’r trefniant bod y Swyddfa Gyflwyno yn aros ar agor ar nos Wener at ddibenion penodol gosod rheoliadau Covid yn parhau. Cytunodd y Pwyllgor Busnes.