Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Lleoliad Allanol. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Graeme Francis 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 14/02/2020 - Y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog - Y Bumed Senedd

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiant

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod a diolchodd i staff Ysgol Gymraeg Bro Dur am y croeso gafodd y Pwyllgor ac am y cymorth a roddwyd wrth drefnu'r cyfarfod, a diolchodd i'r disgyblion am eu hymgysylltiad ac am gynnig cwestiynau i'r Prif Weinidog.

 

Cafwyd ymddiheuriadau gan Mick Antoniw a Bethan Sayed.

 

2.

Newid hinsawdd a'r datganiad Argyfwng Hinsawdd

Y Gwir Anrhydeddus Mark Drakeford AC - Prif Weinidog Cymru

John Howells, Llywodraeth Cymru

Andrew Slade, Llywodraeth Cymru

Christine Wheeler, Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Holodd y Pwyllgor y Prif Weinidog am gamau gweithredu Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â newid hinsawdd yn dilyn y datganiad Argyfwng Hinsawdd.

 

3.

Sesiwn i Graffu ar Waith y Gweinidog - Materion Amserol

Y Gwir Anrhydeddus Mark Drakeford AC - Prif Weinidog Cymru

Cofnodion:

Gofynnodd yr Aelodau gwestiynau i'r Prif Weinidog ar faterion amserol.

 

Cytunodd y Prif Weinidog i ddarparu gwybodaeth bellach am yr oedi wrth roi pasys bws newydd i bobl hŷn yng Nghymru

 

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:

Eitem 5

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

 

5.

Trafod y dystiolaeth o'r sesiwn flaenorol

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth o'r sesiynau blaenorol a chytunodd i ysgrifennu at y Prif Weinidog yn gofyn am wybodaeth bellach am nifer o faterion, gan gynnwys argaeledd gwefrwyr cyflym ar gyfer cerbydau trydan a sut mae proses gosod cyllideb Llywodraethau Cymru yn chwarae rôl wrth gyflawni datgarboneiddio.