Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gynadledda C - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Huw Gapper 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad y Cadeirydd (9.00 - 9.05)

Papur 1 - Cofnodion 7 Gorffennaf

Cofnodion:

·       Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd ymddiheuriadau.

·       Nid oedd David Lakin, Swyddog Cymorth y Pwyllgor, yn bresennol oherwydd profedigaeth deuluol a mynegodd y Bwrdd eu dymuniadau gorau i David.

·       Llongyfarchodd y Bwrdd Joanna Adams ar ei dyrchafiad diweddar a diolchodd iddi am ei gwaith gwerthfawr yn cefnogi'r Bwrdd.

·       Croesawodd y Bwrdd Martha Da Gama Howells ac Angharad Coupar i’r Tîm Clercio.

·       Trafododd y Bwrdd hawliad Treuliau Eithriadol a dderbyniwyd gan Aelod, a phenderfynodd gymeradwyo'r hawliad yn amodol ar ymgynghori â Swyddog Cyfrifyddu'r Comisiwn, fel sy'n ofynnol yn ôl y Penderfyniad.

·       Soniodd y Bwrdd am ei ymweliadau â swyddfeydd grwpiau gwleidyddol a gynhaliwyd y diwrnod blaenorol, a chytunwyd ei fod wedi rhoi cipolwg defnyddiol ar sut mae'r grwpiau'n gweithredu ac yn defnyddio'r cyllid a ddarparwyd iddynt yn ôl y Penderfyniad, i gefnogi dyletswyddau seneddol yr Aelodau.

·       Gan fyfyrio ar faterion parhaus ar gyfer y Bwrdd, cytunwyd y byddai'r wybodaeth ddiweddaraf am oblygiadau treth yr Aelodau yn cael ei cheisio a'i thrafod yng nghyfarfod y Bwrdd ym mis Rhagfyr.

·       Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Gorffennaf.

Cam i’w gymryd:

·       Yr Ysgrifenyddiaeth i ysgrifennu at y Prif Weithredwr i ymgynghori ar y cais am Dreuliau Eithriadol.

·       Cynnwys goblygiadau treth ar yr agenda ar gyfer y cyfarfod ym mis Rhagfyr.

·       Cyhoeddi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Gorffennaf

2.

Eitem i'w thrafod: Diwygio'r Senedd (9.05 - 9.20)

Eitem lafaur

Cofnodion:

·       Soniodd y Bwrdd am ei gyfarfodydd a gynhaliwyd y diwrnod blaenorol gydag Arweinwyr Pleidiau. Dywedodd y Cadeirydd wrth y Bwrdd y bydd hi’n cyfarfod â’r Llywydd ddiwedd mis Hydref i drafod Diwygio’r Senedd.

·       Cytunodd y Bwrdd i ofyn am gyfarfod â Phrif Weinidog Cymru, pan fydd yn gyfleus iddo, i drafod diwygio’r Senedd.

Cam i’w gymryd:

·       Yr Ysgrifenyddiaeth i gysylltu â Swyddfa'r Prif Weinidog i drefnu cyfarfod.

3.

Eitem i wneud penderfyniad yn ei chylch: Y Cytundeb Cydweithio (9.20 - 9.45)

Papur 2 - Crynodeb o'r dystiolaeth a gafwyd gan Arweinwyr y Pleidiau ac Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru

 

Cofnodion:

·       Ystyriodd y Bwrdd yr holl dystiolaeth a gafwyd ar oblygiadau'r Cytundeb i gyflogau a lwfansau’r Aelodau, gan gynnwys llythyrau a dderbyniwyd yn ddiweddar gan y grwpiau gwleidyddol. 

·       Bu'r Bwrdd yn ystyried yr amrywiaeth o safbwyntiau a fynegwyd gan y grwpiau ar faterion, gan gynnwys rhannu'r lwfans Cymorth i Bleidiau Gwleidyddol. Unwaith eto nododd y Bwrdd y cyngor cyfreithiol a nododd nad yw Plaid Cymru yn blaid mewn llywodraeth. 

·       Penderfynodd y Bwrdd na ellir cyfiawnhau unrhyw newidiadau i lwfansau yng ngoleuni'r Cytundeb Cydweithio.

