Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Meriel Singleton
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod
(PDF 243KB) Gweld fel HTML (118KB) |
||
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y
Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod. 1.2 Cafwyd
ymddiheuriadau gan David Rowlands AC. 1.3 Rhoddodd y
Cadeirydd deyrnged i'r Gwir Anrhydeddus Rhodri Morgan. 1.4 Cydymdeimlodd
y Cadeirydd, ar ran y Pwyllgor, â theuluoedd y rhai a gafodd eu heffeithio gan
y digwyddiad ym Manceinion ar 22 Mai. |
||
(09.45- 10.30) |
Ymchwiliad i Lobïo: Sesiwn dystiolaeth 4 Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil SOC(5)-05-17 Papur 1 - Ymateb i'r ymgynghoriad gan Unlock Democracy a
Spinwatch Alexandra
Runswick – Cyfarwyddwr, Unlock Democracy Yr Athro David
Miller – Cyfarwyddwr, Spinwatch Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Alexandra Runswick, Cyfarwyddwr
Unlock Democracy a'r Athro David Miller, Cyfarwyddwr Spinwatch, ynghylch yr
ymchwiliad i lobïo. 2.1 Cytunodd Alexandra Runswick i anfon copi o'r ymarfer mapio a wnaed ar
gofrestrau gwirfoddol sydd ar waith ar hyn o bryd. |
|
(10.30) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol: Eitem 4 Cofnodion: 3.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(10.30 - 11.00) |
Ymchwiliad i Lobïo: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law Cofnodion: 4.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law. |