Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Meriel Singleton
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r
cyfarfod. 1.2 Dygodd y Cadeirydd sylw'r Aelodau at Adroddiad
Comisiwn y Cynulliad ar yr Arolwg Urddas a Pharch a gyhoeddwyd heddiw. Bydd y
Pwyllgor yn trafod yr adroddiad yn ei gyfarfod ar 26 Mehefin. 1.3 Nododd yr Aelodau adroddiad gan y Comisiynydd
Safonau o dan Reol Sefydlog 22.2 (i) a ddaeth i law ar 18 Mehefin. Bydd y
Pwyllgor yn trafod yr adroddiad yn ei gyfarfod ar 26 Mehefin. |
|
(09.30 - 10.30) |
Cod Ymddygiad - Adolygiad: Sesiwn Dystiolaeth Ben Lewis – Cyfarwyddwr, Cymorth a Lles Myfyrwyr, Prifysgol Caerdydd Patrick Wrangles – Pennaeth Iechyd a Llesiant, Prifysgol
Caerdydd Amy Sykes - Cydlynydd Llesiant ac Uwch Ymarferydd
Llesiant, Prifysgol Caerdydd Cofnodion: 2.1
Trafododd y Pwyllgor y Polisi Urddas a Pharch â Ben Lewis, Cyfarwyddwr, Cymorth
a Lles Myfyrwyr, Prifysgol Caerdydd, Patrick Wrangles, Pennaeth Iechyd a Lles,
Prifysgol Caerdydd ac Amy Sykes,
Cydlynydd Lles ac Uwch-ymarferydd Lles, Prifysgol Caerdydd, ar y cyd â'r gwaith
y mae Prifysgol Caerdydd wedi bod yn ymgymryd ag ef yn y maes hwn. |