Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Lleoliad Allanol. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Graeme Francis 

Amseriad disgwyliedig: Canolfan Cwmbrân ar gyfer Pobl Ifanc 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 476KB) Gweld fel HTML (270KB)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.  Cafwyd ymddiheuriadau gan y canlynol:

Jayne Bryant; Russell George; Mike Hedges; Bethan Jenkins a Simon Thomas.

 

2.

Sesiwn i graffu ar waith y Gweinidog - Hawliau Plant a Phobl Ifanc

Y Gwir Anrhydeddus Carwyn Jones AC - Prif Weinidog Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Bu'r Pwyllgor yn craffu ar waith y Prif Weinidog o ran dull Llywodraeth Cymru o ymgorffori hawliau plant a phobl ifanc yng Nghymru yn ei deddfwriaeth, ei pholisïau a'i harferion.

 

2.2 Cytunodd y Prif Weinidog i ddarparu rhagor o wybodaeth neu eglurhad i'r Pwyllgor ynghylch y canlynol:

·         Sefydlu mecanwaith ffurfiol, fel Pwyllgor Cynghori Pobl Ifanc, i wrando ar farn plant a phobl ifanc fel rhan o'r broses o adael yr Undeb Ewropeaidd;

·         Ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddarpariaeth mynediad agored cyffredinol i bobl ifanc, ledled Cymru.

 

2.3 Ymrwymodd y Cadeirydd i ddarparu unrhyw enghreifftiau i'r Prif Weinidog o'r anawsterau y mae pobl ifanc yn eu cael wrth gael lleoliadau profiad gwaith, a gafwyd drwy waith ymgysylltu y Pwyllgor.

 

3.

Sesiwn i Graffu ar Waith y Gweinidog - Materion Amserol

Cofnodion:

Gofynnodd yr Aelodau nifer o gwestiynau i'r Prif Weinidog ar faterion amserol.

 

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:

Eitem 5

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

 

5.

Trafod y dystiolaeth o'r sesiwn flaenorol

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd yn y sesiynau blaenorol a chytunodd i ysgrifennu at y Prif Weinidog i ofyn am ragor o wybodaeth am nifer o faterion.