Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Graeme Francis 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 25/10/2019 - Y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog - Y Bumed Senedd

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a datganiadau o fuddiant

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

 

Cafwyd ymddiheuriadau gan Janet Finch-Saunders a Russell George.

 

2.

Materion ynghylch y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd

Y Gwir Anrhydeddus Mark Drakeford AC - Prif Weinidog Cymru

Liz Lalley, Llywodraeth Cymru

Des Clifford, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn craffu ar waith y Prif Weinidog ynghylch y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.

 

3.

Sesiwn i Graffu ar Waith y Gweinidog - Materion Amserol

Y Gwir Anrhydeddus Mark Drakeford AC - Prif Weinidog Cymru

Cofnodion:

Gofynnodd yr Aelodau gwestiynau i'r Prif Weinidog ar faterion amserol.

 

Cytunodd y Prif Weinidog i ddarparu’r canlynol:

·         nodyn ar y trafodaethau y mae ei swyddogion yn eu cael gyda Vertex Pharmaceuticals ar argaeledd y cyffur ffibrosis systig Orkambi yng Nghymru; a

·         chadarnhad a yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud asesiad o effaith ansicrwydd mewn perthynas â buddsoddiad gan Gronfa Bensiwn Byddin Twrci ar ddyfodol y diwydiant dur yng Nghymru.

 

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:

Eitem 5

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig

 

5.

Trafod sesiynau tystiolaeth blaenorol

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth o’r sesiynau blaenorol a chytunwyd ar y trefniadau ar gyfer cyfarfod nesaf y Pwyllgor ym mis Chwefror 2020.