Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Meriel Singleton 

Amseriad disgwyliedig: Cyfarfod preifat 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2        Cafwyd ymddiheuriadau gan Rhun ap Iorwerth; dirprwyodd Llyr Gruffydd ar ei ran.

2.

Trafod adroddiad gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i)

Cofnodion:

2.1 Nododd y Pwyllgor yr adroddiad gan y Comisiynydd Safonau Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i).

 

2.2 Gofynnodd Andrew RT Davies iddi gael ei nodi y byddai am i’r holl wybodaeth yn atodiad y Comisiynydd gael ei chyhoeddi yn hytrach na’i golygu. Fodd bynnag, barn y mwyafrif yn y Pwyllgor oedd y dylid golygu’r wybodaeth yn ymwneud â’r cyfarfod, gan ei fod o’r farn bod y crynodeb o’r materion a drafodwyd yn y cyfarfod, fel y’i nodir ym mharagraff 6.4 o adroddiad y Comisiynydd, yn ddigonol ar gyfer dealltwriaeth eglur o’r gŵyn a chanfyddiadau’r Comisiynydd yn yr achos hwn.