Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lleu Williams
Rhif | Eitem |
---|---|
Sesiwn 1: Cynllunio strategaethau(9.30 - 11.00) Cofnodion: Cyflwyniad y
Cadeirydd 1.1 Croesawodd y
Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. 1.2 Mynegodd y
Bwrdd eu cydymdeimlad dwysaf â theulu Carys Evans, clerc blaenorol y Bwrdd, yn
dilyn ei marwolaeth. Cytunodd y Bwrdd i
roi gwybod i aelodau blaenorol y Bwrdd er mwyn rhoi cyfle iddynt hwythau hefyd
anfon eu cydymdeimlad. 1.3 Cyflwynodd y
Cadeirydd David Henson a’i groesawu i’r cyfarfod. Yn dilyn y cyfweliadau a
gynhaliwyd yn ddiweddar, eglurodd y Cadeirydd mai David oedd yr ymgeisydd a
ffefrir ar gyfer y sedd wag ar y Bwrdd. Nododd y Bwrdd y bydd angen i'r Comisiwn
gymeradwyo penodiad David yn ffurfiol ac y bydd angen cynnal yr holl wiriadau
fetio a chlirio angenrheidiol. Y bwriad yw i David ymuno â'r Bwrdd fel aelod
llawn yn y cyfarfod ym mis Medi.
Esboniodd y Cadeirydd y byddai David yn bresennol ar gyfer y gwaith o
gynllunio strategaeth ond y byddai'n gadael yn ystod cyfarfod ffurfiol y Bwrdd. 1.4 Cyflwynodd y
Cadeirydd Meirion Thomas a’i groesawu i’r cyfarfod. Penodwyd Meirion yn
hwylusydd allanol i'r Bwrdd ac mae’n cyfrannu at y gwaith o ystyried a
datblygu’r strategaeth. 1.5 Neilltuwyd
gweddill yr agenda, ar wahân i’r materion a amlinellir isod, ar gyfer cynllunio
strategaeth y Bwrdd. |
|
Sesiwn 2: Cynllunio strategaethau (11.30 - 13.00) |
|
Sesiwn 3: Sesiwn galw heibio gyda'r Aelodau (15:00 - 16:30)(15:00 - 16:30) |
|
Sesiwn 4: Cynllunio strategaethau (10.00 - 10.30) |
|
Sesiwn 5: Cynllunio strategaethau (11:00 - 12:00) |
|
Sesiwn 6: Cynllunio strategaethau (13:00 - 14:00) |
|
Sesiwn 7: Cyfarfod y bwrdd Papur 1 - Cofnodion cyfarfod 27 Mai Papur 2 - Papur diweddariad Papur 3 - Tâl Cadeiryddion Pwyllgorau Papur 4 - Adroddiad Blynyddol Cofnodion: Papur 1 -
Cofnodion; Papur 2 - Papur Diweddaru 7.1 Cymeradwyodd
y Bwrdd gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Mai 2021. 7.2 Trafododd y
Bwrdd y materion a gododd yr Aelodau yn ystod y sesiwn galw heibio a gynhaliwyd
y diwrnod blaenorol. 7.3 Trafododd y
Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am y cymorth sydd ar gael i’r Aelodau yng
nghyswllt Covid-19 a nododd y byddai Llywodraeth Cymru yn adolygu’r cyfyngiadau
ar 14 Gorffennaf. 7.4 Trafododd y
Bwrdd y sylwadau a oedd wedi dod i law ynghylch agor ac ailagor swyddfeydd.
Cytunodd y Bwrdd i dynnu sylw at Gronfa Dychwelyd i Swyddfeydd yn dilyn
Covid-19 a sut y gall yr Aelodau gael y cymorth ariannol a gynigir. 7.5 Trafodwyd
hefyd newidiadau strwythurol ehangach, a mwy arwyddocaol i gynllun y
swyddfeydd, gan ystyried a fyddai modd eu cynnwys yng nghwmpas y Gronfa
Dychwelyd i Swyddfeydd yn dilyn Covid-19. Roedd y Bwrdd yn sylweddoli y byddai
rhai o’r Aelodau efallai’n cael problemau penodol wrth sicrhau bod eu
swyddfeydd yn ddiogel o ran Covid.
Nododd y Bwrdd ei bod yn debygol y bydd cyfyngiadau ar allu'r Aelodau i
ymgymryd â newidiadau o’r fath fel lesddeiliaid. Yn unol â chyfarwyddyd
Llywodraeth Cymru i gymryd “mesurau rhesymol”, roedd y Bwrdd o'r farn y bydd
angen i Asesiadau Risg yr Aelodau ystyried amrywiol opsiynau i weithio mor
hyblyg â phosibl yng nghyd-destun cyfyngiadau strwythurol eu swyddfeydd. Nodwyd
y gallai’r Aelodau hawlio arian o’r Gronfa Costau Swyddfa a Chysylltu ag
Etholwyr os oedd angen cyngor a barn arbenigol arnynt i baratoi eu hasesiadau
risg. 7.6 Cytunodd y
Bwrdd y byddai’n ddefnyddiol cael tystiolaeth uniongyrchol gan yr Aelodau, yn
enwedig mewn perthynas â’r cymorth sydd ei angen arnynt i agor ac ailagor
swyddfeydd mewn modd sy’n “ddiogel o ran Covid”. I'r perwyl hwnnw, cytunodd y Bwrdd i adolygu'r
darpariaethau sydd ar gael i’r Aelodau i’w cynorthwyo â gofynion Covid yn y
cyfarfod ym mis Medi a gwahodd yr Aelodau i rannu gwybodaeth i'r Bwrdd ei
hystyried. 7.7 Trafododd y
Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am ymgysylltu â’r Aelodau dros doriad yr haf a chyn
y cyfarfod ym mis Medi. Hefyd, cytunodd
y Bwrdd i gynnal sesiynau galw heibio i’r Aelodau yn fwy rheolaidd, sef unwaith
bob tymor. 7.8 Nododd y
Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am lansio’i wefan newydd. 7.9 Cytunodd y
Bwrdd ar ei flaenraglen waith tan fis Ionawr 2022. Camau i’w
cymryd: Yr
ysgrifenyddiaeth i: - drefnu i gyhoeddi cofnodion y cyfarfod a
gynhaliwyd fis Mai; - rhoi gwybodaeth i’r Bwrdd i’w alluogi i
adolygu’r darpariaethau sydd ar gael i’r Aelodau a’u swyddfeydd, mewn perthynas
â Covid-19; - gofyn am dystiolaeth gan yr Aelodau yng
nghyswllt cymorth i fodloni gofynion Covid-19; - cwblhau’r rhaglen o ymweliadau â’r Aelodau
a’u swyddfeydd; - trefnu sesiynau galw heibio i'r Aelodau yn
y dyfodol, a chynnal y nesaf yn nhymor yr hydref; - trefnu cyfarfodydd i’r Cynrychiolwyr yn
ystod y cyfarfod ym mis Medi; - anfon lincs i’r fersiynau terfynol o’r wefan newydd at aelodau’r Bwrdd a threfnu iddi fynd yn fyw pan ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 7. |
|
Session 8: Strategy planning - wrap up and conclusions (16:15 - 16:30) |