Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Graeme Francis
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 22/10/2020 - Y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cafwyd
ymddiheuriadau gan y Cadeirydd, Ann Jones AS. Yn unol â Rheol Sefydlog 17.22, penodwyd
David Rees AS yn Gadeirydd dros dro ar gyfer y cyfarfod hwn. Croesawodd y
Cadeirydd dros dro bawb i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Dai Lloyd AS.
Ni chafwyd datganiadau o fuddiant. Yn unol â Rheol
Sefydlog 34.19, dywedodd y Cadeirydd ei fod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd
o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd. |
||
13:00 - 14:15 |
Sesiwn i graffu ar waith y Gweinidog Jeremy
Miles AS, Cwnsler Cyffredinol
a'r Gweinidog dros Bontio Ewropeaidd Liz
Lalley, Dirprwy Gyfarwyddwr – Adferiad, Llywodraeth Cymru |
|
Adferiad ac ailadeiladu ar ôl Covid-19 Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn
holi’r Cwnsler Cyffredinol ar gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer adferiad ac
ailadeiladu wedi pandemig Covid-19. |
||
14.15 -14.45 |
Sesiwn i graffu ar waith y Gweinidog Ken Skates AS -
Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru |
|
Dyfodol Gwasanaethau Rheilffyrdd Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn
holi Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru ar ddyfodol
gwasanaethau rheilffyrdd yn dilyn ei datganiad
ysgrifenedig a gyhoeddwyd ar 22 Hydref 2020. |
||
15:00 - 16:30 |
Sesiwn i graffu ar waith y Gweinidog Y Gwir Anrh Mark
Drakeford AS, Prif Weinidog Cymru Des Clifford -
Cyfarwyddwr Cyffredinol, Swyddfa’r Prif Weinidog |
|
Covid-19 |
||
Brexit a Phontio Ewropeaidd Dogfennau ategol: Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn
holi’r Prif Weinidog ar y camau cyfredol sy'n cael eu cymryd mewn perthynas â
Covid-19 a goblygiadau Brexit a Phontio Ewropeaidd i Gymru. |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn: Eitem 6. Cofnodion: Derbyniwyd y
cynnig. |
||
Trafod y sesiynau tystiolaeth blaenorol Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd yn ystod sesiynau tystiolaeth blaenorol. |