Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gynadledda C - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Huw Gapper 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad y Cadeirydd: (9.00 - 9.05)

Cofnodion:

1.1         Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

1.2         Nid oedd Huw Gapper, Clerc y Bwrdd, yn bresennol oherwydd argyfwng teuluol a mynegodd y Bwrdd eu dymuniadau gorau i Huw.

1.3         Croesawodd y Bwrdd Lukas Santos-Evans i'r cyfarfod. Yn ddiweddar, mae Lukas wedi dechrau interniaeth 12 mis gyda Chomisiwn y Senedd a bydd yn rhoi cymorth i ysgrifenyddiaeth y Bwrdd yn ystod ei gyfnod yn y swydd.

1.4         Oherwydd y cynnydd mewn achosion o Covid-19 a risgiau cysylltiedig, penderfynwyd cynnal cyfarfod y Bwrdd yn rhithwir, yn ogystal â'r sesiwn galw heibio gyda'r Aelodau y diwrnod blaenorol. Mae'r Bwrdd yn bwriadu cynnal cyfarfod 'wyneb yn wyneb' ym mis Hydref.

1.5         Mynegodd y Bwrdd ei siom bod ymweliadau â swyddfeydd y Grwpiau wedi'u gohirio. Bydd y cyfarfodydd hyn yn cael eu haildrefnu ar gyfer mis Hydref.

1.6         Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Mai.

Action:

·         Yr Ysgrifenyddiaeth i aildrefnu’r ymweliadau â swyddfeydd y Grwpiau erbyn cyfarfod mis Hydref.

·         Cyhoeddi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Mai.

 

2.

Eitem i wneud penderfyniad yn ei chylch: Adolygiad canol y tymor o effeithiolrwydd (9.05 - 9.30)

Cofnodion:

2.1         Cytunodd y Bwrdd ar gylch gorchwyl, y cwmpas a’r amserlen ar gyfer Adolygiad o Effeithiolrwydd Canol Tymor y Bwrdd.

2.2         Cynhelir yr Adolygiad ym mis Tachwedd gan Gareth Watts, Pennaeth Llywodraethu a Sicrwydd, Comisiwn y Senedd.

3.

Eitem i'w thrafod ac i benderfynu arni: Adroddiad Blynyddol (9.30 - 10.00)

Cofnodion:

3.1         Cytunodd y Bwrdd ar ei Adroddiad Blynyddol drafft, yn amodol ar rai diwygiadau.

3.2         Cytunir ar yr Adroddiad drwy e-bost, gyda’r bwriad o’i osod gerbron y Senedd cyn gynted ag sy’n ymarferol bosibl.

Action:

·         Yr ysgrifenyddiaeth i drefnu cyfieithiad a pharatoi'r Adroddiad i'w gyhoeddi.

 

4.

Eitem i'w thrafod: Diwygio'r Senedd (10.00 - 11.00)

Huw Irranca-Davies AS, cyn Gadeirydd y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd;

Adam Vaughan, Uwch-swyddog Gweithredu Newid Cyfansoddiadol, Comisiwn y Senedd.

 

Cofnodion:

4.1         Bu’r Bwrdd yn ystyried papur ar Ddiwygio’r Senedd, a oedd yn canolbwyntio ar ganfyddiadau ac argymhellion Adroddiad y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd a’r camau nesaf a ragwelir ar gyfer Diwygio’r Senedd.

4.2         Roedd Huw Irranca-Davies, cyn-Gadeirydd y Pwyllgor Diben Arbennig yn bresennol yng nghyfarfod y Bwrdd a rhoddodd ei safbwynt ar waith y Pwyllgor a’r camau nesaf i wireddu Diwygio’r Senedd erbyn 2026.

4.3         Cytunodd y Bwrdd i siarad â’r grwpiau gwleidyddol yn gynnar yn nhymor yr hydref i ddeall eu safbwynt hwy ar effaith Diwygio’r Senedd ar anghenion o ran adnoddau. Nododd y Cadeirydd ei bod hi a’r Llywydd wedi cytuno i gyfarfodydd rheolaidd.

4.4         Nododd y Bwrdd y byddai angen iddo ystyried amcangyfrifon costau wrth baratoi ar gyfer y Bil ar Ddiwygio’r Senedd.

Action:

·         Yr ysgrifenyddiaeth i roi amlinelliad manwl i'r Bwrdd o'r gweithgarwch ymgysylltu â rhanddeiliaid mewn perthynas ag ystyriaeth y Bwrdd o ran Diwygio'r Senedd, cyn cynnal cyfarfod nesaf y Bwrdd ym mis Hydref.

5.

Eitem i wneud penderfyniad yn ei chylch: Adolygiad Thematig - Ffyrdd o weithio (11.15 - 12.15)

Cofnodion:

5.1         Cytunodd y Bwrdd ar gylch gorchwyl drafft ar gyfer ei adolygiad thematig o ffyrdd o weithio, yn ogystal â’i ddull gweithredu ac amserlenni ar gyfer yr adolygiad. Bydd y cylch gorchwyl yn cael ei rannu gyda'r grwpiau Cynrychiolwyr Aelodau a Staff i gael adborth cyn ei gwblhau. Cytunodd y Bwrdd y byddai Syr David Hanson yn arwain ar yr Adolygiad thematig hwn.

