Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Meriel Singleton 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod. Ni chafwyd datganiadau o fuddiant.

2.

Gwrandawiad cyn penodiad Comisiynydd Safonau y Senedd

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd y Comisiynydd Safonau Dros Dro i'r cyfarfod.

 

2.2 Holodd y Pwyllgor y Comisiynydd Safonau Dros Dro ynghylch ei weledigaeth ar gyfer rôl y Comisiynydd Safonau drwy gydol y Chweched Senedd.

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:

Cofnodion:

3.1 Yn unol â Rheol Sefydlog 17.42, penderfynodd y Pwyllgor wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.

4.

Adolygu'r Cod Ymddygiad

Cofnodion:

4.1 Trafododd y Pwyllgor ei adolygiad o'r Cod Ymddygiad a'r gweithdrefnau cysylltiedig.

5.

Trafod adroddiad gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i)

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor adroddiad gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i).

6.

Papurau i'w nodi