Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Meriel Singleton 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor.

 

(09.30 - 10.30)

2.

Ystyried adroddiadau gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i)

Cofnodion:

2.1 Trafododd yr Aelodau Adroddiad y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i) a chytuno ar benderfyniad ynglŷn â'r mater hwn.

2.2 Bydd y Clercod yn llunio adroddiad i'r Aelodau ei ystyried.

 

(10.30 - 11.00)

3.

Cod Ymddygiad - Adolygiad

SoC(5)-14-18 Papur 1 – Comisiwn y Cynulliad – Adroddiad ar Ganlyniadau’r Holiadur Urddas a Pharch

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Trafododd yr Aelodau Adroddiad Comisiwn y Cynulliad ar yr Arolwg Urddas a Pharch a gyhoeddwyd ar 19 Mehefin.