Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Fideogynhadledd drwy Zoom

Cyswllt: Helen Finlayson 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(14.00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1  Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod; nid oedd unrhyw ymddiheuriadau.

1.2  Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, dywedodd y Cadeirydd ei bod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd.

1.3  Yn unol â Rheol Sefydlog 34.20, dywedodd y Cadeirydd fod Comisiwn y Senedd wedi penderfynu ei bod yn anymarferol darlledu'r trafodion.

1.4  Cytunodd yr Aelodau y dylid apwyntio fel Huw Irranca-Davies AS fel Cadeirydd Dros Dro os digwydd i’r Cadeirydd fethu cadeirio o ganlyniad i anawsterau technegol.

1.5  Nododd y Cadeirydd mai dyma oedd cyfarfod olaf Stephen Aldhouse fel Ail Glerc, ac estynnodd ddiolch iddo am ei gyfraniad at waith y Pwyllgor.

(14.00)

2.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod a chyfarfod nesaf y Pwyllgor

Cofnodion:

2.1  Derbyniwyd y cynnig.

(14.00–14.40)

3.

Blaenraglen waith

Cofnodion:

3.1  Ystyriodd y Pwyllgor ei flaenraglen waith.

(14.40–14.45)

4.

Papurau i'w nodi

Cofnodion:

4.1  Nodwyd y papurau.

4.1

Ymatebion i ymgynghoriad y Pwyllgor ar y cofnod o faterion a drafodwyd yn ystod digwyddiad i randdeiliaid y Pwyllgor ar gapasiti'r Senedd

Dogfennau ategol:

4.2

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ynghylch deddfwriaeth pwyllgor – 22 Ebrill 2020

Dogfennau ategol:

4.3

Cyflwyniad ysgrifenedig gan yr Athro Laura McAllister ynghylch mecanweithiau deddfwriaethol a Biliau drafft – Mai 2020

Dogfennau ategol: