Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Graeme Francis 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 03/07/2020 - Y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog - Y Bumed Senedd

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod

 

Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, dywedodd y Cadeirydd ei bod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd.

 

Ni chafwyd ymddiheuriadau na datganiadau o fuddiant.

 

2.

Ymateb Llywodraeth Cymru i bandemig Covid-19 a'r adferiad

Y Gwir Anrhydeddus Mark Drakeford AS - Prif Weinidog Cymru

Jeremy Miles AS - Y Gweinidog fydd y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd

Andrew Goodall - Prif Weithredwr GIG Cymru a Chyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru

Tracey Burke – Cyfarwyddwr Cyffredinol Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru

Simon Brindle – Cyfarwyddwr Strategaeth Brexit, Llywodraeth Cymru

Andrew Slade –Cyfarwyddwr Cyffredinol Economi, Sgiliau a Chyfoeth, Llywodraeth Cymru

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Holodd y Pwyllgor y Prif Weinidog ynghylch ymateb Llywodraeth Cymru i bandemig Covid-19 a’r cynlluniau ar gyfer sicrhau adferiad yn y dyfodol. 

 

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol:

Item 4 and Item 5

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

 

4.

Trafod y dystiolaeth o'r sesiwn flaenorol

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd yn y sesiynau blaenorol a chytunodd i ysgrifennu at y Prif Weinidog er mwyn gofyn am ragor o wybodaeth am nifer o faterion a oedd yn weddill.

 

 

 

5.

Trefniadau cyfarfodydd yn y dyfodol

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i gynnal nifer cynyddol o gyfarfodydd yn nhymor yr hydref er mwyn hwyluso’r broses o wneud gwaith craffu parhaus ynghylch ymateb Llywodraeth Cymru i bandemig Covid-19. Cytunodd y Pwyllgor i drefnu dau gyfarfod gyda'r Prif Weinidog ar gyfer y Pwyllgor llawn, yn ogystal â dau gyfarfod gyda'r Cwnsler Cyffredinol ar gyfer is-grŵp o aelodaur Pwyllgor. Bydd cyfarfodydd yr is-grŵp yn ymdrin â chyfrifoldebaur Cwnsler Cyffredinol o ran goruchwylior gwaith adfer mewn perthynas â Covid-19.