Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Meriel Singleton
Amseriad disgwyliedig: Preifat
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(10.15) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. |
|
(10.15 - 10.40) |
Cod Ymddygiad - Adolygiad: Trafod y Polisi Parch ac Urddas SoC(5)-02-18 Papur 1 – Polisi Urddas a Pharch - Papur cyflwyno SoC(5)-02-18 Papur 2 – Polisi drafft Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1
Trafododd yr Aelodau y Cod Ymddygiad drafft a chytunwyd i ddychwelyd at yr
eitem hon yn y cyfarfod nesaf. |
|
Nodyn gan Jayne Bryant AC, Cadeirydd y Pwyllgor Esgusododd
Jayne Bryant ei hun ar gyfer Eitem 3, sef yr eitem ar yr Adroddiad gan y
Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.1(1). Roedd hyn oherwydd bod y
gŵyn a gyflwynwyd ar ran Grŵp Llafur y Cynulliad yn ei chynnwys hi. Paul
Davies AC oedd y Cadeirydd ar gyfer Eitem 3 yn dilyn cytundeb y Pwyllgor ar 15
Tachwedd 2016, ei fod yn cael ei ethol yn Gadeirydd dros dro. |
||
(10.40 - 11.00) |
Trafod adroddiadau gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i) Cofnodion: 3.1
Trafododd yr Aelodau yr adroddiad drafft a chytunwyd arno. |