Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gynadledda A - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Daniel Hurford 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad y Cadeirydd (9.00 - 9.10)

Papur 1 – Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Gorffennaf

 

Cofnodion:

§    Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ymunodd Hugh Widdis a Mike Redhouse yn rhithwir.

§    Soniodd y Cadeirydd am y cyfarfodydd a gynhaliwyd â’r Penaethiaid Staff ac Aelodau o’r Senedd ar 11 Hydref, a’r adborth cadarnhaol a gafwyd gan y rhai a oedd yn bresennol.

§    Rhoddodd Anna Daniel (Uwch-gynghorydd i'r Bwrdd) ddiweddariad ar y Bil Diwygio’r Senedd.

§    Rhoddodd Daniel Hurford (Clerc i’r Bwrdd) ddiweddariad ar gyfarfod cyntaf y rhwydwaith ‘Cross-UK Network’ a gynhaliwyd ym mis Medi. Grŵp yw’r ‘Cross-UK Network’ sy’n cynnwys swyddogion o’r Awdurdod Safonau Seneddol Annibynnol (IPSA), Comisiwn Cynulliad Gogledd Iwerddon (NIAC), Comisiwn y Senedd a Chorfforaeth Seneddol yr Alban (SPCB).

§    Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Gorffennaf.

Cam i’w gymryd:

§    Cyhoeddi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Gorffennaf

2.

Ailwerthusiad Adran Actiwari'r Llywodraeth (GAD) o gyfraniadau i Gynllun Pensiwn yr Aelodau (9.10 - 9.30)

Papur 2 – Cynllun Pensiwn Aelodau o'r Senedd – Prisio Actiwaraidd 2023

Cofnodion:

§    Croesawodd y Bwrdd Memet Pekacar (Actiwari Cynllun Pensiwn yr Aelodau, Adran Actiwari’r Llywodraeth) i drafod y prisiant diweddar o Gynllun Pensiwn yr Aelodau a’r opsiynau i’w trafod gan y Bwrdd o ran cyfraniadau at y Cynllun.

§    Cytunodd y Cadeirydd i ysgrifennu at y Pwyllgor Cyllid am effaith debygol 36 o Aelodau o’r Senedd ychwanegol ar y Cynllun Pensiwn, o fod wedi trafod hyn gydag Actiwari’r Cynllun.

Camau i’w cymryd:

§    Roedd y Bwrdd yn fodlon ar gynnig Adran Actiwari'r Llywodraeth y dylai cyfradd gyfrannu y Comisiwn at y Cynllun gael ei leihau o 19.9 y cant i 18 y cant, a chytunodd y gallai’r Adran lywio barn y Comisiwn ac Ymddiriedolwyr y Bwrdd pan ymgynghorir â hwy fel rhan o gamau nesaf yr Adran.

§    Cytunodd y Cadeirydd i ysgrifennu at y Pwyllgor Cyllid am effaith debygol 36 o Aelodau o’r Senedd ychwanegol ar Gynllun Pensiwn yr Aelodau, wedi i’r mater gael ei godi gyda’r Cadeirydd yn ystod sesiwn dystiolaeth y Pwyllgor Biliau Diwygio ar 11 Hydref.

3.

Diweddariadau ar Adolygiad Thematig y Rhaglen Waith Strategol (9.30 - 10.00)

Y wybodaeth ddiweddaraf, ar lafar:

-       Ffyrdd o weithio

-       Cymorth Staffio

-       Lwfans Cymorth i Bleidau Gwleidyddol

-       Taliadau a Chymorth Personol i’r Aelodau

Cofnodion:

§    Cyflwynodd aelodau'r Bwrdd ddiweddariadau ar yr adolygiadau thematig sy'n cael eu cynnal fel rhan o Raglen Waith Strategol y Bwrdd.

§    Nododd Syr David Hanson (Arweinydd y Bwrdd o ran Ffyrdd o Weithio) fod cam cyntaf yr adolygiad thematig hwn yn tynnu tua’i derfyn. Rhan o’r gwaith ar gyfer y cam cyntaf hwn oedd adolygu’r lwfansau a ddarperir i’r Aelodau a’u staff cymorth mewn perthynas â gweithio gartref a gweithio hybrid, a chyhoeddir diweddariad ar hyn yn fuan.

Cam i’w gymryd:

§    Y Bwrdd i anfon nodyn at yr Aelodau a’u staff cymorth i godi ymwybyddiaeth o’r darpariaethau sydd ar waith i gefnogi gweithio gartref a gweithio hybrid.

4.

