Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Meriel Singleton 

Amseriad disgwyliedig: Preifat 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1       Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor.

1.2       Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

(09.30-10.00)

2.

Lobïo: Ystyried yr adroddiad terfynol

SoC(5)-10-17 Papur 1 - Adroddiad drafft

 

Cofnodion:

2.1 Ystyriodd yr Aelodau Ragair drafft y Cadeirydd i'r adroddiad a nododd y bydd adroddiad drafft terfynol yn cael ei ddosbarthu y tu allan i'r Pwyllgor.

 

(09.30 - 10.30)

3.

Diwygio'r Cynulliad

SoC(5)-10-17 Papur 2 - Briffio cyfreithiol ar oblygiadau Deddf Cymru 2017 i Adran 36 Deddf Llywodraeth Cymru 2006

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Rhoddodd Ymgynghorydd Cyfreithiol y Pwyllgor yr wybodaeth ddiweddaraf ar lafar i ychwanegu at ei bapur ar S36 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

3.2 Rhoddodd y Comisiynydd Safonau ei farn ar yr adran berthnasol ac awgrymodd ei fod yn siarad â'r Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus i ganfod a yw'n teimlo bod y trefniadau presennol yn foddhaol. Awgrymodd hefyd iddo edrych yn ôl ar y Protocol rhwng Cynulliad Cenedlaethol Cymru, y Comisiynydd Safonau, Prif Gwnstabl Heddlu De Cymru a Gwasanaeth Erlyn y Goron ar Ymchwilio i Droseddau Honedig o dan Adran 36(7) o Ddeddf Llywodraeth Cymru.

3.2 Gofynnodd y Pwyllgor i'r Comisiynydd Safonau fynd yn ei flaen fel yr awgrymwyd a chytunwyd i ailystyried y mater hwn unwaith y bydd wedi canfod y wybodaeth.