·       Mewn ymateb i gwestiwn penodol a godwyd gan Blaid Cymru cytunodd y Bwrdd y gall Aelodau hawlio ad-daliad am dreuliau a gafwyd fel Aelodau Dynodedig, ond nododd nad yw'r Penderfyniad yn caniatáu ar gyfer ad-dalu costau a gafwyd o ganlyniad i weithgarwch plaid wleidyddol. Cydnabu'r Bwrdd nad yw'r gwahaniaeth rhwng gweithgarwch seneddol a gweithgarwch plaid wleidyddol bob amser yn glir a bod yn rhaid i’r Aelodau ddefnyddio eu barn yn y modd gorau wrth wneud hawliadau am gostau yr eir iddynt. Mae enghreifftiau o weithgarwch sy'n gyfystyr â gweithgarwch plaid wleidyddol wedi'u nodi yn Rheol 1 o Reolau a Chanllawiau'r Swyddog Cyfrifyddu ar Ddefnyddio Adnoddau'r Senedd.  

Cam i’w gymryd:

·       Yr Ysgrifenyddiaeth i ddrafftio llythyr at Grŵp Plaid Cymru parthed Aelodau Dynodedig yn hawlio treuliau.

 

4.

Eitem i'w thrafod: Y wybodaeth ddiweddaraf am ddiogelwch (9.45 - 10.30)

Papur 3 – Y wybodaeth ddiweddaraf gan y gwasanaeth diogelwch

 

 

Cofnodion:

·       Cafodd aelodau’r Bwrdd ddiweddariad gan Dîm Diogelwch y Comisiwn ar drefniadau diogelwch yr Aelodau.

·       Roedd y Bwrdd yn falch o nodi'r cynnydd a wnaed o ran asesu gofynion yr Aelodau a darparu ar eu cyfer, a diolchodd i'r tîm am eu papur diweddu.

·       Nodwyd bod y Comisiwn yn ystyried parhad ac esblygiad y prosiect presennol i asesu gofynion diogelwch yr Aelodau. Mae'r Bwrdd yn cefnogi ei barhad i ddiwallu anghenion yr Aelodau.

 

5.

Eitem i wneud penderfyniad yn ei chylch: Costau byw/ Costau ynni (10.45 - 11.45)

Papur 4 – ymateb y Bwrdd i’r argyfwng costau byw a phrisiau ynni.

 

 

Cofnodion:

·       Bu'r Bwrdd yn ystyried tystiolaeth fanwl ar gostau byw yng Nghymru, y sefyllfa economaidd bresennol, effaith pwysau chwyddiant ar gostau busnes yr Aelodau ac ymateb Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill i'r argyfwng costau byw. Penderfynodd y Bwrdd barhau i adolygu'r sefyllfa a chael diweddariad pellach yn eu cyfarfod ym mis Rhagfyr. Bydd y dystiolaeth a ddarperir ym mis Rhagfyr yn helpu i lywio ei benderfyniad ynghylch unrhyw newidiadau y mae’r Bwrdd yn dymuno eu gwneud i’r Penderfyniad.

Cam i’w gymryd:

·       Y Bwrdd i adolygu'r sefyllfa fel y mae’n datblygu, yn y cyfarfod ym mis Rhagfyr.

 

6.

Eitem i wneud penderfyniad yn ei chylch: Adolygiad Thematig - Ffyrdd o weithio (11.45 - 12.30)

Papur 5 – Crynodeb o unrhyw dystiolaeth cam 1 sydd wedi dod i law ac opsiynau ar gyfer newidiadau i’r Penderfyniad ar gyfer 2023-24

Cofnodion:

·       Ystyriodd y Bwrdd faterion blaenoriaeth fuan o ran y cymorth sydd ei angen ar yr Aelodau a'u staff i hwyluso gweithio gartref neu waith hybrid, gan gynnwys y lwfans gweithio gartref, a chyfarpar ar gyfer swyddfeydd gartref. 

·       Iechyd a Diogelwch – Cytunodd y Bwrdd i adolygu'r darpariaethau yn y Penderfyniad sy'n ymwneud ag Iechyd a Diogelwch, i wneud pethau’n gliriach ac yn symlach. Cytunwyd y byddai'r adolygiad hwn yn cael ei arwain gan Hugh Widdis, gyda chefnogaeth swyddogion.

·       Lwfans gweithio gartref – cytunodd y Bwrdd i ystyried, fel rhan o’r Adolygiad Blynyddol, y ddarpariaeth yn y Penderfyniad ar gyfer y lwfans gweithio gartref, a sefydlwyd mewn ymateb i Covid-19.