Diweddariad ar yr Adolygiad Thematig Symleiddio (10.00 - 10.30)

Papur 3 – Adolygiad Thematig Symleiddio

Cofnodion:

§    Trafododd y Bwrdd bapur ar y gwaith o symleiddio’r adolygiad thematig hyd yma, a’r penderfyniadau y mae angen i’r Bwrdd eu gwneud yn hyn o beth.

§    Trafododd y Bwrdd y graddau yr oedd testun esboniadol yn briodol ar gyfer ei gynnwys yn y Penderfyniad.

§    Mae’r Bwrdd yn cytuno bod gwaith yn parhau, yn y gobaith y gellir drafftio opsiynau ar gyfer Penderfyniad wedi’i symleiddio ymhellach ar gyfer y Seithfed Senedd. Gofynnodd y Bwrdd am gael parhau â deialog ymchwiliol pellach gyda’r Comisiwn ar y mater hwn.

5.

Diweddariad Economaidd (10.45 - 12.00)

Papur 4 – Rhagolygon Economaidd

Papur 5 – Cefnogaeth o ran Costau Byw i Staff Cymorth 2023

Cofnodion:

§    Cafodd y Bwrdd ddiweddariad llafar gan Martin Jennings (Pennaeth Uned Craffu Ariannol y Tîm Ymchwil) ar yr hinsawdd economaidd bresennol a’r rhagolygon, gan gynnwys dyfarniadau cyflog yn y sector cyhoeddus yng Nghymru. Trafododd y Bwrdd y goblygiadau posibl i'r Penderfyniad.

§    Cytunodd y Bwrdd i ystyried y chwyddiant a’r cyfraddau llog uchel fel rhan o’i ystyriaeth o’r cymorth ariannol i staff cymorth, gan gynnwys addasiadau cyflog ar gyfer 2024-25.

Cam i’w gymryd:

§    Bydd y Bwrdd yn ystyried y dewisiadau sydd ar gael i gefnogi staff cymorth drwy’r argyfwng costau byw parhaus, a hynny yn ei gyfarfod ym mis Tachwedd.

6.

Ystyriaeth Gychwynnol o Adolygiad Blynyddol o'r Penderfyniad ar gyfer 2024/25 (12.00 - 13.15)

Papur 6 – Ymgynghoriad ar yr Adolygiad Blynyddol o'r Penderfyniad ar gyfer 2024/25

Cofnodion:

§    Adolygodd y Bwrdd y cwmpas arfaethedig ar gyfer yr ymgynghoriad ar yr adolygiad blynyddol.

§    Trafododd y Bwrdd nifer o gwestiynau allweddol yn ymwneud â’r materion sydd i’w cynnwys yn yr ymgynghoriad, a chytunodd y dylid darparu rhagor o wybodaeth cyn bod modd iddo wneud penderfyniad yn y cyfarfod ym mis Tachwedd.

§    Nododd y Bwrdd hefyd y byddai angen i unrhyw benderfyniad gael ei osod yng nghyd-destun y cyfyngiadau cyllidebol ehangach y mae’r Comisiwn a Chronfa Gyfunol Cymru yn eu hwynebu. 

Camau i’w cymryd:

§    Cytunodd y Bwrdd â chwmpas a dull gweithredu yr ymgynghoriad ar yr adolygiad blynyddol.

§    Cytunodd aelodau’r Bwrdd ar amserlen yr ymgynghoriad ar yr Adolygiad Blynyddol, gyda’r ymgynghoriad yn cael ei gynnal rhwng 15 Rhagfyr a 26 Ionawr, gyda thrafodaeth ar yr ymatebion yng nghyfarfod y Bwrdd ar 22 Chwefror. Byddai unrhyw newidiadau i’r Penderfyniad yn cael eu cytuno ar 14 Mawrth 2024. 

§    Bydd Ysgrifenyddiaeth y Bwrdd yn trefnu cyfarfod â’r Penaethiaid Staff a Chynrychiolwyr Undeb yn dilyn cyfarfod y Bwrdd ar 30 Tachwedd, i ddarparu cyfeiriad clir ar y newidiadau i’r Penderfyniad a gynigir fel rhan o’r ymgynghoriad.

7.

Tâl Cadeiryddion - Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19 Cymru a'r Pwyllgor Biliau Diwygio (14.00 - 14.25)

Papur 7 – Cydnabyddiaeth i Gadeiryddion Pwyllgor

 

Cofnodion:

§    Trafododd y Bwrdd y penderfyniad y mae’n ofynnol iddo ei wneud ar y cyflog ychwanegol sydd i’w dalu i Gyd-gadeiryddion Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19 Cymru ac i Gadeirydd y Pwyllgor Biliau Diwygio.