5.2         Cydnabuwyd y bydd adolygiad ffyrdd o weithio Comisiwn y Senedd yn cael ei gynnal ar yr un pryd ag adolygiad y Bwrdd ei hun. Y bwriad yw bod y Bwrdd a'r Comisiwn yn cynnal ymarferion ymgysylltu ar y cyd ag Aelodau a staff cymorth yr Aelodau.

5.3         Cytunwyd bod materion o flaenoriaeth uniongyrchol o ran ffyrdd presennol o weithio y mae angen eu hystyried a rhoi sylw iddynt mewn pryd ar gyfer yr Adolygiad blynyddol nesaf o’r Penderfyniad yn nhymor yr hydref.

5.4         Cytunodd y Bwrdd y byddai goblygiadau chwyddiant a chostau ynni cynyddol o ran lwfansau’r Aelodau yn cael eu hystyried y tu allan i'r adolygiad thematig hwn, gyda'r posibilrwydd o wneud newidiadau i'r Penderfyniad 'yn ystod y flwyddyn'.

5.5         Gofynnir am dystiolaeth gan randdeiliaid mewnol dros yr haf a dechrau'r hydref i lywio ystyriaeth y Bwrdd yng nghyfarfod mis Hydref.

Action:

·         Yr ysgrifenyddiaeth i wneud trefniadau ar gyfer casglu tystiolaeth dros yr haf ar gylch gorchwyl yr Adolygiad, er mwyn llywio ystyriaeth y Bwrdd yn nhymor yr hydref.

 

6.

Penderfyniad o ran yr eitem: Adolygiad staff cymorth (13.00 - 14.00)

Cofnodion:

6.1         Cytunwyd ar gylch gorchwyl drafft ar gyfer adolygiad thematig y Bwrdd o gymorth staffio i’r Aelodau.

6.2         Mae'r Adolygiad i'w gynnal mewn tri cham, gyda'r cam cyntaf yn canolbwyntio ar faterion i'w gweithredu ar unwaith.

6.3         Cytunodd y Bwrdd i ymgynghori'n anffurfiol â rhanddeiliaid mewnol (yn benodol y Grŵp Cynrychioli Aelodau a’r Grŵp Cynrychioli Staff Cymorth yr Aelodau) ar y cylch gorchwyl drafft cyn cyfarfod nesaf y Bwrdd fel y gall y canlyniadau lywio'r camau sy'n weddill o'r Adolygiad.

6.4         Enwebwyd Mike Redhouse fel yr Aelod o’r Bwrdd a fyddai'n arwain ar yr adolygiad thematig hwn.

Action:

·         Yr ysgrifenyddiaeth i wneud trefniadau i geisio barn ar y cylch gorchwyl dros yr haf, er mwyn llywio cytundeb y Bwrdd ar y cylch gorchwyl terfynol yn nhymor yr hydref.

7.

Eitem i'w thrafod ac i benderfynu arni: Cytundeb Cydweithrediad (14.00 - 14.30)

Cofnodion:

7.1         Bydd y Bwrdd yn ystyried effaith, os o gwbl, y Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru ar gyflogau a lwfansau Aelodau yn ei gyfarfod ym mis Hydref.

7.2         Gofynnir am dystiolaeth gan randdeiliaid mewnol a Llywodraeth Cymru dros yr haf i lywio penderfyniadau’r Bwrdd yn nhymor yr hydref.

Action:

·         Yr ysgrifenyddiaeth i wneud trefniadau i geisio barn dros yr haf ar unrhyw effeithiau'r Cytundeb Cydweithio, i lywio ystyriaeth y Bwrdd yn nhymor yr hydref o ran unrhyw newidiadau sydd eu hangen i'r Penderfyniad.

 

 

8.

Eitem i'w thrafod: Diweddariad a blaenraglen waith (14.30 - 14.50)

Cofnodion:

8.1         Nododd y Bwrdd ddiweddariadau ar:

·         adnoddau'r Bwrdd;

·         costau ynni;

·         hyfforddiant ac asesu DSE;

·         Diwygio'r Senedd;

·         cynllun cerbydau trydan y Comisiwn;

·         adolygiad y Pwyllgor Busnes o Reol Sefydlog 34 a chyfranogiad o bell;

·         Cynllun Pensiwn yr Aelodau – ymddiriedolwr a enwebwyd gan y Comisiwn;

·         gohebiaeth gan yr Aelodau o ran cardiau talu a’r cynllun Prentisiaeth;

·         cyllid y Bwrdd; a

·         blaenraglen waith y Bwrdd.

 

8.2         Cytunodd y Bwrdd i drefnu ei gyfarfod ffurfiol nesaf ar gyfer dydd Iau 13 Hydref, i'w gynnal yng Nghaerdydd.