Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Meriel Singleton 

Amseriad disgwyliedig: Cyfarfod preifat 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

(09.30 - 10.00)

2.

Cod Ymddygiad - Adolygiad

SoC(5)-08-18 Papur 1 - Polisi Urddas a Pharch Cynulliad Cenedlaethol Cymru (drafft)

SoC (5) -08-18 Papur 2 - Polisi Urddas a Pharch Cynulliad Cenedlaethol Cymru - Canllawiau atodol ar ymddygiad amhriodol (drafft)

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Trafododd yr Aelodau y polisi drafft diwygiedig, gan gytuno y byddai'r Cadeirydd yn ysgrifennu at Gomisiwn y Cynulliad yn nodi eu sylwadau.

 

(10.00 - 10.30)

3.

Trafod adroddiadau gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.1(i)

SoC(5)-08-18 Papur 3 - Adroddiad 01-18 o dan Reol Sefydlog 22.9

SoC(5)-08-18 Papur 4 - Adroddiad gan Syr John Griffith Williams QC o dan baragraff 8.6 o’r weithdrefn ar gyfer ymdrin â chwynion yn erbyn Aelodau’r Cynulliad

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Diolchodd y Cadeirydd i Paul Davies AC am ymdrin â'r adroddiad gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.1. Cyhoeddwyd adroddiad y Pwyllgor, 01-18, ar 17 Ebrill.

3.2 Trafododd y Pwyllgor y weithdrefn apelio, gan gytuno i ddychwelyd at y mater hwn mewn cyfarfod yn y dyfodol.