§    Nododd y Bwrdd y wybodaeth am raglen waith y Pwyllgor ac am gyfrifoldebau cyd-Gadeiryddion, a nododd mai rolau cyd-gadeirio yw’r rhain, yn hytrach na rolau ‘rhannu swyddi’. Nododd y Bwrdd hefyd y bydd gwaith y Pwyllgor Covid yn gymhleth, yn hollol newydd ac o ddiddordeb mawr i’r cyhoedd.

§    Nododd y Bwrdd y byddai taliad cyflogau Cadeiryddion Pwyllgor yn gymwys o’r dyddiad yr etholir yr Aelod yn Gadeirydd.

§    Nododd y Bwrdd fod un o gyd-Gadeiryddion y Pwyllgor Covid, a Chadeirydd y Pwyllgor Biliau Diwygio, eisoes yn cael cyflog ychwanegol.

§    Nododd y Bwrdd yr amgylchiadau eithriadol a arweiniodd at Gomisiwn y Senedd yn penodi cyd-Gadeiryddion ar gyfer Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19 Cymru. Bu’r Bwrdd hefyd yn trafod cost ganlyniadol y penderfyniad hwn i’r pwrs cyhoeddus yn sgil bod cyfran uchel o’r Aelodau yn dal swyddi ychwanegol yn y Senedd.

Camau i’w cymryd:

§    Cytunodd y Bwrdd ar lefel gyflog uwch ar gyfer pob cyd-Gadeirydd Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19 Cymru ac i Gadeirydd y Pwyllgor Biliau Diwygio

§    Cytunodd y Bwrdd y bydd y taliad o ran cyflogau deiliaid swyddi ychwanegol, ble bo’n briodol, yn weithredol o’r dyddiad yr etholir y Cadeiryddion.

§    Y Bwrdd i ysgrifennu at y Llywydd i roi gwybod am ei benderfyniad.

8.

Papur Diweddaru (14.25 - 14.40)

Papur 8 – Papur diweddaru

Cofnodion:

§    Nododd y Bwrdd y diweddariadau ar amrywiol faterion sy'n berthnasol i'w waith a hefyd ei flaenraglen waith.

§    Nododd y Bwrdd y diweddariad ar y rhwymedi McCloud ar gyfer Cynllun Pensiwn yr Aelodau, a recriwtio Cadeirydd newydd i’r Bwrdd Pensiynau.

§    Cafodd y Bwrdd ddiweddariad gan y Tîm Cymorth Busnes i Aelodau a chaiff ddiweddariad maes o law ynghylch dychwelyd cyfarpar ac asedau.

§    Cafodd y Bwrdd ddiweddariad gan Syr David Hanson ar yr ymweliadau â swyddfeydd etholaethol a gynhaliwyd ganddo ym mis Medi, pan fu’n ymweld â’r Aelodau a’u staff cymorth.

§    Croesawodd y Cadeirydd Natasha Davies (Uwch-ymchwilydd) i’r tîm a nododd strwythur newydd y tîm o ran Ysgrifenyddiaeth y Bwrdd.

§    Nododd y Bwrdd yr ohebiaeth a ddaeth i law gan y Prif Weithredwr a’r Clerc yn ymwneud â chynllunio cyllidebau ar gyfer 2024-25.

§    Trafododd y Bwrdd yr adroddiad cyllidebol diweddaraf ar gyfer mis Hydref 2023 gyda Lisa Bowkett (y Pennaeth Cyllid Dros Dro) a Craig Griffiths (Pennaeth Cymorth Busnes ac Ymgysylltu â’r Aelodau).

9.

Papur i'w nodi: Diweddariad Blynyddol gan Dîm Diogelwch y Senedd

Papur 9 – Diweddariad ysgrifenedig gan James Attridge

Cofnodion:

§    Nododd y Bwrdd y papur diweddaru blynyddol gan Dîm Diogelwch y Senedd.

 

Unrhyw faterion eraill

§    Rhoddodd y Cadeirydd wybod i’r Bwrdd am y cyfarfodydd sydd i’w cynnal ym mis Hydref gyda’r Llywydd a Chadeirydd yr Awdurdod Safonau Seneddol Annibynnol (IPSA).

§    Dywedodd y Cadeirydd y cynhelir cyfarfod nesaf y Bwrdd ar 30 Tachwedd, a chynhelir cyfarfodydd y Grŵp Cynrychiolwyr a sesiynau galw heibio ar 29 Tachwedd.