Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Meriel Singleton 

Amseriad disgwyliedig: Cyfarfod preifat 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

2.

Adroddiadau Blynyddol Grwpiau Trawsbleidiol: Trafod Adroddiad 2019-20

SoC(5)-12-20 Papur 1 - Adroddiad Blynyddol Grwpiau Trawsbleidiol 2019-20

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Gwahoddodd y Cadeirydd Owain Roberts, Pennaeth y Swyddfa Gyflwyno, Comisiwn y Senedd i gyflwyno Adroddiad Blynyddol Grwpiau Trawsbleidiol 2019-20.

 

2.2 Trafododd y Pwyllgor sut mae'r broses o adrodd ar grwpiau trawsbleidiol wedi gweithio yn y Bumed Senedd a chytunodd i gynnwys hyn fel rhan o'i adroddiad gwaddol.

3.

Recriwtio'r Comisiynydd Safonau

SoC(5)-12-20 Papur 2 - Recriwtio Comisiynydd Safonau newydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Trafododd y Pwyllgor y broses ar gyfer recriwtio Comisiynydd Safonau newydd.

 

3.2 Nododd y Pwyllgor y byddai'r cyfrifoldeb am y trefniadau gweinyddol yn cael ei ddirprwyo i Brif Weithredwr a Chlerc y Senedd.

 

3.3 Cytunodd y Pwyllgor i ystyried Disgrifiad Swydd drafft mewn cyfarfod sydd i ddod.

4.

Gweithdrefnau ac arferion gwaith y Pwyllgor

Cofnodion:

4.1 Trafododd y Pwyllgor ei weithdrefnau a’i arferion gwaith ar gyfer trin adroddiadau gan y Comisiynydd Safonau.