·       Lwfans Dychwelyd i’r Swyddfa Covid-19 – Cytunodd y Bwrdd i gau’r gronfa hon o ddiwedd mis Tachwedd, ac i gyhoeddi hysbysiad yn rhoi gwybod y caiff y lwfans hwn ei gau ar gyfer unrhyw hawliadau newydd o ddiwedd mis Tachwedd.

 

7.

Eitem i wneud penderfyniad yn ei chylch: Adolygiad Thematig - Cymorth staffio i'r Aelodau (13.15 - 14.00)

Papur 6 – Cytuno ar gylch gorchwyl terfynol ac opsiynau ar gyfer newidiadau i’r Penderfyniad ar gyfer 2023/24

 

Cofnodion:

·       Nododd y Bwrdd yr adborth a ddaeth i law ar y cylch gorchwyl drafft ar gyfer yr adolygiad, a rannwyd â'r Grwpiau Cynrychioliadol a'r Prif Weithredwr a Chlerc yn ystod toriad yr haf.

·       Cytunodd y Bwrdd ar y cylch gorchwyl ar gyfer yr adolygiad.

·       Fel rhan o gam cyntaf yr adolygiad, ac yng ngoleuni galwadau am ragor o gefnogaeth staffio i Aelodau, bu’r Bwrdd yn trafod sylwadau a wnaed ar y mater hwn gan yr Aelodau yn ystod y flwyddyn hon, a newidiadau i faint a chymhlethdod llwyth gwaith yr Aelodau. Roedd y Bwrdd yn cydnabod bod cymhlethdod gwaith seneddol yr Aelodau wedi cynyddu.

·       Cytunodd y Bwrdd i ystyried hyn ymhellach fel rhan o'r adolygiad blynyddol o'r Penderfyniad ar gyfer 2023/24.

 

8.

Eitem i wneud penderfyniad yn ei chylch: Ystyriaeth gychwynnol o'r Adolygiad Blynyddol o'r Penderfyniad (14.00 - 14.45)

Papur 7 – Cytuno ar gwmpas y materion i fynd i'r afael â nhw yn yr adolygiad blynyddol.

 

Cofnodion:

·       Cytunodd y Bwrdd ar gwmpas yr adolygiad blynyddol ar gyfer 2023/24 a’i ddull o gyhoeddi’r ymgynghoriad.

·       Cytunodd y Bwrdd i ymgynghori am chwech wythnos (gan ei gyhoeddi yn gynnar ym mis Ionawr) ar newidiadau arfaethedig i’r Penderfyniad ar gyfer 2023/24, gyda’r bwriad o gyhoeddi Penderfyniad diwygiedig erbyn 1 Ebrill 2023.

·       O ran yr addasiad blynyddol mynegrifol i gyflogau Aelodau a staff cymorth, nododd y Bwrdd y bydd ffigurau’r Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion (ASHE) yn cael eu cyhoeddi ar 3 Tachwedd.

·       Yng ngoleuni canllawiau Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi na ddylai’r £25 y gall Aelodau ei hawlio am aros gyda ffrindiau neu deulu tra ar fusnes y Senedd gael ei dalu mwyach, cytunodd y Bwrdd i ymgynghori ar ddod â’r ddarpariaeth hon i ben fel rhan o’r adolygiad blynyddol.

·       Yn sgil sylwadau gan Aelodau ar ddigonolrwydd y lwfans sydd ar gael ar gyfer aros dros nos mewn gwestyau yn Llundain, penderfynodd y Bwrdd ystyried y mater hwn fel rhan o'r adolygiad blynyddol.  

 

9.

Eitem i'w thrafod: Y wybodaeth ddiweddaraf a'r flaenraglen waith (14.15 - 15.00)

Papur 8 – Y wybodaeth ddiweddaraf am wahanol faterion

 

Cofnodion:

·       Cafodd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am recriwtio i swyddi newydd o fewn Tîm Clercio'r Bwrdd.

·       Er mwyn sicrhau gwerth am arian, cytunodd y Bwrdd y byddai gwaith i fynd i'r afael â'r materion teipograffyddol ac ieithyddol y gwyddys amdanynt yn rheolau Cynllun Pensiwn yr Aelodau yn cael ei ohirio nes y bydd adolygiad mwy sylweddol o reolau'r cynllun yn ofynnol.

·       Nododd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygu Cynllun Aberthu Cyflog Cerbydau Trydan Comisiwn y Senedd.

·       Cytunodd y Bwrdd y byddai’r cyfarfod a drefnwyd ar gyfer 8 Rhagfyr yn cael ei gynnal yn rhithwir.